Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdSc) Theori Cwnsela

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024ymlaen, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

    Rhan-amser: 4 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

    DYDDIAD DECHRAU: 10 Medi 2024

  • Cod UCAS:
    LN26
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdSc) Theori Cwnsela

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fod yn gwnselydd? Dilynwch eich diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth gyda'r radd hon a ddilyswyd ac a ddyfernir gan Brifysgol Bangor. Dysgwch sut i rymuso eraill a meithrin lles meddyliol ac emosiynol cadarnhaol.

Gyda gofynion mynediad hyblyg a pharodrwydd i ystyried ymgeiswyr heb y cymwysterau academaidd arferol, bwriad y rhaglen hon yw denu unigolion sydd â gallu i helpu eraill.

Ai hon fydd eich pennod nesaf?

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi gyflawni eich potensial academaidd a gwella eich cyfleoedd gwaith ym maes Cwnsela.

Gellir astudio'r cwrs un ai'n llawn amser neu'n rhan-amser a golyga'r hyblygrwydd ei fod yn gallu cyd-fynd â'ch ymrwymiadau presennol. Felly, os ydych yn dychwelyd i addysg neu eisoes yn gweithio ym maes cwnsela ac yn awyddus i wella'ch cymwysterau a'ch statws neu gyfleoedd cyflogaeth, fe allai'r cwrs fod yn addas i chi.

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol a phersonol er mwyn gallu bod yn gwnselwyr annibynnol sy'n gweithio'n unol â fframwaith moesegol ac arferion da BACP (British Association of Counselling and Psychotherapy). Mae'r cwrs yn bodloni'r gofynion ar gyfer bod yn gymwys am achrediad BACP. Mae'r modiwlau'n cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)*

  • Datblygiad Proffesiynol (20 credyd)
  • Sgiliau Cwnsela Sylfaenol (20 credyd)
  • Cwnsela Dyneiddiol (20 credyd)
  • Cwnsela Cynhwysol (10 credyd)
  • Cyflwyniad i Gwnsela (20 credyd)
  • Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd)
  • Ymarfer a Moeseg Broffesiynol (20 credyd)

*I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill cymhwyster Lefel 4 mewn Cwnsela, gallwn gydnabod eich holl ddysgu blaenorol ar Lefel 4 fel eich bod yn ymuno â’r rhaglen yn uniongyrchol ar Lefel 5.

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Sgiliau Cwnsela Uwch (20 credyd)
  • Ymchwil a Dysgu Uwch (20 credyd)
  • Ymlyniad ac Adfyd (10 credyd)
  • Iechyd Meddwl a Lles (10 credyd)
  • Grŵp Datblygiad Personol (20 credyd)
  • Cwnsela Seicodynamig (20 credyd)
  • Gweithio ar Hyd Oes Bywyd (20 credyd)

Gwybodaeth Ychwanegol

Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Gofynion mynediad

Mae'r meini prawf mynediad ar gyfer y radd hon yn hyblyg ac nid oes rhaid wrth gymwysterau academaidd.

64 Pwynt UCAS

Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod: IOs nad yw eich cymwysterau'n bodloni'r gofynion mynediad a restrir uchod, byddem yn dal i'ch annog i wneud cais am y cwrs oherwydd fe all dysgwyr gael eu hystyried ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Rydym yn fodlon ystyried ystod eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu hystyried o blith y rhai sy'n gweithio yn y sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol, addysg lles neu'r trydydd sector, gydag o leiaf blwyddyn o brofiad galwedigaethol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddod i gyfweliad anffurfiol er mwyn gweld a ydynt yn addas ar gyfer y cwrs ac i wneud yn siŵr eu bod yn llawn ddeall gofynion y rhaglen a'r ymrwymiad sydd ei angen.

Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar sail eu cymwysterau academaidd blaenorol a'r profiad galwedigaethol perthnasol sydd ganddynt.

Sylwch y gallai fod angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) arnoch er mwyn cael mynd ar leoliad gwaith.

⁠Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 5
Mae dilyniant uniongyrchol ar gael i ddysgwyr sydd wedi astudio ac wedi ennill Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Cwnsela neu gymhwyster CPCAB Lefel 4.

Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod:
Rydym yn fodlon ystyried ystod eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu ar y we
  • ⁠Ymarferion i ddatrys problemau mewn grŵp
  • Arsylwi ac ymarfer sgiliau
  • Gall siaradwyr gynnwys amrywiaeth o arbenigwyr o sefydliadau partner, asiantaethau a sefydliadau cwnsela

Amserlen:

Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024 ymlaen, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm.

Rhan-amser: 4 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

Dyddiad dechrau: 10 Medi 2024

Gofal Bugeiliol

Mae’r system Tiwtorialau Personol yn nodwedd bwysig o'r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac mae'r sesiynau yn gyfle i drafod materion amrywiol fel cynnydd, dilyniant, lleoliadau gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac fe’i heglurir i chi yn eich cyfweliad.

Gallai hyn gynnwys aelodaeth BACP, yswiriant, goruchwyliaeth, DBS a chwnsela personol.

Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg, e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion ac ati yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg drwy'r gwasanaeth llyfrgell. Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd y coleg a gwasanaethau benthyg llyfrau, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu'n cael eu colli.

Cyswllt:

Gillian Clark clark1g@gllm.ac.uk

Fiona Roberts counsellingapplications@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae ein hasesiadau'n caniatáu i'r dysgu gael ei gymhwyso ar sail eich prif ddiddordebau, eich profiad galwedigaethol a'ch lleoliadau gwaith. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Mae'r mathau o asesiadau'n cynnwys

  • Portffolios unigol
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Trafodaeth broffesiynol
  • ⁠Cyflwyniad
  • Cynnig ymchwil
  • Astudiaethau achos
  • Podlediad

Dilyniant

Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?

Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:

  • Symud ymlaen yn uniongyrchol i gyrsiau gradd BA (Anrh.) yn GLlM, yn cynnwys y cwrs BSc newydd mewn Cwnsela sy'n eich galluogi i gwblhau gradd er anrhydedd lawn a dod yn gwnselydd cofrestredig.
  • Cwnselydd cyflogedig neu hunangyflogedig ar ôl cwblhau'r radd BSc mewn Cwnsela
  • Gweithiwr iechyd Meddwl
  • Gwaith Therapiwtig
  • Swyddi uwch mewn amrywiaeth o sectorau a chyd-destunau gwaith.
  • Symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni TAR/TBAR GLlM i hyfforddi i fod yn ddarlithydd Addysg Bellach cymwysedig. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. TBAR GLlM
  • Yn dilyn gradd BA neu BSc, gallech symud ymlaen i wahanol gyrsiau meistr yng ngogledd Cymru. Er enghraifft:
    • MSc Cwnsela
    • MA Gwaith Cymdeithasol
    • MA Troseddeg a Chymdeithaseg
    • MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
    • MA Cymdeithaseg
    • MA Polisïau Cymdeithasol
    • MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
    • MA Addysg
    • MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant
    • MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd

Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion.⁠ ⁠Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau ac yn gweithio gyda Gyrfa Cymru.

Yn rhan o'r strategaeth AU bresennol mae GLlM hefyd wedi cyflwyno'r rhaglen 'Dyfodol Myfyrwyr' er mwyn gwella cyflogadwyedd y dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau. ⁠ ⁠ ⁠ ⁠

I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd sylfaen lawn yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a sector preifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd. Mae'r Ganolfan yn cynnwys darlithfeydd o'r radd flaenaf, ystafelloedd seminar, adnoddau llyfrgell arbenigol, cyfleusterau TG a mannau astudio.

Blwyddyn 1 - Modiwlau Lefel 4*

Datblygiad Proffesiynol
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn perthynas ag ymarfer, gan feithrin eich gallu i adfyfyrio a gwella eich hyder a'ch sgiliau gwneud penderfyniadau. Byddwch yn cael eich annog i feithrin annibyniaeth a chyfrifoldeb personol yn eich rôl broffesiynol ac o ran eich datblygiad personol eich hun fel eich bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau unigolion, ac i'w dysgu, eu datblygiad a'u lles.

Sgiliau Cwnsela Sylfaenol
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i gyfathrebu a'ch sgiliau rhyngbersonol. Cewch gyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau cwnsela yn ogystal â sgiliau hunanymwybyddiaeth a hunanasesu. Cewch eich cyflwyno hefyd i ddulliau strwythuredig o ddysgu er mwyn datblygu eich sgiliau helpu .

Cwnsela Dyneiddiol
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall prif elfennau'r theori ddyneiddiol a'i pherthnasedd i gwnsela. Bydd y modiwl rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol gadarn i chi o ddulliau sy'n canolbwyntio ar unigolion, o ran damcaniaeth datblygiad a phrosesau a sgiliau therapiwtig. Yn ogystal, byddwch yn cael eich arwain i drafod ac archwilio prif ragdybiaethau'r damcaniaethau. Bydd hyn yn sail ar gyfer archwilio profiadau eich cleientiaid a'ch profiadau eich hun.

Cwnsela Cynhwysol

Nod y modiwl hwn yw cynyddu eich dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant yn y proffesiwn cwnsela. Bydd y modiwl yn ceisio creu amgylchedd dysgu sy'n croesawu cynhwysiant ac yn hyrwyddo mynediad cyfartal i gymorth i unigolion o amrywiol gefndiroedd. Bwriad yw modiwl yw rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau sydd eu hangen i ymgysylltu'r effeithiol â chleientiaid o boblogaethau amrywiol trwy ddod i ddeall deddfwriaethau a pholisïau, ac yna eu rhoi ar waith.

Cyflwyniad i Gwnsela
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall beth yw cwnsela a beth yw rôl y therapydd wrth archwilio profiadau cleientiaid. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r broses therapiwtig o safbwynt y cleient a'r cwnselodd. Edrychir ar yr egwyddorion seicolegol sy'n sail i'r theorïau cwnsela allweddol.

Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio
Nod y modiwl hwn yw meithrin eich sgiliau astudio, gan eich galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, a chyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn eich galluogi i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eich gwaith.

Arfer Proffesiynol a Moeseg
Yn y modiwl hwn byddwch yn gweithio eich ffordd trwy Fframwaith Moesegol BACP er mwyn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif egwyddorion yn y proffesiwn cwnsela. Yn ogystal â chael dealltwriaeth gysyniadol o'r fframwaith moesegol, byddwch yn defnyddio'r wybodaeth yn eich modiwl ymarferol wrth ymarfer eich sgiliau cwnsela gyda myfyrwyr eraill cyn gweld cleientiaid.

*I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill cymhwyster Lefel 4 mewn Cwnsela, gallwn gydnabod eich holl ddysgu blaenorol ar Lefel 4 fel eich bod yn ymuno â’r rhaglen yn uniongyrchol ar Lefel 5.

Blwyddyn 2 - Modiwlau Lefel 5

Sgiliau Cwnsela Uwch
Bwriad y modiwl yw rhoi i chi sgiliau cwnsela uwch a gwella eich ymarfer i lefel uwch o hyfedredd therapiwtig. Trwy hyfforddiant uwch byddwch yn meithrin dealltwriaeth fwy trwyadl o ddulliau therapiwtig amrywiol, gan eich galluogi i deilwra ymyriadau i anghenion unigryw pob cleient.

Ymchwil a Dysgu Uwch
Bydd y modiwl yn eich galluogi i gymhwyso ystod o sgiliau ymchwil sy'n briodol i'r pwnc rydych yn ei astudio. Bydd gofyn i chi gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth, a'r gallu i roi amrywiaeth o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n dal dŵr drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys.

Ymlyniad ac Adfyd
Bwriad y modiwl yw rhoi ymwybyddiaeth i chi o ymlyniad ac adfyd sy'n gysyniadau arwyddocaol ym maes cwnsela, yn enwedig yng nghyd-destun deall lles emosiynol a seicolegol unigolion. Byddwch yn ystyried adfyd trwy helpu cleientiaid i archwilio effaith heriau presennol, neu heriau o'r gorffennol, ar eu lles, gan nodi strategaethau ymdopi a meithrin gwytnwch.

Iechyd Meddwl a Lles
Bydd y modiwl yn codi ymwybyddiaeth y myfyrwyr o ddigwyddiadau cyffredin bywyd a rhwystrau i les, ac yn gwella eu dealltwriaeth o rai o'r anhwylderau iechyd meddwl mwyaf cyffredin. Byddwch yn gallu adnabod nodweddion pwysicaf pryderon iechyd fel y diffinnir hwy yn Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorder, Fifth Edition (DSM-5; 2013 (cyfeirir hefyd at y ICD-10), ac ymateb yn briodol, diogel a moesegol. Cewch eich cyflwyno i'r asesiadau iechyd meddwl y gall cwnselwyr eu cynnal, a byddwch yn gwella eich ymyriadau a'ch sgiliau therapiwtig i gynorthwyo cleientiaid sy'n dioddef gofid seicolegol penodol yn ystod sesiynau cwnsela.

Grŵp Datblygiad Personol
Bydd y modiwl hwn yn eich annog i adfyfyrio'n fewnol er mwyn meithrin ymwybyddiaeth bersonol, hwyluso twf personol a'ch gallu i dderbyn eich hun trwy ryngweithio a chymryd rhan mewn prosesau sesiynau grŵp. Byddwch yn cysylltu syniadau a chysyniadau damcaniaethol â'ch datblygiad personol eu hun; yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion datblygiadol a all effeithio ar eich gallu i weithio'n effeithiol gyda chleientiaid; yn meithrin a gwella eich gallu i hunan-adfyfyrio.

Cwnsela Seicodynamig
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i theorïau ac arferion seicodynamig mewn cwnsela ac yn ystyried dulliau posibl o sefydlu sgiliau a thechnegau’n ddiogel a moesegol yn eich gwaith presennol gyda chleientiaid. Bydd y modiwl yn eich helpu i ddeall a datrys y gwrthdaro, y cymhellion ac emosiynau sylfaenol sy'n dylanwadu ar feddyliau, teimladau ac ymddygiad. Bydd hefyd yn cynnig dehongliadau o feddyliau, teimladau ac ymddygiad cleientiaid, gan eu helpu i gael gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.

Gweithio ar Hyd Rhychwant Oes
Bwriad y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi o wahanol ddamcaniaethau seicoleg ddatblygiadol sy'n ymwneud â datblygiad dynol ar hyd rhychwant oes, o blentyndod a glasoed i fyd oedolion. Rhoddir ystyriaeth hefyd i faterion cyfoes yn ymwneud â datblygiad dynol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'ch datblygiad eich hun ar hyd rhychwant oes, yn ogystal â chleientiaid sy'n cael eu cwnsela.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela

Sefydliad dyfarnu