Gradd Sylfaen (FdA) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024, fel arfer rhwng 9am-4pm
Rhan-amser: 3 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, yn nodweddiadol rhwng 9am-4pm
DYDDIAD DECHRAU: 10 Medi 2024
Gradd Sylfaen (FdA) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal CymdeithasolCyrsiau Lefel Prifysgol
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cychwyn ar daith drawsnewidiol gyda’n gradd newydd, sy’n unigryw i ranbarth Gogledd Cymru sy’n cynnwys agweddau cyfoes sy’n hollbwysig i’r arweinydd a’r rheolwr modern. Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddilysu a'i ddyfarnu gan Brifysgol Bangor felly gallwch fod yn sicr o radd o ansawdd uchel.
Mae’r radd hon yn berthnasol i Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol a byddai’n addas i’r rheini sy’n gweithio mewn rolau arwain proffesiynol mewn sectorau amrywiol, neu’n anelu atynt, gan gynnwys rolau cymorth, trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol, a pholisi neu i’r rheini sy’n ceisio gwella eu gwybodaeth. neu sgiliau.
Wedi’i alinio ag anghenion diwydiant lleol, bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau uwch i chi er mwyn cyflymu gyrfa lwyddiannus yn rhai o’r sectorau y mae’r galw mwyaf amdanynt yng Ngogledd Cymru.
Mae'r cwrs hwn yn pontio'r bwlch rhwng cymwysterau proffesiynol seiliedig ar waith a rhagoriaeth academaidd.
Mae ugain y cant o'r dysgu ar y cwrs hwn yn ddysgu seiliedig ar waith, sy'n cynnwys lleoliad gwaith/amgylchedd gwaith real o 75 awr o leiaf (ar L4 a L5 ar gyfer y radd sylfaen). Mae'r coleg yn cynnig cyngor a chymorth ynghylch lleoliadau. Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am sicrhau lleoliad. Bydd llawer o ymgeiswyr yn gallu cymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn eu gweithle heb fod angen lleoliad ychwanegol.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)**:
- Hanfodion Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (20 credyd)
- Cydweithio a Chyfathrebu Rhyngbroffesiynol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd)
- Sgiliau Arwain a Rheoli (20 credyd)***
- Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)***
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus (20 credyd)
- Cynaliadwyedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10 credyd)
** I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill cymhwyster City and Guilds Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, gallwn gydnabod dysgu blaenorol Lefel 4 i gyd fel eich bod yn dechrau ar y rhaglen ar Lefel 5.
***I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill Lefel 4 mewn Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (City and Guilds), gallwn gydnabod dysgu blaenorol mewn Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Sgiliau Arwain a Rheoli, gan adael 80 credyd yn weddill i’w hastudio i ennill Lefel 4.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Ymchwil a Dysgu Uwch (20 credyd)
- Darparu Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)
- Arwain y Gweithlu i Ddarparu Gofal o Ansawdd (20 credyd)
- Datblygiad Proffesiynol ac Arweinyddiaeth 2 (20 credyd)
- Hyrwyddo Gwytnwch a Lles (20 credyd)
- Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd (20 credyd)
Gwybodaeth Ychwanegol
Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.
Gofynion mynediad
Mae'r radd hon yn cynnig meini prawf mynediad hyblyg heb fod angen cymwysterau academaidd.
- Mae cynigion yn seiliedig ar dariff, 64 pwynt UCAS
NEU
- Diploma Lefel 3 mewn pwnc cydnaws
Neu
- Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau a gydnabyddir gan y sector yng Nghymru (L4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol) RPL dau fodiwl ar lefel 4: Sgiliau Arwain a Rheoli (20 credyd) a Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)
Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod:
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried o blith y rhai sy'n gweithio yn y sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r trydydd sector, gydag o leiaf blwyddyn o brofiad (mae angen cyfweliad i drafod gallu academaidd i gael mynediad i raglen lefel 4).
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL)
Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 5:
Bydd mynediad i lefel 5 yn cael ei ystyried yn unigol yn unol â pholisi trosglwyddo credydau GLlM, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a amlinellir yn y polisi). Neu drwy gefnogi eu cais gyda chyflwyno portffolio ar gyfer achredu dysgu blaenorol (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisi GLlM.
Mae dilyniant uniongyrchol ar gael i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli a Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gweithdai
- Tiwtorialau
- Modiwlau cyflogaeth
- Siaradwyr gwadd
Gall y siaradwyr gynnwys ystod o arbenigwyr o sefydliadau partner gan gynnwys ymweld â phartneriaid prifysgol ag arbenigeddau mewn gofal iechyd, y ddynoliaeth a’r gwyddorau cymdeithasol, polisi, plismona a throseddeg, lles a chwnsela.
Amserlen:
- Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024, fel arfer rhwng 9am-4pm
- Rhan-amser: 3 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, yn nodweddiadol rhwng 9am-4pm
Dyddiad dechrau: 10 Medi 2024
Gofal bugeiliol
Mae’r system Tiwtorial Personol yn nodwedd bwysig o gymorth myfyrwyr ac mae sesiynau tiwtorial yn gyfle i drafod ystod o faterion gan gynnwys cynnydd, dilyniant, cymorth lleoliad gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Costau ychwanegol
Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac fe’i heglurir i chi yn eich cyfweliad.
Gallai hyn gynnwys costau gofal plant, teithio sy’n gysylltiedig â mynychu’r rhaglen a phrofiad gwaith, DBS ar gyfer lleoliad profiad gwaith, ymweliadau allanol a theithiau maes i wella dysgu, dillad addas ar gyfer gwaith/lleoliad, argraffu ychwanegol uwchben y lwfans, cofbinnau, costau eraill sy’n ymwneud â deunydd ysgrifennu. a chostau sy'n gysylltiedig â seremoni raddio megis llogi gŵn a ffotograffau.
Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg, neu gostau ychwanegol am wneud cais am fenthyg cyhoeddiadau nad ydynt ar gael drwy'r gwasanaeth llyfrgell Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd y coleg a gwasanaethau benthyg llyfrau, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu'n cael eu colli.
Cyswllt:
Danielle Hughes (Arweinydd Rhaglen): hughes15d@gllm.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ein graddau, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae ein hasesiadau yn caniatáu i ddysgu gael ei gymhwyso yn seiliedig ar eich diddordebau sylfaenol, profiad galwedigaethol a lleoliadau. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.
Y mathau o asesiadau yn cynnwys portffolios Unigol:
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Arholiad cwestiynau amlddewis
- Dyddiadur adfyfyriol
- Prosiect Grŵp
- Trafodaeth broffesiynol
- Cyflwyno
- Cynnig ymchwil
- Astudiaethau achos
Dilyniant
Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?
Wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol, bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae rolau mewn addysg, y trydydd sector, lles, ac iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer Gogledd Cymru, ac rydym ar fin gweld cynnydd parhaus yn y galw am rolau cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.
Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:
- l Rolau uwch mewn amrywiaeth o sectorau a chyd-destunau gwaith, gan gynnwys rolau proffesiynol, arwain neu reoli
- l Symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni PCE/TAR GLlM i hyfforddi i fod yn ddarlithydd cymwysedig mewn Addysg Bellach. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. TAR GLIM
- l Symud ymlaen yn uniongyrchol i raddau BA (Anrh) GLlM, gan gynnwys Arweinyddiaeth Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol, sy'n eich galluogi i gwblhau gradd er anrhydedd lawn. I gael rhagor o wybodaeth: Graddau GLIM
Yn dilyn gradd BA, gallech symud ymlaen i wahanol raddau meistr ôl-raddedig yn rhanbarth Gogledd Cymru. Er enghraifft:
- MA Addysg
- MA Gwaith cymdeithasol
- MA Troseddeg a Chymdeithaseg
- MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
- MA Cymdeithaseg
- MA Polisïau Cymdeithasol
- MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
- MSc Cwnsela
- MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles
- MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd
Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion. Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau ac yn gweithio gyda Gyrfa Cymru.
Mae GLlM hefyd wedi cyflwyno Dyfodol Myfyrwyr fel rhan o'r strategaeth AU bresennol, a fydd yn gwella datblygiad cyflogadwyedd dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau.
I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd sylfaen lawn yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a sector preifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd. Mae'r Ganolfan yn cynnwys darlithfeydd o'r radd flaenaf, ystafelloedd seminar, adnoddau llyfrgell arbenigol, cyfleusterau TG a mannau astudio.
Blwyddyn 1 Modiwlau Lefel 4
Cynaliadwyedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r modiwl hwn yn archwilio pa mor hanfodol yw cynaliadwyedd yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol. Fel gweithwyr proffesiynol yn y meysydd hyn, mae deall ac ymgorffori arferion cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo llesiant, yn achos unigolion a’r gymuned ehangach. Trwy'r modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ymchwilio i egwyddorion cynaliadwyedd, gan archwilio ei oblygiadau i arferion iechyd a gofal cymdeithasol..
Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio’r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, a chyflwynir sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith. .
Sgiliau Arwain a Rheoli
Lluniwyd y modiwl hwn i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i ddysgwyr a'u dysgu sut i ddefnyddio egwyddorion arwain a rheoli yn ymarferol yng nghyd-destun penodol iechyd a gofal cymdeithasol. Nod y modiwl hwn yw meithrin datblygiad y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer arwain a rheoli'n effeithiol, gan bwysleisio hyrwyddo cynhwysiant, diogelu, arweinyddiaeth dosturiol, iechyd meddwl y gweithwyr a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a chynnal urddas a pharch.
Datblygiad Proffesiynol
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i ymestyn eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn perthynas ag ymarfer, gan feithrin eu gallu i adfyfyrio a gwella eu hyder a'u sgiliau gwneud penderfyniadau. Bydd y dysgwyr yn cael eu hannog i feithrin annibyniaeth a chyfrifoldeb personol yn eu rôl broffesiynol ac o ran eu datblygiad personol eu hunain, fel eu bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau unigolion; eu dysg, eu datblygiad a'u lles.
Hanfodion Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol
Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i hanfodion arweinyddiaeth a rheolaeth sy'n ymwneud â'r sectorau iechyd, lles a gofal cymdeithasol. Nod y modiwl yw darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o agweddau amlochrog systemau a strwythurau gofal iechyd, gyda ffocws ar gydrannau allweddol sy'n hanfodol ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol a chynaliadwy. Trwy archwiliad cyfannol o wahanol ddimensiynau, bydd dysgwyr yn cael mewnwelediad i gymhlethdod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwerthoedd sefydliadol, polisi, sicrwydd ansawdd a dynameg y gweithlu.
Cydweithio a Chyfathrebu Rhyngbroffesiynol
Pwrpas y modiwl hwn yw archwilio pwysigrwydd cyfathrebu wrth weithio gyda grwpiau amrywiol o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau (defnyddwyr gwasanaeth) a gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Caiff y dysgwyr gyflwyniad i amrywiaeth o fodelau cyfathrebu a damcaniaethwyr ym maes cyfathrebu, gan ddysgu sut y gallant eu defnyddio i wella eu harferion gweithio. Yn ogystal, bydd dadansoddiad o ddulliau cyfathrebu, i gefnogi rhwystrau i gyfathrebu y mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau (defnyddwyr gwasanaeth) a gweithwyr proffesiynol yn eu profi, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol ynghyd â'r rhai sy'n tarddu o arfer sefydliadol a'r amgylchedd cymdeithasol ehangach.
Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r modiwl hwn yn cwmpasu arweinyddiaeth, ymddygiad sefydliadol, rheolaeth ariannol a gwella ansawdd. Mae'r pynciau craidd yn cynnwys rheoli adnoddau gyda phwyslais ar arferion moesegol a chynaliadwy, rheoli adnoddau dynol a chynllunio'r gweithlu i wella lles unigolion. Mae'r modiwl yn ymchwilio i ddamcaniaethau rheoli newid, strategaethau i oresgyn rhwystrau a gwrthwynebiad i newid, a methodolegau gwella ansawdd. Yn ogystal, mae'n ystyried arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Blwyddyn 2 - Modiwlau Lefel 5
Datblygiad Personol a Phroffesiynol
Mae’r modiwl hwn yn cyfosod sgiliau o ddysgu blaenorol a chyfredol, ac yn dechrau paratoi’r myfyriwr ar gyfer datblygiad gyrfa ac astudiaeth ôl-raddedig, tra’n canolbwyntio ar broffesiynoldeb a sut y gellir ei ddeall a’i ddiffinio mewn nifer o ffyrdd. Edrychir hefyd ar y broses o broffesiynoli ynghyd ag effaith hyn ar weithgareddau a phrofiadau a'r effaith ar y sefydliad. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i weithio'n annibynnol i ganfod cyfleoedd posibl yn y sector swyddi a ddewiswyd, a pharatoi CV a chynnwys perthnasol cyn cymryd rhan mewn ffug gyfweliad.
Arwain y Gweithlu i Ddarparu Gofal o Ansawdd
Nod y modiwl hwn yw arfogi dysgwyr â'r wybodaeth, y sgiliau, a'r strategaethau sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithlu yn effeithiol yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector yng Nghymru. Trwy ganolbwyntio ar feysydd allweddol megis rheoli perfformiad, ymateb i argyfwng, cefnogi staff i groesawu newid, a chydymffurfio â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol. Nod y modiwl hwn yw rhoi'r offer sydd eu hangen ar ddysgwyr i wella perfformiad y gweithlu, cydnabod pwysigrwydd gofal tosturiol a sicrhau bod gwasanaethau gofal o ansawdd uchel yn cael eu darparu.
Ymchwil a Dysgu Uwch
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso ystod o sgiliau ymchwil sy'n briodol i'r ddisgyblaeth pwnc priodol. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth, a'r gallu i roi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n dal dŵr drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys.
Darparu Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Nod y modiwl hwn yw datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a gwerthuso dulliau a damcaniaethau arweinyddiaeth cyfoes a ddefnyddir i reoli timau ac unigolion. Dadansoddir effaith rheoli gwael a'r atebion posibl sydd ar gael i ddatrys problemau a hybu arloesedd. Yn ogystal, edrychir ar faterion sy'n ymwneud â gwrthdaro mewn timau a rhwng unigolion, gan nodi datrysiadau posib. Gan ddysgu am ddamcaniaethau ac arferion ym maes rheoli ac am weithio'n effeithiol fel tîm, bydd y myfyrwyr yn meithrin dulliau gweithio a fydd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau effeithiol i ddefnyddwyr.
Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd
Pwrpas y modiwl hwn yw dangos pwysigrwydd iechyd y cyhoedd a hybu iechyd o ran hyrwyddo iechyd a lles. Rhan ganolog o’r modiwl hwn yw dangos y gwahaniaeth rhwng dulliau macro a micro o fynd i'r afael ag iechyd y cyhoedd, a'r berthynas rhyngddynt.
Mae’r gwahanol ddulliau o ymdrin ag iechyd y cyhoedd yn dylanwadu ar sut mae'n cael ei ddeall, y ddirnadaeth am ei swyddogaeth mewn cymdeithas a sut y gall ymgyrchoedd hybu iechyd gynnig ymyriadau cadarnhaol i unigolion bob dydd.
Hyrwyddo Gwytnwch a Lles
Nod y modiwl hwn yw dadansoddi a gwerthuso cysyniadau lles a gwydnwch yn feirniadol. Bydd myfyrwyr yn archwilio ffactorau a dylanwadau sy'n effeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol ar lesiant a gwytnwch. Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o ddamcaniaethau a modelau llesiant a gwytnwch ac yn rhoi cyfle iddynt werthuso a gwerthuso effeithiolrwydd y strategaethau gwydnwch cenedlaethol a lleol mwyaf priodol sydd ar gael.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: