Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 3 blynedd (1 diwrnod yr wythnos) NEU 2 flynedd (1 diwrnod yr wythnos - i fyfyrwyr sydd eisoes wedi ennill Diploma Uwch mewn Defnyddio TGCh mewn Llyfrgelloedd neu gyfwerth). Hefyd ar gael fel modiwlau a thrwy ddysgu o bell.

    Dydd Gwener, 9.30am - 3.30pm

Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi swydd broffesiynol mewn llyfrgell neu wasanaeth gwybodaeth? Ydych chi am ddatblygu eich cyfleoedd a'ch arbenigedd yn y maes hwn?

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at staff sy'n gweithio ym mhob maes o fewn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth. Mae'n datblygu eich gwybodaeth broffesiynol ac yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o lyfrgellwyr ar draws Cymru.

Caiff y cwrs hwn ei achredu gan CILIP (Chartered Institute of Library and Information Professionals): Dengys hyn fod y cymhwyster yn rhoi sylfaen gadarn i weithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth ac archifau.

Mae modiwlau yn cynnwys:

LEFEL 4:

  • Y Gymdeithas Wybodaeth
  • Ffynonellau Gwybodaeth
  • Cyflwyniad i Ymarfer Proffesiynol
  • Technoleg Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd
  • Marchnata ac Eiriolaeth mewn Gwasanaethau Llyfrgell

LEFEL 5:

  • Rheoli Casgliadau
  • Rhoi Trefn ar Wybodaeth
  • Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio
  • Ymddygiad a Diwylliant Sefydliadau
  • Hyfforddiant a chymorth mewn cyd-destun llyfrgell

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Nid oes unrhyw ofynion academaidd ffurfiol ar gyfer y cwrs heblaw am y gallu i weithio ar lefel AU. Mae cymhwyster llyfrgell blaenorol, ee Tystysgrif Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth a Diploma yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
  • Bydd myfyrwyr sy'n meddu ar gymhwyster Cymwysiadau TGCh mewn Brofiadau ar lefel 7 yn cael eu hachredu ar gyfer modiwlau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu 1 a Chyflwyniad i Ymarfer Proffesiynol y Llyfrgell. Bydd myfyrwyr sy'n meddu ar gymhwyster Cymwysiadau TGCh mewn Brofiadau ar lefel 8 yn cael eu hachredu ar gyfer modiwlau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu 2 a Hyfforddiant a Chymorth y Llyfrgell mewn modiwlau Cyd-destun Llyfrgell. Bydd myfyrwyr sydd â Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol yn cael eu hachredu ar gyfer y modiwlau Ffynonellau Gwybodaeth a Rheoli Casgliadau.

Y gallu i weithio ar lefel Addysg Uwch

  • Mae cymwysterau llyfrgell blaenorol yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
  • Bydd myfyrwyr sydd â chymhwyster Defnyddio Technoleg Gwybodaeth mewn Llyfrgelloedd ar lefel 7 yn gallu ei ddefnyddio fel tystiolaeth o ddysgu blaenorol wedi'i achredu ar gyfer y modiwlau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn Llyfrgelloedd 1 a Chyflwyniad i Arferion Proffesiynol.
  • Bydd myfyrwyr sydd â chymhwyster Defnyddio Technoleg Gwybodaeth mewn Llyfrgelloedd ar lefel 8 yn gallu ei ddefnyddio fel tystiolaeth o ddysgu blaenorol wedi'i achredu ar gyfer y modiwlau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn Llyfrgelloedd 2 a Hyfforddiant a Chymorth mewn Llyfrgelloedd.
  • Bydd myfyrwyr sydd â Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol yn gallu ei defnyddio fel tystiolaeth o ddysgu blaenorol wedi'i achredu ar gyfer y modiwlau Ffynonellau Gwybodaeth a Rheoli Casgliadau.
  • Cyflogaeth yn y sector (cyflogedig neu wirfoddol) gyda'r gallu i ymgymryd â gweithgareddau perthnasol fel rhan o'r rhaglen yn y gweithle.

Gofynion Iaith

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Ar gyfer ymgeiswyr tramor, i gael mynediad i Lefelau 5 neu uwch, rhuglder yn Saesneg i IELTS 6.0 neu uwch (heb unrhyw elfen yn llai na 5.5).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Ddarlithoedd rhyngweithiol
  • Cynadledda Fideo a Bwrdd Gwaith
  • Tiwtorialau
  • Seminarau
  • Trafodaethau grŵp
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle)
  • Dysgu seiliedig ar ymchwilio
  • Sgiliau Adfyfyrio

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Adborth

Rhan-amser: 3 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.30 am - 3.30 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Disgwylir bod gan y myfyrwyr gyfrifiadur personol/gliniadur/dyfais symudol y gallant ei ddefnyddio sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, yn ogystal â chlustffonau a chamera ar gyfer y sesiynau fideo gynadledda.
  • Mae disgwyl i fyfyrwyr ymaelodi â CILIP (£40 y flwyddyn ar hyn o bryd) er mwyn cael mynediad i'r adnoddau gwerthfawr sydd ganddynt ar-lein.
  • Efallai y bydd rhaid talu am fenthyciadau rhyng-lyfrgell y Llyfrgell Brydeinig (£2 y cais) ac am eitemau llyfrgell sy'n cael eu colli.

Dyddiad cychwyn

Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Ceri Powell (Rhaglen Arweinydd): c.powell@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Adroddiadau myfyriol
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau amser-benodol (llyfr agored a chaeedig)
  • Cyflwyniadau grŵp

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar y cwblhau'r cwrs hwn, bydd ystod o gyfleoedd i symud ymlaen ar lefel broffesiynol ac academaidd ar gael ichi. Efallai y byddwch yn dewis cwblhau gradd anrhydedd lawn neu gallwch symud ymlaen i astudio cymhwyster ACLIP neu MCLIP proffesiynol.

Bydd y rhan fwyaf o rhai sy'n graddio o'r cwrs hwn yn elwa o'r cyfleoedd proffesiynol a roddir iddynt. Efallai y byddant am ymgeisio am gyfrifoldebau a statws ychwanegol gyda'u cyflogwr presennol, neu ddod o hyd i swydd arall yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

DISGRIFIAD CWRS:

Mae'r Radd Sylfaen hon yn cynnig amrywiaeth crwn o fodiwlau, sy'n astudio ystod o bynciau allweddol. Mae'n rhoi cyfle ichi ennill cymhwyster academaidd cydnabyddedig, tra'n datblygu eich sgiliau llyfrgell a gwybodaeth ar yr un pryd.

Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy ac i'ch paratoi ar gyfer cyfrifoldebau proffesiynol ychwanegol. Y nod yw datblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth yn chwilio'n frwd amdanynt, gan gynnwys sgiliau arwain a rheoli, darparu gwasanaeth cwsmer, a TGCh yn ymwneud yn benodol â llyfrgelloedd.

Byddwch yn dysgu am theorïau a dulliau cyfoes yn ymwneud â'r sector llyfrgelloedd a gwybodaeth. Cyfunir y deunydd theoretig hwn gyda gwaith ymarferol a galwedigaethol, sy'n rhoi eich dysgu ar waith ac yn adeiladu ar y profiad sydd gennych yn barod.

Mae'r rhaglen wedi'i chreu ar gyfer staff llyfrgelloedd ysgol, academaidd, iechyd neu lyfrgelloedd arbenigol eraill, yn ogystal â gweithwyr mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Cyflawnir hyn yn rhannol drwy siaradwyr gwadd, a fydd yn rhannu eu harbenigedd a'u profiad gyda chi.

Pa bynnag faes o'r sector llyfrgelloedd a gwybodaeth yr ydych yn gweithio ynddo, mae'r cwrs hwn yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen gyda'ch gyrfa.

GWYBODAETH UNED

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

LEFEL 4:

Y Gymdeithas Wybodaeth (20 credyd, craidd):
Damcaniaethau ynghylch datblygiad y gymdeithas wybodaeth (a'r gymdeithas ôl-wybodaeth), a chymunedau o ddefnyddwyr. (Adroddiad 50%, Traethawd 50%)

Ffynonellau Gwybodaeth (20 credyd, craidd):
Canfod, dethol a defnyddio ffynonellau gwybodaeth. (Adroddiad 60%, Traethawd 40%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol):
Ysgrifennu academaidd, TGCh a sgiliau cyflwyno. (Adroddiad 40%, Traethawd 20%, Cyflwyniad 40%)

Cyflwyniad i Ymarfer Proffesiynol (20 credyd, gorfodol):
Ffynonellau cyngor professiynol ar-lein, codau ymarfer proffesiynol a diogelu data. (Adroddiad 60%, Prawf 40%)

Technoleg Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Chyfathrebu 1 (20 credyd, gorfodol):
Defnyddio TGCh i ategu'r gwaith a wneir mewn llyfrgelloedd o ran ymdrin ag ymholiadau, cyfathrebu ar-lein a diogelwch ar y rhyngrwyd. (Adroddiad 50%, Gwefan 40%, Ysgrifennu Myfyriol / Gwerthusol 10%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 (20 credyd, gorfodol):
Meithrin Darllenwyr a Llythrennedd Gwybodaeth. (Portffolio 100%)

Marchnata ac Eiriolaeth mewn Gwasanaethau Llyfrgell (10 credyd, gorfodol):
Marchnata, e-farchnata, hyrwyddo ac eiriolaeth unigol/sefydliadol yng nghyd-destun llyfrgell. (Adroddiad 100%)

LEFEL 5:

Rheoli Casgliadau (20 credyd, craidd):
Rheoli gwasanaethau a chyfleusterau mewn llyfrgelloedd. (Adroddiad x 2 100%)

Rhoi Trefn ar Wybodaeth (20 credyd, gorfodol):
Rhoi trefn ar wybodaeth ffisegol a rhithwir. (Adroddiad 60%, Gwaith ymarferol 40%)

Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (20 credyd, gorfodol):
Dulliau ymchwilio, prosiect ymchwil ymarferol a wneir yn y gweithle. (Traethawd 50%, Cyflwyniad 50%)

Technoleg Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Chyfathrebu 2 (20 credyd, gorfodol):
Cydweithrediad digidol ac offer cyfryngau newydd. (Adroddiad 60%, Cyflwyniad 40%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 (20 credyd, gorfodol):
Creu Portffolio Proffesiynol. (Portffolio Myfyriol 80%, Cynnyrch 20%)

Ymddygiad a Diwylliant Sefydliadau (10 credyd, gorfodol):
Gwerthuso Ymddygiad Sefydliadau. (Traethawd 100%)

Hyfforddiant a chymorth mewn cyd-destun llyfrgell (10 credyd, gorfodol):
Cyflwyniad i sgiliau addysgu, hyfforddi, mentora a hyfforddiant. (Traethawd Myfyriol 40%, Cynllun Gwers 20%, Deunydd cefnogaeth 40%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs rhan amser