Prentisiaethau ym maes Cyfryngau Digidol Creadigol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 mis
Prentisiaethau ym maes Cyfryngau Digidol CreadigolPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Prentisiaeth Lefel 3 ym maes Cyfryngau Creadigol a Digidol yn ymdrin â'r sgiliau lefel mynediad sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y diwydiannau hyn. Mae'n cynnig llwybr gwahanol i gyflogaeth i unigolion sy'n ffynnu wrth ddysgu mewn sefyllfaoedd ymarferol. Mae'n ddull cyffrous ac arloesol o gael mynediad i ddiwydiannau ym maes Cyfryngau Creadigol. Yn ogystal â dysgu'r sgiliau mwyaf diweddar a pherthnasol, bydd prentisiaid yn cyfrannu at dwf busnesau, yn creu rhwydweithiau gwerthfawr yn y diwydiant ac yn ennill cyflog ar yr un pryd.
Gofynion mynediad
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond bydd profiad o'r diwydiant creadigol yn ddymunol.
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Mae'r Brentisiaeth Lefel 3 ym maes Cyfryngau Creadigol a Digidol yn ymdrin â'r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr newydd mewn meysydd fel cynhyrchu darllediadau, cyfryngau rhyngweithiol, ffilm, delweddu ffotograffig, gwaith camera a goleuo.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Dwyieithog:
n/aY Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: