Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) yn y Celfyddydau Coginio

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Amser llawn: 2 blynedd NEU Rhan-amser: 4 mlynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau unigol.

    Dydd Llun a dydd Mercher, 9am - 5pm

  • Cod UCAS:
    D601
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) yn y Celfyddydau Coginio

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Gan fod y cyrsiau hyn yn y broses o gael eu datblygu maent yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth ar gyfer mis Medi 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.

Hoffech chi gael gyrfa gyffrous yn y Celfyddydau Coginio? Ydych chi'n gweithio yn y sector yn barod, ac eisiau gwella eich sgiliau, eich rhagolygon gwaith neu eich busnes? Mae'r rhaglen arbenigol hon yn rhoi arbenigedd ichi ynghyd â chymhwyster cydnabyddedig a'r cyfle i weithio mewn busnesau sy'n arloesi ym maes coginio a gastronomeg.

Mae'r cwrs yn addas os ydych yn symud ymlaen o gwrs Lletygarwch Lefel 3, neu os oes gennych brofiad fel rheolwr neu oruchwyliwr. Gallwch astudio'n amser llawn neu'n rhan amser tra'n parhau i weithio. Mae'r cwrs hefyd yn rhoi cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus drwy ddilyn modiwlau unigol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Sgiliau Astudio ac Ymchwilio
  • Diogelwch Bwyd
  • Ffotograffiaeth ym maes Bwyd a Diod
  • Gwasanaethau Bwyd a Dio
  • Bwydydd Rhyngwladol
  • Rheoli Refeniw a Chostau
  • Y Diwylliant Coffi Cyfoes
  • Gwin, Cwrw a'r Byd Coginio

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Dulliau Ymchwilio
  • Mentergarwch a Datblygu Busnesau Bach ym maes Coginio
  • Datblygu Cynnyrch Newydd
  • Anthropoleg Bwyd
  • Gastronomeg Gyfoes
  • Bwyd, Maetheg a Diet
  • Rheoli ym maes Bwyd a Diod

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • 48 o bwyntiau tariff UCAS o leiaf, fel arfer wedi ennill pas mewn un pwnc A2 perthnasol o leiaf; neu Dystysgrif Genedlaethol BTEC neu'n uwch, neu AVCE, GNVQ, Tystysgrif / Diploma Cenedlaethol, Y Fagloriaeth Ryngwladol, Bagloriaeth Cymru, mewn pwnc perthnasol, neu Bas mewn ACCESS cymeradwy; neu NVQ lefel 3.
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol.
  • Bydd mynediad i Lefel 5 yn cael ei ystyried ar sail unigolion cymwys
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd (neu gyfwerth Sgil Allweddol/Hanfodol)
  • Ar gyfer ymgeiswyr heb y cymwysterau hyn, bydd angen dangos tystiolaeth o sgiliau rhifedd ar lefel addas i fodloni gofynion y rhaglen yn llwyddiannus.

Gofynion Iaith:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg Iaith 1af

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Modiwlau seiliedig ar gyflogaeth
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Gwyn cogyddion ac offer coginio fel cyllyll cogyddion, graddfeydd digidol, ayb (tua £100 am hyn)
  • Ymweliadau astudio (tua £150 ar gyfer hyn)
  • Mae cymwysterau ychwanegol ar gael fel Gwobr BIIAB ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol, Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd - cost nodweddiadol yw £60 i £80 y cymhwyster
  • Mae aelodaeth i'r Sefydliad Lletygarwch yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Michael Garner (Rhaglen Arweinydd): garner1m@gllm.ac.uk

Jo Reid (Gweinyddiaeth): reid1j@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau ymarferol
  • Asesiadau amser-benodol
  • Adroddiadau grŵp
  • Dyddiaduron dysgu

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall y cwrs hwn arwain at gyflogaeth mewn ystod o fusnesau yn ogystal rhoi cyfle ichi astudio ymhellach. Mae nifer o fyfyrwyr yn symud ymlaen at Lefel 6 yng Ngholeg Llandrillo ac yn cwblhau'r radd BA (Anrh) yn y Celfyddydau Coginio (dilyswyd a dyfernir gan Brifysgol Bangor).

Gall graddedigion eraill gychwyn gyrfaoedd newydd yn niwydiannau'r celfyddydau coginio neu ennill mwy o gyfrifoldeb a statws uwch yn eu busnes presennol.

Mae ymarferwyr y Celfyddydau Coginio'n gweithio mewn gwestai, tai bwyta, tafarndai thematig, canolfannau cynadledda, cyfleusterau arddangosfa, canolfannau corfforaethol a chwaraeon, busnesau arlwyo ac mewn amryw o sefyllfaoedd coginio neu letygarwch eraill.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad cwrs

Mae'r Radd Sylfaen hon yn gwella eich dealltwriaeth o'r celfyddydau coginio, yn rhoi gwybodaeth academaidd eang ichi ynghyd â'r sgiliau i roi'r wybodaeth honno ar waith yn y gweithle. Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio i ddatblygu eich galluoedd a'ch paratoi i weithio yn niwydiannau'r celfyddydau coginio.

Yn ystod y cwrs byddwch yn ennill dealltwriaeth gyffredinol o ddiwydiannau'r celfyddydau coginio, egwyddorion ymarfer coginio a'r ffordd y mae'r egwyddorion hynny wedi datblygu. Bydd gennych hefyd gyfle i astudio'n arbenigol i gyd-fynd â'ch amcanion personol chi fel unigolyn.

Yn ogystal â dod i wybod mwy am y diwydiannau coginio, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio a datrys problemau ac yn dysgu sut i roi'r sgiliau hyn ar waith yn y gweithle. Wrth ichi ddatblygu, bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer cyfrifoldebau'r rôl reoli yn y sector coginio.

Defnyddir siaradwyr gwadd yn gyson drwy gydol y rhaglen hon, ac mae eu mewnbwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar agweddau ymarferol neu 'fyd go iawn' y celfyddydau coginio. Byddwch yn gallu elwa o arbenigedd y siaradwyr gwadd hyn a hefyd yn cael syniad o'r cyfleoedd sydd ar gael ichi yn y sector coginio.

Gwybodaeth uned

Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Bydd hyblygrwydd o ran y meysydd pwnc y bydd myfyrwyr am eu hastudio dros dair blynedd. Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

BLWYDDYN 1 (Lefel 4)

Sgiliau Astudio ac Ymchwilio (10 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr gan eu galluogi i feddwl yn feirniadol ac i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu ac adfyfyrio. (Portffolio 100%)

Dysgu gyda Chyflogwr 1: Rhoi Theori ar Waith (20 credyd, gorfodol) Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddysgu o'r profiad ymarferol o gael gweithio mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd y tasgau'n dilyn safonau galwedigaethol cenedlaethol a sefydliadol, a chaiff y myfyrwyr arsylwi a chymryd rhan yn yr agweddau amrywiol sy'n rhan o ddarparu gwasanaethau bwyd a diod. (Portffolio 40%, Adfyfyrio 30%, Ymarferol 30%)

Diogelwch Bwyd (20 credyd, gorfodol) Yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, bydd y modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau diogelwch bwyd, gan bwysleisio pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau HACCP. (Traethawd 30%, HACCP 40%, Adroddiad Anffurfiol 30%)

Ffotograffiaeth ym maes Bwyd a Diod (10 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu'r myfyriwr i ddefnyddio arferion proffesiynol wrth dynnu lluniau bwydydd â chamera, gan wneud defnydd effeithiol o'r stiwdio ac o amrywiol gyfarpar. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i ddefnyddio amrediad o dechnegau goleuo wrth dynnu lluniau bwydydd â chamera, gan ddefnyddio setiau a chefndiroedd gwahanol ac adfyfyrio ar y prosesau sy'n gysylltiedig â chreu ffotograffau effeithiol o fwydydd. (Portffolio 60%, Adfyfyrio 40%)

Gwasanaethau Bwyd a Diod (10 credyd, gorfodol) Bydd y modiwl hwn yn ymchwilio i’r gwahanol agweddau ar yr agwedd hon ar y diwydiant o safbwynt gweithredol a bydd yn ymgorffori nifer o themâu sy’n dangos sut mae’r diwydiant lletygarwch a’r cynnyrch yn ei gyfanrwydd, a bwyd a diod. darpariaeth yn benodol, dylanwad ac effaith ar gymdeithas ac economïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. (Traethawd 50%, Traethawd 50%)

Bwydydd Rhyngwladol (20 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth y myfyrwyr am fwydydd rhyngwladol drwy edrych ar arferion coginio mewn rhannau gwahanol o'r byd. Wrth wneud hyn byddwn yn edrych ar seigiau traddodiadol, ac ar offer a nwyddau arbenigol. (Ymarferol 30%, Traethawd 40%, Dadansoddi Saig 30%)

Rheoli Refeniw a Chostau (10 credyd, gorfodol) Bydd y modiwl hwn yn edrych ar bwysigrwydd dadansoddi refeniw, costau a chyllid ym maes celfyddydau coginio, ac ar y defnydd ymarferol o ddulliau a thechnegau cyfrifyddu yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch. (Portffolio 50%, Arholiad/Prawf 50%)

Y Diwylliant Coffi Cyfoes (10 credyd, gorfodol) Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut mae barrau/siopau coffi annibynnol yn dod yn fwy poblogaidd ac yn llwyddo i gystadlu yn erbyn y barrau coffi cadwyn. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y diwydiant o'r ffeuen i'r cwpan, yn cynnwys masnach deg a'r mathau o nwyddau sydd ar gael i gwsmeriaid. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn defnyddio'r sgiliau ymarferol a ddysgwyd ganddynt i ddatblygu eu diodydd coffi arbennig eu hunain ac yna'n adfyfyrio ar y broses greadigol. (Ymarferol 20%, Traethawd 60%, Portffolio 20%)

Gwin, Cwrw a'r Byd Coginio (10 credyd, gorfodol) Bydd y modiwl hwn yn edrych ar hanes cynhyrchu gwin a chwrw ac ar eu lle mewn cymdeithas, gan roi pwyslais neilltuol ar y byd coginio. Byddwn yn edrych ar sut mae paru bwyd a gwin yn ogystal ag ar baru bwyd a chwrw. (Cyflwyniad 50%, Arholiad/Prawf 50%)

BLWYDDYN 2 (Lefel 5)

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i roi amrediad o sgiliau ymchwilio priodol ar waith i astudio lletygarwch a chelfyddydau coginio'n gyffredinol ac mewn cyd-destunau mwy penodol. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth, a'r gallu i roi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. (Cynnig Ymchwil 100%)

Dysgu gyda Chyflogwr 2: Rhoi Ymchwil ar Waith yn y Gweithle (20 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Byddant yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth feddal sydd eu hangen i weithio'n llwyddiannus mewn busnes ym maes lletygarwch ac arlwyo. (Adfyfyrio 50%, Cynllun Datblygu 50%)

Mentergarwch a Datblygu Busnesau Bach ym maes Coginio (10 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr ddealltwriaeth o'r prosesau, y dewisiadau a'r heriau creadigol, y rhai busnes a'r rhai personol, y bydd entrepreneuriaid a rheolwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn sefydlu menter newydd neu'n datblygu busnes sydd eisoes wedi'i sefydlu. Bydd yn canolbwyntio ar sawl agwedd ar reoli menter, ac yn cyflwyno meysydd pwnc sy'n dylanwadu ar brosesau a ddefnyddir gan entrepreneuriaid neu reolwyr i wneud penderfyniadau tymor byr a thymor hir. (Cyflwyniad 50%, Cynnig Busnes 50%)

Datblygu Cynnyrch Newydd (10 credyd, gorfodol) Nod y modiwl yw galluogi'r myfyrwyr i ddeall a defnyddio'r broses y mae gofyn ei dilyn er mwyn datblygu cynnyrch newydd yn y diwydiant bwyd. Bydd gofyn i'r myfyrwyr adnabod, drwy ymchwilio i'r farchnad, faint o alw sydd yna am gynnyrch newydd, i ddylunio a chynhyrchu cynnyrch newydd ac i adfyfyrio ar y prosesau creadigol a ddefnyddiwyd. (Cyflwyniad 60%, Adfyfyrio 40%)

Anthropoleg Bwyd (20 credyd, gorfodol) Yn y modiwl hwn, edrychir ar yr hyn sy'n dylanwadu arnom wrth ddewis bwyd, yn cynnwys ffactorau economaidd a chymdeithasol a ffactorau'n ymwneud â chrefydd, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth, poblogaeth y byd a'r diaspora. Rhoddir sylw hefyd i daith hanesyddol a diwylliannol bwydydd o'r hen fyd i'r byd newydd, o'r cyfnod modern cynnar i heddiw. (Ymarferol 20%, Traethawd 50%, Dadansoddi Saig 30%)

Gastronomeg Gyfoes (20 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw edrych ar yr arfer o ddewis, coginio a bwyta bwyd da, sef gastronomeg, o safbwynt cyfoes. Bydd cyfleoedd i dreialu ac arbrofi gyda thechnegau modernaidd mewn lleoliad ymarferol gan roi pwyslais ar archwilio'r dulliau gwyddonol a ddefnyddir gan arloeswyr yn y maes. Byddwn yn edrych ar gogyddion eiconaidd sydd wedi bod yn ddylanwadol yn y maes cyfoes ac yn gwerthuso'u bwydlenni. (Ymarferol 20%, Traethawd 40%, Adfyfyrio 30%)

Bwyd, Maetheg a Diet (10 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n allweddol i faetheg ddynol a darparu gwerthfawrogiad ehangach o'r rôl gymhleth sydd gan fwyd o ran hybu iechyd ac atal afiechydon. Wrth archwilio swyddogaeth ficro a macrofaethynnau a'r cysyniad o ddiet cytbwys, bydd effeithiau seicolegol diffygion maethol a gwenwyndra'n cael eu cydnabod. (Traethawd 100%)

Rheoli ym maes Bwyd a Diod (20 credyd, gorfodol) Nod y modiwl hwn yw ymhelaethu ar yr hyn a ddysgwyd o'r profiadau ymarferol a gafwyd yn ystod y modiwl Gwasanaethau Bwyd a Diod. Bydd yn rhoi i'r myfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau trefniadol fydd eu hangen arnynt i drefnu, cynnal a gwerthuso digwyddiad bwyd a diod, gan roi ystyriaeth i'r holl elfennau amrywiol sy'n rhan o reoli digwyddiad o'r fath yn llwyddiannus. (Ymarferol 40%, Traethawd 30%, Adroddiad 30%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • International
  • Lletygarwch ac Arlwyo

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Myfyriwr yn gweithio mewn cegin

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser