Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwasanaethau i Gwsmeriaid ac Uwchwerthu ar gyfer Manwerthu a Lletygatwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Dolgellau, Parc Menai - Busnes@LlandrilloMenai, Llwyn Brain
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 diwrnod (6 awr)

    ffi cwrs: £95

Gwnewch gais
×

Gwasanaethau i Gwsmeriaid ac Uwchwerthu ar gyfer Manwerthu a Lletygatwch

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Codwch eich sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid a gwerthu i uchelfannau newydd gyda’n cwrs cynhwysfawr ar Wasanaethau i Gwsmeriaid ac Uwchwerthu sydd wedi’i deilwra ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd manwerthu a lletygarwch. Yn y farchnad

gystadleuol sydd ohoni heddiw, mae gwasanaethau ardderchog i gwsmeriaid a thechnegau uwchwerthu effeithiol yn

hanfodol ar gyfer codi refeniw a meithrin teyrngarwch cwsmeriaid. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio’n ofalus i roi'r wybodaeth, y sgiliau

a'r strategaethau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ragori yn y meysydd hollbwysig hyn.

Amcanion Dysgu Allweddol:
 Meistroli Argraffiadau Cyntaf:

Dysgwch sut i greu argraff gadarnhaol barhaol, gan osod y llwyfan ar gyfer rhyngweithiadau rhagorol â chwsmeriaid a fydd yn
annog busnes cyson ac atgyfeiriadau cadarnhaol.

Deall Cwsmeriaid:

Dysgwch am ymddygiadau, dewisiadau a disgwyliadau amrywiol cwsmeriaid, gan ddysgu rhagweld a mynd i'r afael â'u hanghenion yn
effeithiol.

Cyfathrebu Effeithiol

Cewch wella eich sgiliau cyfathrebu er mwyn meithrin perthynas, cyfleu gwybodaeth yn glir, ac ymgysylltu â chwsmeriaid yn ystyrlon.

Hanfodion Uwchwerthu

Archwiliwch hanfodion uwchwerthu a thraws-werthu i gynyddu gwerthiant a gwella boddhad cwsmeriaid.

Gwybodaeth am y Cynnyrch

Datblygwch ddealltwriaeth ddofn o'ch cynigion er mwyn gallu argymell atebion yn hyderus a bodloni anghenion cwsmeriaid.

Adnabod Cyfleoedd

Dysgwch i adnabod a manteisio ar gyfleoedd uwchwerthu wrth oresgyn heriau a gwrthwynebiadau cyffredin.

Arferion Moesegol

Archwiliwch oblygiadau moesegol arferion gwerthu, cynnal uniondeb ac ymddiriedaeth wrth gynyddu gwerthiannau.

Datblygiad personol

Cewch feithrin meddylfryd o ddysgu parhaus a hunan-wella er mwyn ffynnu mewn diwydiannau manwerthu a lletygarwch deinamig.

Gofynion mynediad

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer manwerthwyr, cynrychiolwyr gwasanaethau i gwsmeriaid, staff rheng flaen, rheolwyr, ac unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant manwerthu neu letygarwch ac sydd eisiau gwella ei sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid ac uwchwerthu.

Cyflwyniad

Sesiynau a addysgir yn bersonol, cyflwyniadau a gwaith grŵp. Gellir cyflwyno'r cwrs ar safle'r cyflogwr os bydd digon yn dangos
diddordeb.

Asesiad

Dim asesiad furfiol.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Abergele
  • Dolgellau
  • Parc Menai - Busnes@LlandrilloMenai, Llwyn Brain

Dwyieithog:

Oes.

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth