Gweithrediadau Canolfan Gyswllt - Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12-18 mis
Gweithrediadau Canolfan Gyswllt - Lefel 2Dysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych yn gweithio mewn Canolfan Gyswllt ac am ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol dyma'r cwrs i chi.
Mae'r cymwysterau hyn wedi'u cynllunio i ddarparu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i sicrhau cysylltiadau effeithiol â chwsmeriaid Canolfan Gyswllt.
Gofynion mynediad
- Yn cael eich cyflogi mewn Canolfan Gyswllt
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Caiff cynllun dysgu unigol ei lunio mewn ymgynghoriad â chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn ymweld â chi'n rheolaidd yn y gweithle. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd ac i ddangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Byddwch yn cyflwyno i'ch asesydd dystiolaeth o sefyllfaoedd gwaith y gwnaethoch ddelio â hwy. Gall y dystiolaeth gynnwys:
- Astudiaethau Achos
- Cwestiynau ac atebion
- Trafodaethau
- Negeseuon e-bost neu lythyrau i ategu'ch tystiolaeth ysgrifenedig
- Tystiolaeth tystion gan eich cydweithwyr neu'ch rheolwr llinell
Bydd eich llyfrau gwaith, ynghyd â'r gwaith ymarferol a wnewch tuag at eich NVQ, yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol.
Bydd yr elfen Sgiliau Hanfodol yn seiliedig ar arsylwadau a gwaith portffolio.
Dilyniant
Mae cyfleoedd gwych i fynd ymlaen i astudio am gymhwyster uwch megis Tystysgrif NVQ Lefel 3 EDEXCEL mewn Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
n/aBusnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: