Diploma in Team Leading
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 mis
Diploma in Team LeadingDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Diploma Pearson Lefel 2 mewn Arwain Tîm (Cymhwyster Cyfun) yn ddelfrydol ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisoes â rhai cyfrifoldebau arwain tîm. Bydd y cymhwyster cyfun hwn yn seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd, ac yn datblygu a dangos eich cymhwysedd fel Arweinydd Tîm, Arweinydd Adran.
Byddwch yn datblygu ac yn dangos y sgiliau a'r wybodaeth i ddatblygu cymwyseddau craidd y rolau uchod, gan gynnwys arddulliau arwain tîm, dynameg tîm, datrys problemau, darparu cefnogaeth, rheoli gwaith timau a thechnegau cyfathrebu.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i unigolion gael cyfrifoldebau arwain tîm eisoes er mwyn cwblhau’r cymhwyster.
Cyflwyniad
Bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei lunio gyda chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn cysylltu â chi o bell yn y gweithle. Byddwch yn adeiladu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut y gwnaethoch gyrraedd y Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith o ddydd i ddydd, a'ch bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Asesir yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth trwy dystiolaeth yn y gweithle gan gynnwys: cwestiynau ac atebion, astudiaethau achos, trafodaeth broffesiynol, cyflwyniadau, tystiolaeth cynnyrch a datganiadau tyst.
Dilyniant
Mae cwblhau'r cwrs hwn yn caniatau i chi symud ymlaen mewn addysg ac mewn cyflogaeth.
Dilyniant i Ddiploma mewn Rheolaeth Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: