Cymorth Cyntaf Brys - Cymhwyster Lefel 3 (1 diwrnod)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dolgellau, Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Busnes@LlandrilloMenai Llwyn Brain, Parc Menai
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod (6 Awr)
Cymorth Cyntaf Brys - Cymhwyster Lefel 3 (1 diwrnod)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cymhwyster yw paratoi dysgwyr i fod yn swyddogion cymorth cyntaf brys yn y gweithle. Mae cynnwys y cymhwyster yn cyrraedd gofynion Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) o ran hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf brys yn y sefydliadau hynny sydd wedi nodi bod angen i'w staff dderbyn hyfforddiant i'r lefel hon yn eu hasesiad anghenion cymorth cyntaf.
Mae'r cymhwyster yn ymdrin â gwybodaeth megis rolau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf, sut i asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau o anaf neu salwch. Mae'r cymhwyster hefyd yn ymdrin â sgiliau cymorth cyntaf o ran CPR a defnyddio diffibriliwr yn ogystal â helpu person anafedig sy'n tagu a delio â gwaedu allanol a sioc hypofolemia. Yn unol â chanllawiau a ddarparwyd gan y HSE, mae'r cymhwyster yn cefnogi/cymeradwyo swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle am gyfnod o dair blynedd ac yna bydd gofyn iddynt wneud y cwrs eto. Yn ogystal â hyn, argymhellir bod dysgwyr yn atgoffa eu hunain o'r wybodaeth yn flynyddol.
Gofynion mynediad
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 14 oed o leiaf.
Cyflwyniad
- Gwaith grŵp
- Asesiadau ymarferol
- Chwarae rôl
- Senarios
- Addysgu ffurfiol / theori
- Arholiad
Asesiad
- Arholiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad amlddewis
Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei achredu gan y rheolyddion yng Nghymru a Lloegr (Ofqual a Llywodraeth Cymru) ac mae'n rhan o'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Fe'i cefnogir gan Sgiliau Iechyd, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer iechyd.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach gyda'r Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith.
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith - Cymhwyster Lefel 3 (3 diwrnod)
Yn unol â chanllawiau a ddarparwyd gan y HSE, mae'r cymhwyster yn cefnogi/cymeradwyo swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle am gyfnod o dair blynedd ac yna bydd gofyn iddynt wneud y cwrs eto. Yn ogystal â hyn, argymhellir bod dysgwyr yn atgoffa eu hunain oand#39;r wybodaeth yn flynyddol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
Iechyd a Diogelwch
