Crefft Peirianneg Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Y Rhyl, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Crefft Peirianneg Lefel 1Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa yn un o'r meysydd canlynol?
- Mecanyddol Cyffredinol
- Ffabrigo
- Peirianneg Drydanol
- Crefft Peirianneg
Cwrs ymarferol yw hwn. Byddwch yn cyflawni tasgau mewn gweithdai sy'n cyrraedd safonau'r diwydiant ac yn meithrin ystod eang o sgiliau sy'n cynnwys: sgiliau ymarferol sylfaenol, ffabrigo, weldio, cynnal a chadw, a thrin gwifrau trydan.
Gofynion mynediad
- 2 TGAU gradd G neu uwch neu fod wedi cwblhau rhaglen Cyswllt Ysgol Lefel 1 yn llwyddiannus,
- NEU diddordeb cryf, uchelgais a chyfweliad llwyddiannus gyda hanes presenoldeb boddhaol o hyfforddiant/ysgol flaenorol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau go iawn yn y gweithdy
- Gweithgareddau yn y dosbarth
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll arholiadau TGAU
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau ymarferol
- Asesiadau ar-lein
- Cwestiynau llafar
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen i ddilyn un o'r cyrsiau canlynol:
- Crefft Peirianneg Lefel 2
- Trin a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
- Trin a Thrwsio Cerbydau Trwm Lefel 2
- Ffabrigo a Weldio Lefel 2
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Llangefni