RTITB Hyfforddiant Ar Gerbydau Estyn I Ddefnyddwyr Profiadol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- 4 Diwrnod – dim mwy na 3 gweithredydd
- 3 Diwrnod – dim mwy na 2 weithredydd
- 2 Ddiwrnod – dim mwy nag 1 gweithredydd
RTITB Hyfforddiant Ar Gerbydau Estyn I Ddefnyddwyr ProfiadolCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dyma gwrs ar gyfer gweithredwyr sydd â phrofiad blaenorol (ond heb dystiolaeth o hyfforddiant blaenorol) i gael eu hyfforddi i ddefnyddio tryciau fforch godi ESTYN yn ddiogel.
Bydd gweithredwyr yn cael eu hasesu ar y diwrnod gan y sawl sy'n cynnal yr hyfforddiant ac yn arwyddo datganiad - profiad blaenorol.
Gofynion mynediad
Dim
Cyflwyniad
Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth
Asesiad
Asesir gweithredwyr ar eu...
- Gallu i wirio cerbyd cyn ei ddefnyddio
- Theori a dealltwriaeth o gyfyngiadau o ran eu defnyddio ac arferion gweithio diogel
Gallu ymarferol i ddefnyddio'r tryc yn ddiogel.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn i ddefnyddwyr profiadol gall weithredwyr fynd ymlaen i ddefnyddio tryciau fforch godi eraill yn gynnwys cerbydau gwrthbwyso a llwythwr telesgopig diwydiannol.
Neu fynd ymlaen i ddefnyddio llwythwr telesgopig oddi ar y ffordd yn y diwydiant adeiladu neu'r diwydiant amaeth. Gall ymgeiswyr hefyd ymlaen i ddilyn cyrsiau NVQ ym maes Warysau a Chludiant.
Gwybodaeth campws Llangefni
Mae'r cwrs hwn ar gael yn ein canolfan hyfforddi wagen fforch godi yn Llangefni neu yn eiddo'r cwsmer.
Bydd cwrs hyfforddi'r RTITB ar ddefnyddio cerbydau codi estyn (neu dryciau fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio'r tryciau'n ddiogel ac effeithiol, gwneud archwiliad cyn-ddefnyddio, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryc a llwyth.
Er nad yw'n gyfyngedig iddynt, mae'r cwrs hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Rheolyddion ac offer tryciau codi
- Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
- Defnyddio'r rheolyddion hydrolig
- Gyrru ar/oddi ar ramp
- Llenwi a dadlwytho cerbyd
- Stacio a dad-stacio
- Sefydlogrwydd Tryc Codi
- Cod diogelwch y defnyddwyr
Gwybodaeth campws Dysgu o Bell
Mae'r cwrs hwn ar gael yn ein canolfan hyfforddi wagen fforch godi yn Llangefni neu yn eiddo'r cwsmer.
Bydd cwrs hyfforddi'r RTITB ar ddefnyddio cerbydau codi estyn (neu dryciau fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio'r tryciau'n ddiogel ac effeithiol, gwneud archwiliad cyn-ddefnyddio, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryc a llwyth.
Er nad yw'n gyfyngedig iddynt, mae'r cwrs hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Rheolyddion ac offer tryciau codi
- Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
- Defnyddio'r rheolyddion hydrolig
- Gyrru ar/oddi ar ramp
- Llenwi a dadlwytho cerbyd
- Stacio a dad-stacio
- Sefydlogrwydd Tryc Codi
- Cod diogelwch y defnyddwyr
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig