Prentisiaeth Uwch - Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel 5
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 mis
Prentisiaeth Uwch - Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel 5Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r brentisiaeth lefel uwch (lefel 5) hon wedi'i chynllunio gyda chymorth cyflogwyr er mwyn creu llwybr mynediad a dilyniant anraddedig i reoli ym maes treftadaeth ddiwylliannol. Nod y brentisiaeth yw cynnig dewis amgen i'r llwybrau Addysg Uwch traddodiadol i mewn i'r sector.
Mae’r sector treftadaeth ddiwylliannol yn cynnwys llawer o feysydd gwaith cydgysylltiedig a chyfunol, gan dorri ar draws meysydd fel Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd, Archifau, y diwydiannau creadigol a gwasanaethau twristiaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae Treftadaeth Ddiwylliannol a’r amgylchedd hanesyddol yn rhan annatod o gyfansoddiad economi Cymru.
Gofynion mynediad
- Unrhyw gymhwyster Lefel 3 a'r gallu i weithio ar lefel Addysg Uwch.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cymhwyster yn y gweithle gydag asesydd dros gyfnod o 18 mis. Caiff ei asesu drwy e-bortffolio.
Mae'r unedau a gynigir yn cynnwys:
Unedau gorfodol (rhaid cwblhau pob un)
- Gofalu am gasgliadau
- Mynediad i a dealltwriaeth am gasgliadau mewn sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol
- Treftadaeth Ddiwylliannol – Rheoli Casgliadau
- Bodloni anghenion defnyddwyr sefydliadau diwylliannol
Unedau dewisol (rhaid cwblhau un)
- Cynllunio busnes ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol
- Rheoli safleoedd a diogelwch mewn lleoliadau treftadaeth ddiwylliannol
- Sgiliau arwain a rheoli'r gweithlu mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol
- Cynhyrchu incwm mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol
Mae’r fframwaith prentisiaeth hefyd yn cynnwys sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar gyfer y rhai nad oes ganddynt y cymhwyster dirprwy perthnasol. Bydd y Sgiliau Hanfodol yn cael eu cyflwyno ar-lein a bydd angen dod i'r coleg i sefyll y profion. Mae'r hyd yn amrywio yn ôl yr unigolyn.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
- Gradd Sylfaen/Gradd Anrhydedd mewn disgyblaeth berthnasol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
Dwyieithog:
Darpariaeth dwy-ieithog ar gael