Prentisiaeth - Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Prentisiaeth - Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae cadwraeth amgylcheddol yn ymdrin â sawl maes, gan gynnwys diogelu tirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau, rheoli mynediad y cyhoedd a gweithgareddau hamdden yng nghefn gwlad, yn ogystal â dehongli er mwyn hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a mwynhad o gefn gwlad. Mae hefyd yn addas ar gyfer prosiectau cymunedol lleol fel ailgylchu, banciau bwyd ac ati.
Mae'r sector yn cynnwys ardaloedd gwledig a threfol, afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd ledled Cymru, gyda llawer ohonynt wedi'u dynodi'n ardaloedd gwarchodaeth arbennig.
Mae fframwaith y brentisiaeth hon yn addas i amrywiaeth eang os swyddi, gan gynnwys
- Gweithwyr Ystâd
- Garddwyr
- Gosodwyr Terfynau
- Wardeiniaid Cefn Gwlad
- Swyddogion Ailgylchu
- Coedwigwyr
- Swyddogion Prosiectau Cymunedol
- Ciperiaid ac ati
Gofynion mynediad
- O leiaf tair gradd TGAU.
- Gellir derbyn cymwysterau eraill os yw'n eglur eu bod yn gyfwerth.
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Mae'r hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg un diwrnod yr wythnos ac mae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
N/A
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad
Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad