Lluniadu a Pheintio
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Canolfan Cefnfaes - Bethesda
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
8 wythnos, 2 awr yr wythnos
Lluniadu a PheintioPotensial (Dysgu Gydol Oes)
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, cewch eich cyflwyno i sgiliau sylfaenol lluniadu a pheintio. Cewch eich dysgu i luniadu drwy arsylwi, a'r bwriad yw meithrin eich gallu i wneud marcio a defnyddio iaith weledol bersonol. Efallai bod gennych eisoes rai sgiliau lluniadu a / neu beintio a'ch bod yn awyddus i'w gwella drwy ddilyn y cwrs hwn. Mae'n gwrs poblogaidd ac yn aml yn fan cychwyn i waith creadigol gweledol pellach.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk
Dyddiadau Cwrs
Canolfan Cefnfaes
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
24/09/2024 | 12:00 | Dydd Mawrth | 3.00 | 10 | Am ddim | 1 / 13 | D0021134 |
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ond rhaid wrth frwdfrydedd dros y pwnc ac awydd i ddysgu.
Cyflwyniad
Gwaith ymarferol, arddangosiadau a dulliau arbrofol.
Asesiad
Caiff yr uned ei hasesu a'i dilysu'n fewnol ar ddiwedd y cwrs 8 wythnos.
Dilyniant
Cyrsiau hamdden byr eraill i ddatblygu portffolio neu gorff o waith personol.
Datblygu portffolio er mwyn ymuno â chyrsiau llawn neu ran-amser eraill - er enghraifft, darpariaeth Lefel 2 neu 3 megis Diplomau neu Astudiaethau Sylfaen UAL mewn Celf a Dylunio.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dwyieithog:
n/aCelf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
![Myfyriwr yn gwneud llun](/imager/images/Programme-Areas/357267/GLLM-CM-ParcMenai-11_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)