Crefft Peirianneg Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Y Rhyl, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Crefft Peirianneg Lefel 2Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, cewch feithrin y sgiliau (tua 80%) a'r wybodaeth (tua 20%) a fydd yn eich paratoi i weithio mewn amrywiaeth o swyddi ym maes peirianneg, mewn diwydiannau sy'n cynnig cymorth technegol a diwydiannau gweithgynhyrchu.
Mae'r cwrs yn gymysgedd o dasgau ymarferol mewn gweithdai sy'n cyrraedd safonau'r diwydiant a gweithgareddau ystafell ddosbarth i feithrin dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion peirianneg.
Mae cyflogwyr lleol a rhyngwladol yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith, prentisiaeth a/neu ddilyniant addysgol i grefft peirianneg lefel 3.
Gofynion mynediad
- 4 TGAU gradd A*-D neu 3 TGAU gradd 3 A*-D ac 1 TGAU gradd E (rhaid i hyn fod yn Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af neu Fathemateg neu Rifedd – byddwch yn ailsefyll yn ystod y flwyddyn)
- NEU, wedi cwblhau'r cwrs Crefft Peirianneg Lefel 1 yn llwyddiannus gyda chofnod presenoldeb a pherfformiad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau go iawn yn y gweithdy
- Gweithgareddau yn y dosbarth
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll arholiadau TGAU
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau ymarferol
- Asesiadau ar-lein
- Cwestiynau llafar
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol
Dilyniant
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi’r cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 3 Crefft Peirianneg, neu Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg.
Dewis arall fyddai gwneud cais am brentisiaeth gyda chwmni lleol a chael eich rhyddhau o'r gwaith ddiwrnod yr wythnos er mwyn cwblhau hyfforddiant bellach.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Pwllheli