Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sgiliau Digidol ar gyfer Dylunio Gwefannau, Gemau a Chyfryngau - Lefel 1

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Cofrestrwch
×

Sgiliau Digidol ar gyfer Dylunio Gwefannau, Gemau a Chyfryngau - Lefel 1

Dysgwyr sy'n Oedolion

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n llawn syniadau ac yn mwynhau bod yn greadigol?Felly beth am ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn diwydiannau'n ymwneud â Thechnoleg Gwybodaeth/Gemau/Cyfryngau?

Byddwch yn magu hyder, creadigrwydd a gwreiddioldeb yn y ffordd rydych yn defnyddio rhaglenni digidol, yn ogystal â meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dylunio gwefannau, fideos, animeiddiadau a chynnyrch aml-gyfryngol ym myd gwaith.

Byddwch yn dysgu:

  • Ysgrifennu ar gyfer y We: Dreamweaver a sgiliau HTML5
  • Cyfryngau: Fideo, Sain ac Animeiddio 2D
  • Dylunio Gemau: Dysgu'r sgiliau dylunio sydd eu hangen i greu cynnyrch ar gyfer marchnadoedd apiau a gemau'r dyfodol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Bydd yr asesiadau'n amrywiol ac yn cynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp, tasgau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau ac adolygiadau (un-i-un a gyda chyd-fyfyrwyr).

Asesiad

Caiff yr unedau'u hasesu ar sail gwaith cwrs; nid oes arholiadau allanol.

Dilyniant

  • Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Datblygu Gemau Lefel 2
  • TGCh a Datblygu Meddalwedd Lefel 2
  • Cyfryngau Newydd – Dylunio a Datblygu Lefel 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Myfyriwr yn chwarae gemau cyfrifiadurol
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date