Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 wythnos, 3 awr yr wythnos
Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar ddechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.
Cwrs rhagarweiniol yw hwn a gynlluniwyd i roi pobl ar ben y ffordd gyda chwnsela ac i ddynodi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddatblygu yn eu rôl broffesiynol neu bersonol.
Nod y cwrs yw adnabod sefyllfaoedd yn y gwaith lle mae gofyn defnyddio sgiliau cwnsela, fel gwrando empathig, a deall agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a all hwyluso neu lesteirio'r berthynas gwnsela.
Bydd yn eich helpu i:
- ddod i ddeall y sgiliau cwnsela craidd sy'n cynnwys gwrando'n weithredol ac yn empathig ynghyd ag ymateb yn effeithiol;
- dod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol e.e. rôl tiwtor wrth ddysgu a gwybod pryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin Cwnsela – Lefel 2
Sawl wythnos yw'r cyrsiau?
Mae’r cyrsiau Agored ar y safle yn 15 wythnos academaidd o hyd.
Mae cwrs ar-lein CPCAB yn 30 wythnos academaidd o hyd.
Faint mae L2 yn gostio?
Gall prisiau newid bob mis Medi ond i roi syniad i chi, y prisiau ym mis Medi 2024 oedd:
- Cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2 Agored - £249.
- Tystysgrif CPCAB Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela - £679.
Bydd y pris cyfredol ar gyfer y cwrs i'w weld ar-lein cyn i chi wneud cais.
A allaf gymryd rhan yn y dosbarthiadau ar-lein?
Darperir cyrsiau CPCAB yn gyfan gwbl ar-lein.
Darperir cyrsiau Agored ar y safle ac ni ellir eu cwblhau ar-lein.
Pryd mae'r cwrs yn dechrau
Mae’r dyddiadau cychwyn yn amrywio ar gyfer ein cyrsiau gwahanol yn dibynnu ar y galw.
Fodd bynnag, fel arfer bydd cwrs Lefel 2 Agored yn dechrau ym mis Medi a mis Ionawr, ac fel arfer cynigir Lefel 2 CPCAB ym mis Medi.
Ar ba ddiwrnod/amser mae'r cwrs?
Mae'r diwrnod yn amrywio ar gyfer pob cwrs ond cynhelir y cyrsiau gyda'r nos fel arfer rhwng 6pm a 9pm.
A allaf dalu mewn rhandaliadau?
Gallwch, bydd angen i chi dalu blaendal o 20% o leiaf ac yna cytunir ar randaliadau gyda’n Hadran Gyllid sydd fel arfer yn:
- uchafswm o 4 rhandaliad ar gyfer ffioedd dysgu o £100-£500
- 8 rhandaliad ar gyfer ffioedd dysgu dros £500.
Bydd gofyn i chi sefydlu archeb sefydlog gyda'ch banc os byddwch yn talu mewn rhandaliadau.
Pryd y gallaf weithio fel Cwnselydd
Ar ôl cwblhau Tystysgrif Lefel 4 mewn Cwnsela neu BSc Cwnsela
Beth yw'r llwybr gorau i gymhwyso yn Gwnselydd cymwys
Cwblhau Lefel 2, Lefel 3 a Thystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn cwnsela neu cwblhau'r FSc/BSc mewn cwnsela.
A oes rhaid i mi gwblhau Lefel 2?
Gallwch ddewis dechrau gyda’r FSc mewn Cwnsela ond os dewiswch astudio drwy’r llwybr Agored neu CPCAB gofynnwn i bawb gwblhau L2 gan ei fod yn sefydlu'r lefel dysgu sylfaenol ac yn llwybr dilyniant. Yr unig eithriad fyddai os oes gennych o leiaf 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CPCAB Lefel 2 ac Agored Lefel 2?
Mae model CPCAB yn trafod damcaniaethau yn ymwneud â chwnsela yn fwy manwl, yn cynnig persbectif ar amrywiaeth a gwell dealltwriaeth ohonom ni ein hunain. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau sylfaenol i ddysgwyr ddefnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn ddiogel mewn amrywiaeth o gyd-destunau a rolau.
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer:
- Y rhai sy'n dechrau ar y lefel gyntaf o hyfforddiant fel cynghorydd proffesiynol
- Y rhai sydd eisiau dysgu sgiliau cwnsela mewn rolau proffesiynol neu gynorthwyol eraill
- Y rhai sydd am wella eu cydberthnasau proffesiynol a phersonol fel rhan o ddatblygiad personol
Gallai'r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth neu gynyddu cyflogadwyedd i'r rhai sydd mewn rôl lle maent yn cefnogi eraill mewn e.e. gwaith iechyd a gofal cymdeithasol, addysgu a dysgu, eiriolaeth a chyfryngu, cymorth a gwaith prosiect, rolau cynorthwyol eraill.
Mae hefyd angen cwblhau arholiad allanol wrth gwblhau'r cymhwyster CPCAB.
Gellir cwblhau'r cyrsiau CPCAB ar-lein ac mae'r cyrsiau Agored i'w cwblhau wyneb-yn-wyneb.
Mae’r cwrs Agored yn ymdrin â rhai agweddau ar wybodaeth ddamcaniaethol ond mae'n canolbwyntio'n bennaf ar sgiliau cyfathrebu ymarferol. Mae'r cwrs hefyd yn edrych ar ddulliau moesegol a sut y rhoddir adborth.
A allaf wneud CPCAB L3 os byddaf yn gwneud Agored Lefel 2
Ddim fel arfer, er y gall fod yn bosibl yn ddibynnol ar hyfforddiant a phrofiad blaenorol. Mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau 75 awr o hyfforddiant cwnsela er mwyn dechrau ar CPCAB Lefel 3 neu 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu.
Rwy'n 18 oed ond byddaf yn 19 oed hanner ffordd drwy'r cwrs.
Mae angen i chi fod yn 19 oed pan fydd y cwrs yn dechrau ar gyfer y dosbarthiadau Agored a gynhelir ar y safle. Gallwch ddechrau cwrs ar-lein Lefel 2 CPCAB yn 18 oed.
Mae gen i ddiddordeb mewn mynychu’r cwrs gyda fy ffrind/partner/perthynas/priod, a all y ddau ohonom fynychu?
Gall peth o'r cynnwys fod braidd yn bersonol. Felly, byddem yn argymell eich bod yn dewis sesiwn cwrs gwahanol ac yn mynychu ar wahân, oherwydd efallai y cewch mwy o fudd o'r cwrs drwy fynychu sesiynau gwahanol i'ch gilydd.
Ar gyfer y cwrs L2 Agored, faint o waith fydd angen i mi ei wneud y tu allan i'r cwrs?
Disgwylir i ddysgwyr gadw dyddlyfr myfyriol yn wythnosol a chwblhau llyfr gwaith. Mae hyn tua 2-3 awr o astudio hunangyfeiriedig yr wythnos.
Dyddiadau Cwrs
Bangor (New Campus) (Only use for 2425 PT courses)
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
04/02/2025 | 18:00 | Dydd Mawrth | 3.50 | 15 | £249 | 2 / 18 | HH4351P |
Coleg Llandrillo, Rhos-on-Sea
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Con** | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
05/02/2025 | 18:00 | Dydd Mercher | 3.00 | 15 | £249 | 3 / 18 | HH4351B |
Coleg Llandrillo, Y Rhyl
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
06/02/2025 | 18:00 | Dydd Iau | 3.50 | 15 | £249 | 1 / 20 | HH4351S |
Gofynion mynediad
Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar ddechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng:
- Cyflwyniadau
- Darlithoedd
- Gwaith cwrs
- Gweithgareddau ymarferol
- Llyfr Gwaith
Dyddiad Cychwyn
Medi a Ionawr
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfwng:
- dyddlyfr dysgu
- hunanasesu
- arfarniad cymheiriaid
- gwerthuso drwy drafod
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela a Theori
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cwnsela
Dwyieithog:
n/a