Cymhwyster Estynedig Lefel 3 BTEC (RQF) mewn Peirianneg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Y Rhyl, Pwllheli - Hafan (Peirianneg), Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Cymhwyster Estynedig Lefel 3 BTEC (RQF) mewn PeiriannegDisgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yn gymysgedd o theori ac elfennau ymarferol (70/30) sy'n gysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a seiliwyd ar sefyllfaoedd gwaith realistig. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi ar gyfer gwneud cynnydd yn y gweithle a dilyniant addysgol i Addysg Uwch. Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sy'n gysylltiedig ag arferion peirianyddol. Os ydych yn awyddus i fod yn Beiriannydd ac yn meddu ar y gofynion mynediad perthnasol, yna mae'r cwrs yn addas i chi.
Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf byddwch yn ennill Diploma Sylfaen BTEC (1.5 Lefel A) mewn Peirianneg a chymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau 150 o Brofiad Gwaith mewn Diwydiant, fel arfer am ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn.
Ar ddiwedd yr ail flwyddyn byddwch yn ennill Diploma Estynedig BTEC (3 x Lefel A) yn y Llwybr Peirianneg a ddewiswch.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 5 TGAU gradd A*- C gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Wedi cwblhau'r cwrs Peirianneg Lefel 2
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol yn y gweithdy
- Sesiynau yn y dosbarth
- Gwaith â phwyslais ar y myfyriwr
- Arddangosiadau
- Trafodaethau
- Tiwtorialau
- Amgylchedd dysgu rhithwir
- Bydd yn rhaid i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ail-sefyll TGAU
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios o waith
- Perfformiad ac arsylwi
- Arddangos sgiliau ymarferol
- Arholiad ar-lein
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran beth i'w wneud nesaf gan gynnwys:
- Cwblhau blwyddyn atodol er mwyn ennill Diploma Estynedig (yn cyfateb i 3 gradd Safon Uwch)
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg
- Prentisiaethau
- Prentisiaethau Uwch
- Prentisiaethau Gradd
- Mynd i'r Brifysgol
Gallwch ymgeisio ar gyfer y cyrsiau Lefel 3 canlynol yn Llangefni:
- Peirianneg Awyrennaeth ac Awyrennau Lefel 3
- Peirianneg Electronig/Drydanol Lefel 3
- Peirianneg Fecanyddol/Gweithgynhyrchu Lefel 3
- Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni