Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd neu rhan-amser: 4 blynedd.
Dydd Mawrth a dydd Iau, 4 - 9pm
- Cod UCAS:Rhos: XL35 / Llangefni: XL36
Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau PlentyndodCyrsiau Lefel Prifysgol
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n gweithio gyda phlant, neu'n awyddus i wneud hynny, ac am ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai gradd mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod fod o gymorth i roi hwb i'ch gyrfa?
Mae'r Radd Sylfaen hon yn addas i'r sawl sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r oedolion hynny sydd ar hyn o bryd yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 1, 2 neu 3 mewn ysgolion lleol.
Mae'r radd yn adeiladu ar brofiad personol a phroffesiynol ac yn caniatáu i chi feithrin sgiliau uwch a newydd. Mae hefyd yn eich helpu i adfyfyrio a dod i adnabod yn well y sgiliau sydd gennych eisoes.
Mae'r Radd Sylfaen mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn dilyn llwybr asesu academaidd a galwedigaethol gyda thasgau dysgu yn y gwaith. Mae'n ofynnol i bob dysgwr naill ai weithio mewn rôl berthnasol neu gwblhau 240 awr neu brofiad gwaith mewn rôl berthnasol yn ystod y rhaglen ac erbyn diwedd lefel pump.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio
- Datblygiad Plant
- Arweinyddiaeth ar Waith
- Chwarae, Dysgu a'r Cwricwlwm
- Dulliau Ymddygiad Cadarnhaol
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Diogelu Plant a Phobl Ifanc
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Plentyndod Gwyrdd: Cynaliadwyedd mewn Plentyndod
- Ymchwil a Dysgu Uwch
- Safbwyntiau Addysgol Cyfoes
- Proffesiynoldeb, Hunaniaeth Broffesiynol a Gweithio Amlbroffesiwn
- Iechyd a Lles mewn Plentyndod
- Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gweithio gyda Babanod, Plant Ifanc, Teuluoedd a Chymunedau
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Mae'r gofynion mynediad yr un fath i rai sy'n dilyn llwybrau llawn amser a rhan-amser.
Ymgeiswyr Allanol
- Ymgeiswyr sy'n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc, ac sydd wedi cael o leiaf un flynedd o brofiad.
- O leiaf 120 awr o brofiad yn y sector, ar Lefel 4 a 5, wrth ddilyn y rhaglen Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
Dysgwyr Lefel 3 sy'n Parhau
- Gwneir cynigion ar sail pwyntiau, sef 64 pwynt UCAS o gymhwyster lefel 3 perthnasol
- O leiaf 120 awr o brofiad yn y sector, ar Lefel 4 a 5, wrth ddilyn y rhaglen Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
TGAU er mwyn hyfforddi'n athro:
Bydd gofyn i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i fod yn athrawon ar ôl cwblhau'r Radd Sylfaen/BA (Anrh) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod feddu ar y cymwysterau TGAU perthnasol, neu eu hennill, cyn y gallant wneud cais i ddilyn cwrs ôl-radd.
Lleoliad gwaith:
Cynlluniwyd y rhaglen hon i ymateb i agenda Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod rhaglenni Addysg Uwch yn rhoi i'r sawl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu 'gofal o ansawdd' a 'gweithlu medrus'.
Mae'r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod yn dilyn llwybr asesu academaidd a galwedigaethol gyda thasgau dysgu yn y gwaith. Mae'n ofynnol i bob dysgwr naill ai weithio mewn rôl berthnasol neu gwblhau 360 awr neu brofiad gwaith mewn rôl berthnasol yn ystod y rhaglen ac erbyn diwedd lefel pump.
Rhaid cael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a dim troseddau a fyddai'n eu hatal rhag gweithio yn y sector.
Mae angen tystlythyr i sicrhau bod gan y dysgwr leoliad gwaith neu oriau cyflogaeth perthnasol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Tiwtorialau
- Siaradwyr gwadd
- Trafodaethau grŵp
- Ymchwilio'n annibynnol
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen:
Llawn amser: 2 flynedd, 2 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm); Rhan-amser: 4 blynedd, 1 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Gofyniad DBS
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Samantha Ellis (Rhaglen Arweinydd): ellis1s@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Traethodau
- Cynlluniau gweithgaredd
- Arsylwadau
- Portffolio sgiliau
- Cynnig ymchwil
- Cyflwyniadau poster
- Cyflwyniadau llafar unigol a grŵp
- Myfyrdodau
- Dadansoddi astudiaethau achos
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Mae cwblhau'r cwrs hwn yn cynnig cyfleoedd i wella eich gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â chymorth dysgu i blant. Cewch eich paratoi ar gyfer dyrchafiad, ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn eich swydd bresennol neu newid gyrfa.
Efallai y byddwch hefyd yn dewis symud ymlaen i Lefel 6 a chwblhau'r radd BA (Anrh) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
Addysgu (cynradd uwchradd ac Addysg Bellach) - nid yw'r rhaglen hon yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) ond gall rhoi cyfle i raddedigion symud ymlaen at SAC trwy Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu lwybr dyfarnu SAC arall
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Gwybodaeth Uned
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio’r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn a'u cyflwyno i sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith. (Portffolio 100%)
Datblygiad Plant (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar y camau datblygu cyffredinol rhwng 0 ac 19 oed ac yn nodi sut mae elfennau'n cydgysylltu fel rhan o ddatblygiad cyfannol. Bydd yn nodi ac yn diffinio ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch datblygiad plant, ac yn esbonio sut y cânt eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gofal plant a chymorth dysgu. Yn ogystal, bydd yn nodi ac yn diffinio rôl yr oedolyn wrth gefnogi datblygiad plant. (Arholiad 50%, Traethawd 50%)
Arweinyddiaeth ar Waith (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg i'r myfyrwyr o arweinyddiaeth a rheolaeth drwy gynnig diffiniadau eglur o'r ddau. Edrychir ar athroniaethau a damcaniaethau'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth a rheolaeth ac ar sut y gellir eu cymhwyso er mwyn cael effaith ar y canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. (Adroddiad Adfyfyriol 100%)
Chwarae, Dysgu a'r Cwricwlwm (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg i fyfyrwyr o bwysigrwydd chwarae i ddysgu a datblygu wrth edrych ar y prif ddamcaniaethau a rôl addysgwyr mewn chwarae, dysgu a'r cwricwlwm.
Ar y modiwl bydd y myfyrwyr yn dysgu'r hanfodion sy'n gysylltiedig â nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc, rôl oedolion wrth gynllunio a chynorthwyo i ddiwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc ac yn dod i ddeall pwysigrwydd darparu cwricwlwm sy'n seiliedig ar chwarae o dan do ac yn yr awyr agored. (Cyflwyniad 40%, Gweithgareddau wedi'u Cynllunio a Gwerthusiadau 60%)
Dulliau Ymddygiad Cadarnhaol (20 credyd)
Bwriad y modiwl hwn yw ehangu eich gwybodaeth am ddulliau ymddygiad cadarnhaol er mwyn cefnogi datblygiad cyfannol trwy feithrin dealltwriaeth ddamcaniaethol drylwyr o'r ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad. Edrychir hefyd ar y modelau a'r dulliau sy'n cefnogi ymddygiad cadarnhaol wrth ystyried polisïau perthnasol y Llywodraeth a'r gweithle. (Astudiaeth Achos 60%, Cyflwyniad 40%)
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i ymestyn eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn perthynas ag ymarfer, gan feithrin eu gallu i adfyfyrio a gwella eu hyder a'u sgiliau gwneud penderfyniadau. Byddwch yn cael eich annog i feithrin annibyniaeth a chyfrifoldeb personol yn eich rôl broffesiynol ac o ran eich datblygiad personol eich hun fel eich bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc, ac i'w dysgu, eu datblygiad a'u lles. (Cyflwyniad 40%, Dyddiadur Adfyfyriol 60% a Chofnod o Oriau)
Diogelu Plant a Phobl Ifanc (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r arferion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol sy'n llywodraethu diogelu plant a phobl ifanc. Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddamcaniaethau allweddol a themâu cyfoes yn yr agenda ddiogelu gyfredol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth am egwyddorion ac arferion diogelu plant a phobl ifanc, gan gyfeirio'n benodol at sut a pham y mae'r arfer o adrodd a chofnodi cam-drin plant yn hollbwysig mewn lleoliadau plant a lleoliadau dysgu. (Traethawd 60%, Cyflwyniadau Grŵp 40%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Plentyndod Gwyrdd: Cynaliadwyedd mewn Plentyndod (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut i gyflwyno egwyddorion cynaliadwyedd trwy addysgeg, proses ac ymarfer. Bydd yn trafod ystyr ymarferol addysg ar gyfer cynaliadwyedd ac yn ystyried cyfraniad plentyndod cynnar i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy. Bydd perthnasedd pob fframwaith cwricwla yn cael ei ystyried a chysylltiadau'n cael eu gwneud rhwng canllawiau statudol, polisïau ac arferion addysgeg. (Prosiect – Trafodaeth Broffesiynol 40%, adroddiad 60%)
Ymchwil a Dysgu Uwch (20 credyd)
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ymchwilio sy'n berthnasol i astudiaethau plentyndod a chymorth dysgu. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth, a'r gallu i roi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n argyhoeddi drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys. (Llyfryddiaeth wedi'i Anodi 50%, Ffurflen Foeseg 50%)
Safbwyntiau Addysgol Cyfoes (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg cyffredinol i'r dysgwyr ar bolisïau a strategaethau addysgol cyfredol, gan roi sylw i'r safbwyntiau addysgol sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd ac asesu'r cysylltiadau â blaenoriaethau addysgol cyfredol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr yn dehongli modelau, strategaethau, fframweithiau a chynlluniau sy'n ategu'r dysgu a'r addysgu, a sut y caiff y rhain eu rhoi ar waith. (Traethawd 70%, Gweithdy Prosiect Grŵp 30%)
Proffesiynoldeb, Hunaniaeth Broffesiynol a Gweithio Amlbroffesiwn (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar broffesiynoldeb a sut y gellir ei ddeall a'i ddiffinio mewn nifer o ffyrdd. Rhoddir sylw i'r ffenomen aml-lefel ac amlweddog sy'n cynnwys materion cymdeithasol-ddiwylliannol, materion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio cenedlaethol a gwneud penderfyniadau polisi, yn ogystal â materion sy'n gysylltiedig â chymunedau gwaith a'r unigolion sy'n rhan ohonynt. Edrychir hefyd ar y broses o broffesiynoli ynghyd ag effaith hyn ar weithgareddau a phrofiadau a'r effaith ar y sefydliad. (Poster 40%, Datblygu Gwefan 60% a Chofnod o Oriau)
Iechyd a Lles mewn Plentyndod (10 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o bynciau iechyd a lles sy'n berthnasol i blentyndod yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Bydd yn edrych ar bynciau amrywiol fel iechyd meddwl, bwyta'n iach a hybu iechyd. Ceir cyfle i ddangos dealltwriaeth o sut i gynllunio ar gyfer iechyd a lles plant, a lle y bo'n briodol archwilir y strategaethau amrywiol a ddefnyddir i ddiwallu a hybu iechyd a lles plant. (Prosiect Arddangosfa Wal 100%)
Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ogystal â chipolwg ar y gwahanol fathau o ADY a all olygu bod ar blant a phobl ifanc angen cefnogaeth. Bydd y modiwl hwn hefyd yn ystyried pwysigrwydd cydnabod sut y gall plant a phobl ifanc fod yn teimlo, a bydd hyn yn cynnwys cyfeiriadau at iechyd a lles, gwydnwch emosiynol a'r damcaniaethau a'r fframweithiau a ddefnyddir i gefnogi ADY. Yn ogystal, bydd y modiwl yn rhoi cipolwg ar ffactorau allanol a phersonol a all effeithio ymhellach ar y plentyn neu'r person ifanc sydd ag ADY. (Traethawd 50%, Cyflwyniad 50%)
Gweithio gyda Babanod, Plant Ifanc, Teuluoedd a Chymunedau (10 credyd)
Yn y modiwl hwn, canolbwyntir ar sut y gall cydweithio'n effeithiol â rhieni, gwasanaethau ac unigolion allweddol fod o fudd i blant. Bydd yn edrych ar wahanol fodelau o weithio mewn partneriaeth ac yn nodi'r gwerthoedd sy'n sail i arferion da cydnabyddedig, yn cynnwys hyrwyddo a chynnal partneriaethau ac egwyddorion cyfathrebu effeithiol. Bydd hefyd yn edrych ar sut y gall cydweithio'n effeithiol â rhieni ac unigolion allweddol fod o fudd wrth gefnogi plant a rhieni i wynebu newidiadau fel: dechrau mewn meithrinfa; bod yn barod i fynd i'r ysgol; profedigaeth a cholled a newidiadau i strwythur teulu. Ystyrir hefyd sut y gall ymarferwyr weithio gyda theuluoedd a phlant i leddfu effaith newidiadau mewn bywyd. (Cyflwyniad ar Boster 100%)
Cyfleoedd o ran gyrfa:
- Gofalwr Plant
- Gweithiwr Meithrinfa
- Arwain a Rheoli
- Addysgu
- Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
- Mentor Dysgu
- Athro Ysgol Gynradd
- Athro Ysgol Uwchradd
- Athro Anghenion Addysgol Arbennig
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Cynorthwyydd Addysgu
- Gweithiwr Ieuenctid
- Seicotherapydd Plant
- Nyrs Plant
- Gweithiwr Datblygu Cymunedol
- Cwnselydd
- Seicolegydd Addysgol
- Therapydd Iaith a Lleferydd
Gwybodaeth campws Llangefni

Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Datblygiad ac Addysg Plant
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/a
Datblygiad ac Addysg Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: