Gradd Sylfaen (FdA) Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd.
Dydd Llun a Dydd Mawrth, 9am-5pm
- Cod UCAS:WP63
Gradd Sylfaen (FdA) Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau DarlleduCyrsiau Lefel Prifysgol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs ymarferol yn bennaf yw'r cwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu a bydd y pwyslais ar feithrin sgiliau sy'n berthnasol i ddiwydiant. Edrychir ar y sgiliau creiddiol sy'n ymwneud â gwaith camera, goleuo a sain o ran theori'n gyntaf cyn mynd ymlaen i wneud gwaith ymarferol yn ein stiwdio a'n galeri. Mae'r elfennau sy'n ymwneud â chyfryngau creadigol yn cynnwys animeiddio, ysgrifennu ar gyfer y sgrin a dylunio graffig. Caiff sgiliau darlledu eraill fel golygu fideo, golygu sain, ffilmio a chreu effeithiau gweledol eu haddysgu gan ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant. Mae'r cwrs hwn yn addas i gynhyrchwyr cynnwys amlgyfrwng, y rhai sydd â diddordeb mewn gwaith sain a goleuo ar ddigwyddiadau byw a'r rhai sydd am weithio yn y diwydiannau creadigol.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Sgiliau Technegol Hanfodol
- Astudiaethau Cyd-destunol
- Dulliau Darlledu Proffesiynol
- Astudiaethau Gweledol ac Animeiddio
- Cynhyrchu Aml-gamera
- Cyfryngau Creadigol
- Cynhyrchu Sain
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Prosiect Fideo Mawr
- Entrepreneuriaeth a Hyrwyddo'ch Hun
- Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiadau
- Astudiaethau Teledu
- Cyflwyniad i Newyddiaduriaeth
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion ieithyddol:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gofynion academaidd:
- o leiaf 70 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
- Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno portffolio i gefnogi eu cais
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Cyflwyniadau
- Gwaith grwp
- Sesiynau ymarferol
- Seminarau
- Darlithoedd
- Traethodau fideo
Mae'r dysgu yn broses gyfranogol, anffurfiol ac yn llawn o gyfleoedd i'r unigolyn ymchwilio a bod yn greadigol. Gallai lleoliad yn y diwydiant hefyd fod yn rhan o'r cwrs.
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen
- Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
- Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau Ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- deunyddiau i astudio'n annibynnol
- ymweliadau allanol, e.e. ag amgueddfeydd neu arddangosfeydd
- meddalwedd i allu gweithio gartref
- mynediad at ddeunyddiau i'w gwerthuso a'u dadansoddi
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Chris Bainbridge (Rhaglen Arweinydd): bainbr1c@gllm.ac.uk
David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Asesir y cwrs trwy waith cwrs. Nid oes arholiadau.
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Gall myfyrwyr symud ymlaen ar y BA (Anrh) Cyfryngau Creadigol a Darlledu.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r Radd Sylfaen mewn Cyfryngau Creadigol a Darlledu yn radd dan arweiniad ymarferol yn bennaf, gan ganolbwyntio ar sgiliau diwydiant perthnasol a gofynnol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cyfryngau.
Gwybodaeth uned
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Sgiliau Technegol Hanfodol (10 credyd, craidd)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o'r theorïau a'r egwyddorion sylfaenol sy'n ymwneud â gosod a graddnodi offer. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dod i ddeall sut mae gweithio mewn amgylchedd proffesiynol. (Asesiad Ymarferol 100%)
Astudiaethau Cyd-destunol (10 credyd, gorfodol)
Nod yr uned hon yw cael y myfyrwyr i ddeall sut mae cyfryngau wedi datblygu, i ddangos dealltwriaeth o sut mae rhoi theorïau'n ymwneud â chyfryngau ar waith ac i egluro sut mae gwaith cynhyrchu cyfryngau'n gweithio'n ymarferol. (Cyflwyniad 40%, Asesiad Ymarferol 60%)
Dulliau Darlledu Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i ddeall yr egwyddorion sy'n ymwneud â chyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gipio deunyddiau sain a fideo o ffynonellau digidol amrywiol, deall sut i ddefnyddio technegau cywasgu sain a fideo a sut i storio deunyddiau'n effeithiol. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o sut mae dilyniannau sain a fideo'n cyfleu syniadau a gwybodaeth. (Portffolio 100%)
Astudiaethau Gweledol ac Animeiddio (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am dechnegau gweledol sylfaenol er mwyn i'r myfyrwyr allu dylunio a chreu animeiddiad ffisegol neu ddigidol. Bydd yn cynnwys egwyddorion animeiddio a dylunio graffig, ac yn galluogi'r myfyrwyr i ddefnyddio technegau, prosesau ac arferion penodol i gyfleu eu syniadau creadigol. (Asesiad Ysgrifenedig 10%, Asesiad Ymarferol 60%, Portffolio 30%)
Sgiliau Ymchwil ac Astudio (10 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau astudio'r myfyrwyr, gan alluogi cynhyrchu ysgrifennu academaidd cadarn, cyflwyno meddwl beirniadol a sgiliau ymchwil sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd, defnyddio confensiynau academaidd, ymchwil gwybodaeth, myfyrio a rheoli a threfnu eu gwaith. (Asesiad Ysgrifenedig 100%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i gyflawni nifer o dasgau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, wedi'u negodi ar y cyd â chyflogwyr / cynrychiolwyr y diwydiant a staff yn y Grŵp. (Asesiad Ysgrifenedig 100%)
Cynhyrchu Aml-gamera (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud gwaith aml-gamera, i weithio'n unol â chynllun ar gynhyrchiad aml-gamera sy'n bodloni briff penodol ac i adfyfyrio ar eu perfformiad eu hunain ac aelodau eraill o'r tîm cynhyrchu yn ogystal â'r cynnyrch terfynol. (Asesiad Ysgrifenedig 20%, Asesiad Ymarferol 80%)
Cyfryngau Creadigol (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o egwyddorion dweud stori, datblygu cymeriadau a chynllunio naratif. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu am fformatau byrddau stori a sgriptiau ffilm. (Portffolio 100%)
Cynhyrchu Sain (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o'r theorïau a'r egwyddorion sylfaenol sy'n ymwneud â chynhyrchu sain. Byddant hefyd yn dysgu am egwyddorion recordio digidol, a sut i gipio, golygu a darlledu eu hallbwn o fewn fframwaith cynhyrchu cyfryngau. (Asesiad Ysgrifenedig 20%, Asesiad Ymarferol 60, Portffolio 20%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw cadarnhau, datblygu ymhellach ac ymestyn gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn gywir mewn disgyblaeth benodol. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu academaidd a'u sgiliau ymchwilio i ganfod gwybodaeth, i gyflwyno a rhoi amrediad o ddulliau ymchwilio ar waith ac i ddadlau ag argyhoeddiad. (Asesiad Ysgrifenedig 100%)
Prosiect Fideo Mawr (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i gynllunio a rheoli prosiect cyfryngau. Bydd yn ceisio gwella sgiliau'r myfyrwyr mewn maes cynhyrchu arbenigol a'u gallu i gyfuno sgiliau o feysydd gwahanol i gynhyrchu un prosiect cydlynol. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ddyfeisio a gweithredu'n unol ag amserlenni (y maent yn eu trefnu eu hunain ar y cyd â goruchwyliwr y prosiect), i reoli eu dysgu eu hunain ac i fynd ati'n ymarferol i ymateb i friff prosiect. (Cyflwyniad 20%, Asesiad Ysgrifenedig 10%, Asesiad Ymarferol 70%)
Entrepreneuriaeth a Hyrwyddo'ch Hun (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw dadansoddi sut mae pobl sy'n gweithio yn y cyfryngau yn marchnata a hyrwyddo eu hunain, ysgrifennu dogfennau busnes fel cynigion a chynlluniau busnes, dynodi amrediad o ystyriaethau ariannol a galluogi'r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ran marchnata a hyrwyddo'u hunain. (Asesiad Ymarferol 40%, Portffolio 60%)
Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiadau (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am sut mae delweddau wedi'u cynhyrchu â chyfrifiadur a delweddau ffotorealistig yn cael eu creu ac yna'n cael eu cyfosod mewn golygfa ddi-dor. Edrychir ar sut mae asedau 2D a 3D yn gallu cael eu creu ac yna'u hanimeiddio'n ddigidol. Yn ogystal, bydd yn anelu at feithrin gallu ymarferol o ran creu cynnwys digidol i'w gyfosod ac at wella technegau digidol. Y bwriad yw galluogi'r myfyrwyr i adfyfyrio ar eu gwaith cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu eu hunain. (Cyflwyniad 40%, Asesiad Ysgrifenedig 10%, Asesiad Ymarferol 50%)
Astudiaethau Teledu (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu'r ffordd mae'r myfyrwyr yn mynd ati i gyflwyno canlyniadau eu hymchwil mewn ffurf briodol ac i ystyried goblygiadau'r ffurf maent yn ei dewis o ran arddull, strwythur a chonfensiynau cyflwyno perthnasol. (Cyflwyniad 30%, Asesiad Ymarferol 70%)
Cyflwyniad i Newyddiaduriaeth (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw eich dysgu sut i ymchwilio'n feirniadol a dadansoddi materion damcaniaethol a chysyniadol sy'n ganolog i newyddiaduraeth a gallu crynhoi a gwerthuso deunydd mewn dewis o wahanol gyfryngau cyflwyno.(Asesiad Ysgrifenedig 40%, Asesiad Ymarferol 60%)
Dysgu Seiliedig Ar Gyflogadwyedd 2: Adfyfyrio a Datblygiad Personol Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i'r dysgwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn i'r dysgwyr adfyfyrio ar eu profiad dysgu, gan ystyried sut y mae wedi gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau academaidd a galwedigaethol, eu hunanhyder a'u cyflogadwyedd yn awr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi'r dysgwyr i weld y berthynas rhwng eu heffeithlonrwydd cynyddol yn yr amrywiol dasgau a wnânt yn y gweithle a'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi'u meithrin.
Canolbwyntir ar ystyried y dyfodol er mwyn llunio cynllun datblygu personol a phroffesiynol cynhwysfawr sy'n berthnasol o safbwynt galwedigaethol. Gan nodi targedau cyraeddadwy sy'n ymwneud yn benodol â chyd-destunau gwaith a chyflogadwyedd bydd y cynllun yn cyfeirio at amryw o sgiliau academaidd a galwedigaethol y mae gofyn eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun hefyd yn nodi a sefydlu sut y gellir mesur y cynnydd a wneir o ran cyrraedd y targedau a bennwyd. (Portffolio unigol 40%, Cynllun datblygu personol a phroffesiynol 20%, Dyddiadur adfyfyriol 40%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/a
Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: