Ffabrigo a Weldio Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
2 flwyddyn
Ffabrigo a Weldio Lefel 3Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n awyddus i ennill profiad ymarferol ym maes weldio a ffabrigo?
Ar y cwrs hwn, cewch eich cyflwyno i sgiliau sylfaenol weldio a ffabrigo.
Anelwyd y cwrs hwn at ddysgwyr sydd â diddordeb mewn sicrhau gyrfa fel weldiwr neu ffabrigwr. Mae'r cwrs hefyd yn ddefnyddiol fel cymhwyster sylfaenol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r lluoedd arfog.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- Ffabrigo a Weldio Lefel 2
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
- Efallai y bydd angen i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Gwaith portffolio
- Perfformio ac arsylwi
- Dangos sgiliau ymarferol
- Arholiad ar-lein
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud gwaith weldio/ffabrigo.
Gallech roi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ar waith mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn cynnwys cerbydau modur, cerfio a gwaith cynnal a chadw cyffredinol.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer astudio ar lefel uwch.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
- Technoleg Cerbydau Modur
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni
Technoleg Cerbydau Modur
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
