Diploma Lefel 3/4 mewn Astudiaethau Sylfaen: Celf a Dylunio
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Parc Menai (Celf a Dylunio), Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Diploma Lefel 3/4 mewn Astudiaethau Sylfaen: Celf a DylunioLlawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n meddwl o ddifri am fod yn artist proffesiynol neu gynllunydd? Hoffech chi weithio ac astudio gydag eraill sy'n frwdfrydig ac yn dalentog? Os felly dylech ystyried gwneud cais ar gyfer cwrs Sylfaen CBAC.
Mae'r cwrs ar gael yn llawn amser ac mae wedi ei gynllunio yn arbennig i'ch paratoi ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth yn y dyfodol o fewn maes Celf a Dylunio. Mae'n addas ar gyfer ystod o fyfyrwyr, gydag amrywiaeth o gefndiroedd academaidd a chreadigol.
Mae'r cwrs yn brofiad pleserus a heriol. Byddwch yn cymryd y camau cyntaf mewn hyfforddiant fel artist proffesiynol neu ddylunydd gyda chyfleodd i archwilio amrywiaeth eang o bynciau celf a dylunio arbenigol. Mae safon y gwaith a gyflawnir ar gwrs Sylfaen CBAC yn uchel a bydd hyn yn eich paratoi chi ar gyfer gofynion cystadleuol Addysg Uwch.
Bydd gofyn i chi ddod i gyfweliad a dangos eich bod yn addas drwy arddangos portffolio o waith. Dylai hyn gynnwys nifer sylweddol o luniau yn deillio o arsylwi, yn ogystal â phaentiadau, crefftau, tecstilau, gwaith 3D, ffotograffiaeth ac unrhyw waith creadigol arall yr ydych wedi ei greu.
Gofynion mynediad
Mae myfyrwyr fel arfer yn 18 oed yn y flwyddyn mynediad a byddent yn dal o leiaf 5 TGAU ar radd C neu'n uwch.
Mewn rhai achosion, derbynnir myfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol, ar sail portffolio eithriadol o waith celf a dylunio.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu mewn Stiwdios a Gweithdai
- Gwaith tiwtorial
- Ymweliadau addysgol i un o wledydd Ewrop
- MOODLE (awyrgylch ddysgu rhithiol)
- Google Classroom
- Artistiaid a Dylunwyr sy'n Arfer eu Crefft
Bydd eich rhaglen yn cynnwys dau gwrs sgiliau hanfodol lefel 2 neu 3 mewn Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau/Aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau unigol i diwtoriaid arbenigol
- Gwaith portffolio, gan gynnwys blog
- Perfformio ac arsylwi
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwyster sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i Addysg Uwch. Ar sail tystiolaeth blynyddoedd diweddar a data UCAS bydd gan fyfyrwyr sy'n cwblhau cwrs sylfaen CBAC siawns gwych o ennill lle ar gwrs lefel uwch, yn cynnwys nifer o'r cyrsiau gradd gorau yn y DU.
Anogir pob un o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai i wneud cais am le ar gyrsiau addysg uwch ar draws y DU, ond, os hoffech astudio'n lleol, mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig nifer o gyrsiau addysg uwch addas, gan gynnwys:
- Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio
- BA (Anrh) Celfyddyd Gain
- Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth (a BA (Anrh) Ffotograffiaeth (Atodol))
Ymhlith yr opsiynau Addysg Uwch eraill, mae cyrsiau gradd sy'n arbenigo mewn meysydd fel ffasiwn, tecstilau, celfyddyd gain, dylunio graffig, amlgyfryngau, dylunio 3D, dylunio crefftau, dylunio cynnyrch, dylunio dodrefn, a phensaernïaeth, i enwi ond rhai.
Ceir cyngor gyrfaol arbenigol gan ein staff yn ogystal ag ymweliadau â cholegau a phrifysgolion.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
- International
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Parc Menai
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth