Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Astudiaethau Byddar)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd neu rhan-amser: 4 blynedd
Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Astudiaethau Byddar)Cyrsiau Lefel Prifysgol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sy'n gweithio (neu sydd eisiau gweithio) gyda phobl fyddar fel Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Iaith neu mewn swydd arall. Bydd yn meithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth, ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o swyddi proffesiynol.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau Ychwanegol
Bydd gofyn i'r myfyriwr dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Gall y rhain gynnwys costau sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau profiad gwaith, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/profiad gwaith, cyfrifiadur personol a chyswllt WiFi, teithio i'r coleg, argraffu a deunyddiau swyddfa.
Gwybodaeth am fodiwlau
Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Gofynion mynediad
Gofynion academaidd:
- Cymwysterau Lefel 3 perthnasol (64 pwynt UCAS)
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/ Saesneg (neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol cywerth). Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Gall ymarferwyr profiadol gofrestru ar y rhaglen os oes ganddynt gymhwyster NVQ3 neu gymhwyster cywerth.
Caiff y rhai nad oes ganddynt gymwysterau academaidd eu hystyried ar sail unigol, yn unol â rheoliadau Grŵp Llandrillo Menai.
Gofynion ieithyddol:
- Yn siarad Cymraeg/Saesneg fel mamiaith, ynghyd â chymhwyster sy'n cyfateb i TGAU gradd C/4 neu uwch
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 525 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 500), neu IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 550 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 525), neu IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gellir ystyried mynediad uniongyrchol i Lefel 5 yn achos ymarferwyr profiadol sydd eisoes wedi ennill 120 credyd lefel 4, NVQ lefel 4 neu ddyfarniad cywerth mewn maes pwnc priodol. Bydd hwn yn llwybr dilyniant dewisol i rai sydd wedi ennill Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Arferion Gofal Iechyd.
Yn ogystal, bydd gofyn i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf a ganlyn:
- Mae gofyn i ymgeiswyr fod yn ymarferwyr cyfredol mewn maes perthnasol, neu fod yn barod i fynd ar brofiad gwaith mewn maes perthnasol yn ystod y cwrs. Ar Lefel 4 a Lefel 5, rhaid i bob myfyriwr gwblhau o leiaf 75 awr o brofiad gwaith/cyflogaeth.
- Rhaid i bob ymgeisydd ddod i gyfweliad er mwyn penderfynu a yw'n addas ar gyfer y cwrs a sicrhau ei fod yn llawn ddeall gofynion y rhaglen a'r ymrwymiad sy'n angenrheidiol.
- Caiff ymgeiswyr eu derbyn ar sail eu cymwysterau academaidd blaenorol, y gwaith a'r profiad gwaith perthnasol a gawsant, a'u haddasrwydd o ran lleoliadau gwaith ac astudiaethau academaidd.
- Rhaid i ymgeiswyr allu cael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, heb droseddau a fyddai'n eu hatal rhag gweithio yn y sector
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu'n ddwyieithog drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Gweithdai a gwaith ymarferol
- Sesiynau tiwtorial
- Modiwlau seiliedig ar gyflogaeth
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu myfyriwr-ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen
- Llawn amser: 2 blynedd, 2 diwrnod yr wythnos
- Rhan-amser: 4 blynedd
Cyswllt (Coleg Llandrillo):
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
- Danielle Hughes (Rhaglen Arweinydd): hughes15d@gllm.ac.uk
- Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu'n ddwyieithog drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Portffolios unigol
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Arholiad aml-ddewis
- Adolygiad o lenyddiaeth
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniad
- Chwarae rôl
- Llyfr gwaith
- Cynnig ymchwil
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Gall y cwrs arwain at nifer o lwybrau proffesiynol ac addysgol, gan ddibynnu ar eich amcanion.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Yn ystod y degawd neu ddau ddiwethaf, mae'r gwaith a wneir ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant a pholisïau cymdeithasol wedi cael cryn sylw gan y cyhoedd, academyddion a'r cyfryngau. Mae pwysigrwydd y maes hwn wedi tanlinellu'r angen am weithwyr medrus ac addysgedig, sydd â dealltwriaeth eang a thrylwyr o theori yn ogystal â'r gwaith ymarferol.
Bydd y modiwlau Lefel 4 a 5 yn eich helpu i ddiwallu'r angen hwn drwy barhau i gyfrannu i weithlu sy'n datblygu i fod yn fwyfwy proffesiynol ac uchel ei barch. Byddwch yn ehangu'ch dealltwriaeth o'r sector a'r modd y caiff ei reoli, gan ganolbwyntio ar faterion ac arferion cyfredol. Byddwch hefyd yn edrych ar y gwerthoedd craidd sy'n sail i'r modd y rheolir yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â materion strategol sy'n cael effaith yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae'r cyswllt rhwng theori, profiad ymarferol a gwaith proffesiynol yn ganolog i'r cwrs, a bydd eich astudiaethau'n sail i'ch arferion gweithio ac yn eu cyfoethogi. Caiff amrediad eang o bobl sy'n gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a pholisïau cymdeithasol brofiad addysgol gwerthfawr ar y cwrs. Bydd y modiwlau hyn yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a phroffesiynol, gan eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa.
Gwybodaeth am Fodiwlau
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol, sydd ar gael i bob myfyriwr rhan-amser, llawn-amser neu ar sail modiwl yn unig.
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Modiwlau Lefel 4
Cyfathrebu (10 credyd)
Pwrpas y modiwl hwn yw edrych ar bwysigrwydd cyfathrebu wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ym maes Iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Caiff y myfyrwyr gyflwyniad i amrywiaeth o fodelau cyfathrebu a damcaniaethwyr ym maes cyfathrebu, gan ddysgu sut y gallant eu defnyddio i wella eu harferion gweithio. Hefyd, dadansoddir dulliau cyfathrebu, yn cynnwys cyfathrebu di-eiriau, y gall defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio. Ar ben hynny, astudir y pethau sy'n rhwystro defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol rhag cyfathrebu, gan gynnwys diffyg sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, ynghyd â'r rhwystrau sy'n deillio o arferion sefydliadau a'r amgylchedd cymdeithasol ehangach.
Asesu:
Aseiniad 1: Cyflwyniad 10 munud lle bydd y myfyrwyr yn nodi amrywiol sgiliau cyfathrebu a ddefnyddiant yn eu gwaith, gan egluro ffyrdd effeithiol o wella'r modd y maent yn cyfathrebu (40%)
Aseiniad 2: Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn chwarae rôl a fydd yn para 10 munud, gan arddangos amrediad o sgiliau cyfathrebu a sut i oresgyn pethau sy'n eu rhwystro rhag cyfathrebu ag unigolion penodol (30%)
Aseiniad 3: Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno myfyrdod personol ar eu sgiliau cyfathrebu ac yn nodi beth sydd angen ei wella ar gyfer y dyfodol (500 gair) (30%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 (20 credyd)
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu ac arddangos eu sgiliau yn y gweithle. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddangos sut y defnyddiant sgiliau sy'n berthnasol i'w swydd neu leoliad er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol. Dylid dangos dealltwriaeth o sgiliau o'r fath ynghyd ag ymwybyddiaeth o sut y dylid eu defnyddio. Bydd yn bwysig i'r myfyrwyr ddangos eu bod yn deall eu gwaith eu hunain drwy adfyfyrio a dangos yn glir sut y gellir defnyddio adfyfyrio i wella arferion er mwyn datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.
Asesu:
Aseiniad 1:Drwy gyfrwng asesiad ar-lein a chadw cofnodion, bydd y myfyrwyr yn casglu tystiolaeth o nifer o sgiliau gweithio, gan gwblhau o leiaf 75 awr o brofiad gwaith. Llwyddo neu Fethu.
Aseiniad 2:Drwy gyfrwng asesiad ar-lein, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cyfres o adfyfyrdodau ysgrifenedig ar eu harferion gwaith ac yn llunio cynllun gweithredu ar gyfer eu datblygiad yn awr ac yn y dyfodol (100% 3,000 gair).
Cyflwyniad i Iechyd Meddwl (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, caiff y myfyrwyr gyflwyniad i faterion a chysyniadau pwysig sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac i ddatblygiadau mewn dulliau o ymdrin ag iechyd meddwl. Astudir iechyd meddwl, yn cynnwys yr hanes sy'n gysylltiedig â'r maes. Edrychir ar wasanaethau iechyd meddwl, yn cynnwys eu heffeithiolrwydd a'r pethau sy'n rhwystro pobl rhag cael mynediad iddynt.
Asesu:
Aseiniad 1: Drwy gyfrwng aseiniad ysgrifenedig, bydd y myfyrwyr yn dynodi natur hanesyddol a chyfoes amrediad o gyflyrau iechyd meddwl (1200 gair, 40%)
Aseiniad 2: Drwy gyfrwng dwy astudiaeth achos fechan, bydd y myfyrwyr yn egluro effeithiau posibl amrediad o gyflyrau iechyd meddwl ar unigolion. Bydd y myfyrwyr hefyd yn nodi'r rhwydweithiau cefnogi cyfredol sydd ar gael (1200 gair, 40%)
Aseiniad 3: Bydd y myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad (10 munud) ar boster academaidd sy'n dadansoddi ymateb cyfoes i iechyd meddwl, gan sôn am wasanaeth a pholisi (20%)
Diogelu (20 credyd)
Yn y modiwl hwn, eir i'r afael â deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniad o ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed a'r cysyniad o amddiffyn oedolion agored i niwed mewn lleoliadau addysg a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y modiwl, ceisir egluro a diffinio diogelu, trafod cyd-destunau pontio, rolau a chyfrifoldebau, gweithdrefnau a phrotocolau, cymryd risgiau cadarnhaol, deddfwriaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigolion, pethau sy'n atal asiantaethau rhag cyd-weithio, effaith datgelu camdriniaeth a goblygiadau posibl i bawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, yn cynnwys yr unigolyn, y gofalwr, y rhieni a rhagor. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar arferion gweithio diogel, atgyfeiriadau a chategorïau cam-drin, ynghyd ag ystyriaethau ehangach.
Asesu:
Aseiniad 1: Drwy ddefnyddio astudiaeth achos berthnasol, bydd y myfyrwyr yn edrych ar bryderon ynghylch diogelu o safbwynt unigolyn sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn egluro ymatebion ymarferol posibl (2,000 gair, 60%)
Aseiniad 2: Bydd y myfyrwyr yn sefyll arholiad ar-lein er mwyn dangos eu hymwybyddiaeth o faterion diogelu o safbwynt eu hadnabod, rhoi gwybod amdanynt a'u rheoli (40%)
Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr, eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith.
Asesu:
Dau aseiniad cysylltiedig yn adeiladu ar gwestiwn ymchwil penodol ac yn gysylltiedig â'r pwnc a'r dull ymchwil sylfaenol o ymchwilio a allai fod yn addas ar gyfer traethawd estynedig ar Lefel 6.
Asesiad 1: Llyfryddiaeth Anodedig: Dadansoddi a gwerthuso 8 papur cysylltiedig â'r pwnc dethol a'r cwestiwn ymchwil penodol (2000 o eiriau, 50%)
Asesiad 2: Ffurflen ar Foeseg: Cwblhewch y ffurflen foeseg ar y templed a ddarparwyd, gydag atodiadau (nad ydynt yn rhan o'r cyfrif geiriau) i gynnwys asesiad risg; taflen Gwybodaeth am Gyfranogwyr; ffurflen ganiatâd/gwybodaeth; llythyr porthgeidwad; e-bost recriwtio/neges cyfryngau cymdeithasol; mesur (h.y. cwestiynau/deunyddiau/ysgogiadau) (2000 o eiriau, 50%)
DS: Ni fydd y ffurflen ar foeseg a gyflwynir yma yn mynd i'r Panel Moeseg ac nid yw'n awdurdodi myfyrwyr i ddechrau ar eu hymchwil.
Iaith Arwyddion Prydain 1: Sgiliau Derbyn Gwybodaeth, Disgrifio a Sgwrsio (Llwybr Astudiaethau Byddar) (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau addas a digonol er mwyn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i drafod materion pob dydd â phobl fyddar, yn unol â'r Iaith Genedlaethol
Ieithyddiaeth Arwyddo 1 (10 credyd)
Nod y modiwl hwn sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut i ddadansoddi strwythur Iaith Arwyddion Prydain. Byddant yn edrych ar y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng ieithoedd arwyddo a'r iaith lafar.
Gweithio gyda Phobl Fyddar (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw nodi ystod o swyddi ym maes byddardod ac egluro'r dylanwadau hanesyddol sydd wedi siapio rolau a chyfrifoldebau'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl fyddar. Yn ogystal, bydd y modiwl yn edrych ar rolau newidiol pobl fyddar yn y gweithle.
Lefel 5
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 (20 credyd)
Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu profiadau dysgu, gan ystyried sut y maent wedi gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau academaidd a galwedigaethol, eu hunan-barch a'u cyflogadwyedd yn awr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i weld y berthynas rhwng eu heffeithiolrwydd cynyddol o ran gwneud amrywiaeth o dasgau yn y gweithle ac mewn gwahanol gyd-destunau a'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi'u meithrin.
Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio cynllun datblygu personol a phroffesiynol cynhwysfawr sy'n berthnasol o safbwynt galwedigaethol, ar ôl ystyried y dyfodol. Bydd y cynllun yn cyfeirio at amryw o sgiliau academaidd a galwedigaethol y mae gofyn eu datblygu ar gyfer y dyfodol ac sy'n ymwneud yn benodol â chyd-destunau gwaith a chyflogadwyedd, gan nodi targedau cyraeddadwy. Bydd y cynllun hefyd yn nodi a sefydlu sut y gellir mesur y cynnydd a wneir o ran cyrraedd y targedau a bennwyd.
Asesu:
Portffolio a drefnwyd yn unigol (100%) sy'n cynnwys adroddiadau adfyfyriol ynghyd â chynllun datblygu personol a phroffesiynol. Bydd gofyn i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu datblygiad personol a phroffesiynol a gwneud cysylltiadau rhwng y gweithle a'r modiwlau theori sy'n rhan o'r rhaglen. Bydd yr adroddiad adfyfyriol yn canolbwyntio ar adnabod gwerth y profiad dysgu o ran gwella effeithiolrwydd mewn tasgau penodol yn y gweithle a chyd-destunau gwaith ehangach. Yn y cynllun datblygu personol a phroffesiynol, pennir nodau cyraeddadwy i weithio tuag atynt yn y gweithle a sefydlir dulliau i fesur y cynnydd a wneir o ran cyrraedd y nodau hynny.
Adroddiad adfyfyriol: 2,000 gair, 50%,
Cynllun Datblygu Personol a Phroffesiynol: 2,000 gair, 50%,
Hawliau Unigolion ac Arferion Proffesiynol (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw pwysleisio pwysigrwydd hawliau'r unigolyn wrth ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Dadansoddir hawliau unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a sut y bydd sefydliadau'n sicrhau eu bod yn parchu'r hawliau hynny wrth weithredu. Mae gwarantu hawliau defnyddwyr gwasanaethau'n ddibynnol ar yr hyn a wna'r gweithwyr proffesiynol; yn hyn o beth, mae arferion moesegol a beirniadol yn bwysig. Yn yr uned, diffinnir a thrafodir arferion beirniadol yng nghyd-destun amrediad o leoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lles, gan ddangos eu pwysigrwydd o ran arferion moesegol, a fydd yn gwella lles a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau.
Asesu:
Aseiniad 1: Traethawd yn trafod pwysigrwydd hawliau defnyddwyr gwasanaethau fel modd o wella eu lles ac yn nodi'r cyd-destun deddfwriaethol y mae sefydliadau'n gweithio ynddo er mwyn hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaethau (2,500 gair, 60%)
Aseiniad 2: Cyflwyniad (10 munud) ar boster academaidd lle bydd y myfyrwyr yn egluro'r cysyniad 'arferion beirniadol', gan gynnwys y tri maes, mewn lleoliad penodol sy'n gysylltiedig ag iechyd, gofal cymdeithasol neu les, ac sy'n disgrifio'r prif werthoedd a'r foeseg sy'n sail i'r dull (CD 3 a 4) (40%)
Arwain a Rheoli (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a gwerthuso dulliau a damcaniaethau cyfoes a ddefnyddir i reoli timau ac unigolion. Dadansoddir effaith rheoli gwael a'r atebion posibl sydd ar gael i ddatrys problemau a hybu arloesedd. Yn ogystal, edrychir ar faterion sy'n ymwneud â gwrthdaro mewn timau a rhwng unigolion, gan nodi datrysiadau posib. Gan ddysgu am ddamcaniaethau ac arferion ym maes rheoli ac am weithio'n effeithiol fel tîm, bydd y myfyrwyr yn meithrin dulliau gweithio a fydd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau effeithiol i ddefnyddwyr.
Asesu:
Aseiniad 1: Bydd gan y myfyrwyr 20 munud, yn cynnwys amser ar gyfer cwestiynau, i roi cyflwyniad ar wahanol arddulliau arwain, eu heffaith bosibl, y modd y maent yn cymell ac yn goruchwylio, ynghyd â pherfformiad staff sy'n gysylltiedig â'u gweithle (40%).
Aseiniad 2: Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag aseiniad ysgrifenedig sy'n edrych ar ddulliau o fynd i'r afael ag arloesedd a newid wrth weithio mewn tîm (2,500 gair, 60%).
Dulliau Ymchwilio (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i roi amrediad o sgiliau ymchwilio priodol ar waith wrth astudio iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth a gallu rhoi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n dal dŵr drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio dilys, dadansoddi a gwerthuso.
Asesu:
Cynnig ymchwil sy'n arddangos sgiliau o'r radd flaenau o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth gan ddefnyddio amrediad o fethodolegau ymchwilio, datblygu dealltwriaeth o foeseg gan ystyried y cysyniad bod moeseg yn bwysig wrth ymchwilio a chan gryfhau a llunio dadleuon sy'n dal dŵr ac a seiliwyd ar adolygiadau o lenyddiaeth briodol yn unol ag amlinelliad ymchwil (4,000 gair, 100%)
Iaith Arwyddion Prydain 2: Sgiliau Derbyn Gwybodaeth, Cyflwyno a Sgwrsio (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw datblygu profiadau a gallu dysgwyr o ran defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i drafod â phobl fyddar faterion pob dydd sy'n ymwneud â bywyd cymdeithasol, gwaith, ysgol neu goleg. Bydd cwrs Lefel 2 mewn Iaith Arwyddion Prydain yn meithrin gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith fanylach nag a ddefnyddiwyd ar Lefel 1, gan ddysgu rhagor am ramadeg er mwyn ymdopi â sgyrsiau anghyfarwydd.
Mae'r cymhwyster sy'n rhan o'r modiwl wedi'i ddatblygu'n unol â Lefel 2 y Safonau Iaith Cenedlaethol.
Pobl Fyddar mewn Cymdeithas (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r gymuned fyddar, ei hiaith, ei ffordd o fyw a'i hamrywiaeth, gan gyfeirio at fodelau meddygol, cymdeithasol ac ieithyddol mewn perthynas ag anabledd a chanfyddiadau'r cyhoedd ac unigolion o fyddardod. Edrychir ar faterion gwleidyddol a pholisïau hanesyddol a chyfredol gan ddadansoddi eu heffaith ar y gymuned fyddar.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/aIechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: