Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Cofrestrwch
×

Crefft Peirianneg Lefel 3

Dysgwyr sy'n Oedolion

Llangefni

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar y cwrs hwn, cewch feithrin sgiliau a gwybodaeth uwch a fydd yn eich paratoi i weithio mewn amrywiaeth o swyddi ym maes peirianneg, mewn diwydiannau sy'n cynnig cymorth technegol a diwydiannau gweithgynhyrchu megis; melino, troi, gwneud offer a chynnal a chadw.

Mae'r cwrs yn gymysgedd o dasgau ymarferol mewn gweithdai sy'n cyrraedd safonau'r diwydiant a gweithgareddau ystafell ddosbarth i feithrin dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg.

Mae cyflogwyr lleol a rhyngwladol yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol ac addysgol mewn swyddi llawn amser a phrentisiaethau.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r isod:

  • Wedi cwblhau'r cwrs Crefft Peirianneg Lefel 2 neu
  • Wedi ennill cymhwyster cyfatebol lefel 2 neu
  • brofiad gwaith cyfatebol (ystyrir pob cais ar sail unigol)

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gweithdy realistig
  • Gweithgareddau ystafell ddosbarth
  • Efallai y bydd angen i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i'r canlynol:

  • Prentisiaethau ym maes Peirianneg (Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg)
  • Cyflogaeth

Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol.

Mae Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch hefyd yn ddewisiadau a allai apelio os ydych yn chwilio am waith yn lleol neu gyda chwmnïau cenedlaethol mwy.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date