Cynhyrchu Cyfryngau Digidol Creadigol Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Pwllheli
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
2 flynedd
Cynhyrchu Cyfryngau Digidol Creadigol Lefel 3Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
A oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gyrfa werth chweil yn y diwydiant ffilmiau? Neu a hoffech fod yn un o'r genhedlaeth nesaf a fydd yn gweithio ar gynyrchiadau teledu?
Os oes gennych ddiddordeb byw ym myd teledu, ac os oes gennych restr o gyfarwyddwyr ffilmiau sy'n eich ysbrydoli, mae'n bosib mai dyma'r cwrs i chi.
Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosib gymwysterau Lefel 3 eraill.
Gofynion mynediad
- 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- Sesiynau ymarferol
- trafodaethau
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Gwaith ymarferol
- Cynyrchiadau gorffenedig
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Arholiadau allanol
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych nifer o ddewisiadau academaidd a phroffesiynol o fewn diwydiant y cyfryngau .
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Gradd Sylfaen (FdA) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Dwyieithog:
n/aY Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
