SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Academaidd a Phroffesiynol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:6 mis/1 flwyddyn/2 flynedd
SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Academaidd a PhroffesiynolLlawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), ac mae'n addas ar gyfer pobl â chymwysterau academaidd yn eu hiaith gyntaf sydd angen y sgiliau iaith i symud ymlaen i brifysgol neu'r proffesiynau (e.e. meddyginiaeth).
Mae Saesneg Academaidd Cyn-sesiynol yn cael ei gynnwys yn y llwybr hwn, ac yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Enillir cyfraddau llwyddiant rhagorol gan fyfyrwyr o bob cwr o'r byd. Cynhwysir pob agwedd ar iaith academaidd a phroffesiynol, mewn sefyllfaoedd gwaith ac astudio. Mae myfyrwyr yn cael eu paratoi'n dda iawn ar gyfer astudio a chyflogaeth broffesiynol yn y DU. Mae'r pynciau yn cynnwys:
- Saesneg cyffredinol
- Sgiliau Siarad a Gwrando
- Sgiliau Darllen a Ysgrifennu
- Saesneg academaidd
- Sgiliau astudio
- Tiwtorialau personol
Dylai myfyrwyr rhyngwladol cysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol - ewch at gllm.ac.uk/international am ragor o wybodaeth.
Gofynion mynediad
- 6 mis (mynediad ym mis Ionawr): Gofynion Mynediad Lleiaf = 3/B1 neu IELTS 5
- 1 flwyddyn (mynediad ym mis Medi): Gofynion Mynediad Lleiaf = 2/A2 neu IELTS 4
- 2 flynedd: Cyn-Mynediad 1/A1
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Asesiad
- Asesu parhaus gydag arholiadau mewnol ar ddiwedd y tymor
- Arholiadau mewnol ac allanol ar ddiwedd y cwrs
Dilyniant
Wedi cwblhau, gallech fynd ymlaen i:
- Astudiaeth Israddedig neu Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor neu brifysgolion eraill yn y DU
- Cyrsiau gradd HND, Sylfaen neu Anrhydedd yn Grŵp Llandrillo Menai
- Cyflogaeth broffesiynol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Maes rhaglen:
- ESOL
Dwyieithog:
n/a