Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Cofrestrwch
×

Diploma in Management

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diploma Pearson Lefel 3 mewn Rheolaeth (Cymhwyster Cyfun) yn ddelfrydol ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisoes â rhai cyfrifoldebau rheoli. Mae’r cymhwyster cyfun hwn yn seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ac yn adeiladu a datblygu sgiliau newydd i wella eu gyrfa reoli.

Byddwch yn:

  • Datblygu eich portffolio o sgiliau rheoli hanfodol

  • Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad personol a phroffesiynol

  • Sicrhau dealltwriaeth fanwl o'r hyn a ddisgwylir gan reolwr

  • Rheoli'ch tîm yn effeithiol

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i unigolion gael cyfrifoldebau rheoli eisoes er mwyn cwblhau’r cymhwyster.

Cyflwyniad

Bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei lunio gyda chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn cysylltu â chi o bell yn y gweithle. Byddwch yn adeiladu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut y gwnaethoch gyrraedd y Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith o ddydd i ddydd, a'ch bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.

Asesiad

Asesir yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth trwy dystiolaeth yn y gweithle gan gynnwys: - cwestiynau ac atebion, astudiaethau achos, trafodaeth broffesiynol, cyflwyniadau, tystiolaeth cynnyrch a datganiadau tyst.

Dilyniant

Lefel Rheolaeth4, Lefel 4 Rheoli Prosiect, neu Lefel 4 Gweinyddu Busnes.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth