Diogelwch Nwy yn y cartref (CCN 1)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyfforddiant- 1 neu 2 diwrnod
Asesiad- hyd at 3 diwrnod
Diogelwch Nwy yn y cartref (CCN 1)Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae cynllun asesu ACS yn cwmpasu ystod o sectorau o fewn y diwydiant nwy is: domestig, masnachol, nwy petrolewm hylifedig (LPG) a darparwyr gwasanaethau brys (ESP).
Byddai’r ymgeisydd fel arfer yn cynnal asesiad ‘craidd’ sy'n ddibynnol ar y maes gwaith a nodir, e.e. CCN1 neu COCN 1 ac yna un neu fwy o asesiadau offer neu arbenigol e.e. CENWAT neu CIGA1. Mae asesiadau cyfnewid hefyd ar gael.
Mae tystysgrifau ACS fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd. Bydd ymgeiswyr yn gymwys i gwblhau ailasesiad pan ddaw'r dystysgrif i ben. Gellir cwblhau'r ailasesiad hyd at 6 mis cyn dyddiad y daw'r cymhwyster cychwynnol i ben (arddull MOT). Rhaid cyflwyno tystysgrifau blaenorol i'r ganolfan asesu fel tystiolaeth o feddu ar y cymhwyster cychwynnol.
Gofynion mynediad
O ran yr asesiadau ACS cychwynnol, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad a ddiffinnir gan Reolau'r Cynllun Asesu (Categori 1/Categori 2 (ymgeisydd newydd â sgiliau trosglwyddadwy)/ ymgeisydd newydd heb unrhyw sgiliau na phrofiad trosglwyddadwy).
Rhaid bod ymgeiswyr sy'n dymuno cwblhau ailasesiad eisoes fod wedi cwblhau'r elfen asesu - os yw'r elfen hon wedi dod i ben mwy na 12 mis cyn y dyddiad asesu, bydd rhaid cwblhau’r asesiad cychwynnol eto.
Nid oes angen i unrhyw ymgeiswyr sy'n bodloni'r rhagofynion yn llawn gwblhau hyfforddiant gloywi asesiadau ACS. Fodd bynnag, efallai y bydd ymgeiswyr yn dymuno cwblhau hyfforddiant gloywi i'w paratoi'n well ar gyfer y broses asesu ACS.
Cyflwyniad
NID yw hyfforddiant yn rhagofyniad ar gyfer asesiad, er bydd rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dewis dilyn rhyw fath o hyfforddiant cyn cwblhau’r asesiad.
Mae Canolfannau Asesu fel arfer yn rhoi'r cyfle i ymgeiswyr gwblhau hyfforddiant cyn yr asesiad.
Asesiad
Mae asesiadau fel arfer yn cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a theori. Bydd NICEIC yn uwchlwytho canlyniadau'r asesiad i'r Gofrestr Gas Safe ar ôl i’r ymgeiswyr gwblhau'r asesiad yn llwyddiannus.
Dilyniant
- Diogelwch Craidd - Nwy LPG
- Cymwysterau nwy masnachol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig