Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaenol (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Amser-llawn: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 3 blynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

    Dydd Llun a dydd Mawrth, 9am - 5pm

  • Cod UCAS:
    CX6C
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaenol (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn cael ei ail-ddilysu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhanddeiliaid. Mae hyn er mwyn diweddaru'r cynnwys erbyn Medi 2025.

Mae'r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sydd am gael gyrfa ym maes Gwyddor Chwaraeon a/neu'n Hyfforddi ym maes Chwaraeon. Bwriad y Radd Sylfaen yw datblygu'ch dealltwriaeth o Wyddor Chwaraeon ac o sut i Hyfforddi, drwy ddadansoddi egwyddorion, cysyniadau a materion cyfredol a'u rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Wrth ddysgu am wahanol ddisgyblaethau, byddwch yn meithrin gwybodaeth y gallwch ei rhoi ar waith mewn amrywiol sefyllfaoedd i'ch helpu i wella perfformiad ar y maes chwarae.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Anatomeg Swyddogaethol
  • Asesu Ffitrwydd
  • Hanfodion Ffisioleg Ymarfer
  • Hanfodion Seicoleg Chwaraeon
  • Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio
  • Egwyddorion Hyfforddi
  • Dulliau Ymchwil a Sgiliau Astudio
  • Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Biomecaneg
  • Dadansoddi Perfformiad
  • Ffisioleg Gymhwysol
  • Dulliau Ymchwilio
  • Dadansoddi Perfformiad
  • Seicoleg Arferion Hyfforddi
  • Seicoleg Ymarfer Hyfforddi
  • Pecyn Cymorth Hyfforddi

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Mae graddau sylfaen yn addas i fyfyrwyr sydd ag ystod o alluoedd, gan gynnwys rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol. Ni dderbynnir myfyriwr oni bai ei fod yn debygol o allu cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus a chael budd ohoni.

Derbynnir y rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ar sail y canlynol, ond nid ar sail y canlynol yn unig:

  • Datganiad personol neu CV, asesiad mewn cyfweliad, perfformiad mewn tasgau a osodwyd yn benodol i ddibenion derbyn, profiad gwaith perthnasol a thystlythyrau gan gyflogwyr.

Yn achos unigolion sydd â chymwysterau ffurfiol, mae'r canlynol yn dderbyniol:

  • o leiaf 64 pwynt UCAS yn y prif gymhwyster, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc A2 perthnasol; neu Dystysgrif/Diploma Cenedlaethol BTEC (TLl) neu uwch, neu AVCE, GNVQ, Bagloriaeth Ryngwladol, Bagloriaeth Cymru, mewn pwnc perthnasol; neu radd Llwyddo mewn cwrs MYNEDIAD a gymeradwywyd; neu NVQ/VRQ Lefel 3
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cywerth yn dderbyniol
  • Ystyrir mynediad i Lefel 5 ar sail unigol, yn unol â pholisi GLLM o ran trosglwyddo credydau.

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu gyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys a nodir uchod fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
  • Yn achos ymgeiswyr tramor sydd am ddechrau ar Lefel 4: IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr tramor sydd am ddechrau ar Lefel 5: IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Yn achos lleoliadau allanol, rhaid cael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Seminarau
  • Tiwtorialau
  • Gweithdai
  • Grwpiau trafod
  • Sesiynau hyfforddi ymarferol
  • Siaradwyr Gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Lleoliadau gwaith gyda hyfforddwyr profiadol
  • Profiad Gwaith mewn Lleoliad Datblygu Chwaraeon
  • Gweithio gyda Chanolfannau Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yn y coleg
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE).

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 ddiwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Gwiriad DBS
  • Ymweliadau astudio (cyllidebwch tua £100 am hyn)

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Ysgoloriaeth Cymhelliant 2022-2023 Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos: Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi'r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar - colegcymraeg@glllm.ac.uk.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Steve Kehoe (Rhaglen Arweinydd): kehoe1s@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): backho1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
  • Adroddiadau grwpiau
  • Cyflwyniadau grŵp.

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl dilyn y cwrs, bydd nifer o ddewisiadau o ran dilyniant proffesiynol ac addysgol ar gael i chi. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis mynd ymlaen i astudio ar Lefel 6, gan dreulio blwyddyn arall yn astudio at radd BSc (Anrh). Wedyn, gallant ddilyn cwrs TAR er mwyn bod yn athro/athrawes Addysg Gorfforol.

Gall y Radd Sylfaen hefyd fod yn fodd i gael gwaith yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Gallech weithio fel hyfforddwr neu reolwr hyfforddi, neu weithio i wasanaeth cefnogi ym maes gwyddor chwaraeon neu ym maes datblygu chwaraeon. Dewis arall fyddai dilyn gyrfa ym maes iechyd neu wyddoniaeth, lle bydd eich profiad o ymchwilio'n uniongyrchol berthnasol.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Anatomeg Swyddogaethol (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw darparu gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol anatomeg ddynol sy'n sail i swyddogaeth ddynol a'u perthynas ag egwyddorion cinesioleg. (Cyflwyniad 50%, Arholiad 50%)

Asesu Ffitrwydd (10 credyd, gorfodol)
Prif nod yr uned yw sicrhau bod myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â thechnegau a phrotocolau profi, gan feithrin sgiliau ymarferol, trin data a chysyniadau pwysig ym maes ffisioleg ymarfer corff. Bydd myfyrwyr yn magu profiad ymarferol hefyd mewn perthynas â chod ymddygiad ac ystyriaethau moesegol a moesol. (Traethawd 25%, Asesiad Ymarferol 75%)

Pecyn Cymorth Hyfforddi 1 (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau damcaniaethol y broses hyfforddi mewn ffordd ymarferol, gan roi profiad i fyfyrwyr o ddefnyddio technegau arfer gorau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd chwaraeon. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso eu sesiynau hyfforddi. (Cyflwyno Sesiwn 50%, Gwerthusiad Ysgrifenedig 50%)

Hanfodion Ffisioleg Ymarfer (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw dysgu rhagor am anatomeg ddynol a chyflwyno'r agweddau ffisiolegol ar berthynas gwahanol systemau'r corff â'i gilydd pan wneir ymarfer corff, a'r addasiadau a ddigwydd yn dilyn gwneud ymarfer corff am gyfnod hir. Hefyd, bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymchwilio'n ymarferol mewn labordy ynghyd â sgiliau trin a chyflwyno data. (Traethawd 50%, Adroddiad 50%)

Hanfodion Seicoleg Chwaraeon (10 credyd, gorfodol)
Pwrpas y modiwl hwn yw archwilio modelau damcaniaethol sylfaenol sy'n gynhenid ​​ym mhroses seicoleg chwaraeon a'u perthynas â pherfformiad. Bydd y modiwl hwn yn gyflwyniad i egwyddorion seicoleg chwaraeon (Cyflwyniad Grŵp 70%, Adlewyrchiad 30%)

Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn briodol mewn disgyblaeth benodol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau o ran deall sut i ymchwilio'n briodol, defnyddio confensiynau academaidd, ysgrifennu academaidd a rheoli a threfnu eu gwaith. Bydd y modiwl hefyd yn eu cyflwyno i'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â thrin a dadansoddi data. (Portffolio 100%)

Egwyddorion Hyfforddi (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau damcaniaethol ynghylch y broses hyfforddi mewn modd ymarferol, gan roi profiad i fyfyrwyr o ddefnyddio gwahanol dechnegau hyfforddi mewn amrywiol sefyllfaoedd ym maes chwaraeon. Caiff myfyrwyr gyfle hefyd i gynllunio, i gynnal ac i werthuso eu sesiynau hyfforddi eu hunain. Mewn gweithdai Sports Coach UK, caiff myfyrwyr feithrin dealltwriaeth o'r prif feysydd sy'n gysylltiedig â hyfforddi e.e. diogelu ac anabledd ym maes chwaraeon. (Arsylwad hyfforddi 70%, Cyflwyniad 30%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 - Rhoi Theori ar Waith (20 credyd, gorfodol)

Byddwch yn gwneud nifer o dasgau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac a drefnwyd gan gyflogwyr/cynrychiolwyr o'r diwydiant a staff y Grŵp ar y cyd. (Portffolio 100%)

Dulliau Ymchwil a Sgiliau Astudio (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw datblygu gallu’r myfyriwr i gymhwyso ystod o sgiliau academaidd yn briodol o fewn disgyblaeth ddewisol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau deall sut i gynnal ymchwil priodol, defnyddio confensiynau academaidd, ysgrifennu academaidd a rheoli a threfnu eu gwaith. Bydd y modiwl hefyd yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol o drin a dadansoddi data. (Portffolio 100%)

Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon (20 credyd, gorfodol)
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr gyflwyniad i faeth ym maes chwaraeon, y rôl y mae maeth yn ei chwarae o ran gwella iechyd a pherfformiad a sut y gellir cynnwys ychwanegion dietegol (cymorth ergogenig) mewn poblogaethau o athletwyr. (Traethawd 60%, Cyflwyniad 40%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Biomecaneg (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth ymarferol o gysyniadau ym maes biomecaneg a chinesioleg sy'n ymwneud â symud a pherfformio yng nghyd-destun chwaraeon, a chanfod meysydd y gellid eu gwella. (Adroddiad 100%)

Dadansoddi Perfformiad (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw meithrin gwybodaeth am ddulliau gwahanol o ddadansoddi perfformiad, gan eu rhoi ar waith mewn amrywiol gyd-destunau chwaraeon, a chan ddadansoddi eu heffeithiolrwydd a rhoi i fyfyrwyr sgiliau ymarferol o ran dadansoddi a rhoi adborth i athletwyr. (Traethawd 60%, Astudiaeth Achos 40%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 - Adfyfyrio Proffesiynol a Datblygiad Personol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu profiadau dysgu, gan eu rhoi ar waith i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau academaidd a galwedigaethol, eu hunan-barch a'u cyflogadwyedd yn awr ac yn y dyfodol. (Portffolio 60%, Cynllun Datblygol 40%)

Ffisioleg Gymhwysol (20 credyd, gorfodol)
Prif nod y modiwl hwn yw adeiladu ar astudiaeth flaenorol o ffisioleg a maetheg a chaniatáu i fyfyrwyr gymhwyso'r wybodaeth hon o safbwynt gwyddor chwaraeon, i wneud y gorau o berfformiad athletwyr yn y pen draw. Bydd myfyrwyr yn archwilio meysydd ymarfer allweddol mewn gwahanol amgylcheddau a strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer i ddarparu enillion ymylol ac arwain at uchafu perfformiad. (Traethawd 50%, Cyflwyniad 50%)

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw cadarnhau, datblygu ymhellach ac ymestyn gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn briodol mewn maes penodol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu academaidd a'u sgiliau ymchwilio i ganfod gwybodaeth, datblygu rhagdybiaethau y gellir eu cyfiawnhau, defnyddio methodolegau ac adnoddau ymchwilio, dadansoddi ac adrodd ar ddata disgwyliedig a dadlau ag argyhoeddiad er mwyn cyflwyno adroddiad sy'n cyfleu cynnig ymchwil cadarn yn effeithiol. (Cynnig Prosiect 30%, Adroddiad 70%)

Dadansoddi Perfformiad (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw meithrin gwybodaeth am ddulliau gwahanol o ddadansoddi perfformiad, gan eu rhoi ar waith mewn amrywiol gyd-destunau chwaraeon, a chan ddadansoddi eu heffeithiolrwydd a rhoi i fyfyrwyr sgiliau ymarferol o ran dadansoddi a rhoi adborth i athletwyr. (Traethawd 100%)

Seicoleg Arferion Hyfforddi (20 credyd, gorfodol)
Prif nod y modiwl hwn yw gwella sgiliau hyfforddi ymarferol ac edrych ar y prif gysyniadau sy'n dylanwadu ar yr amgylchedd hyfforddi a'r amgylchedd dysgu sydd ohoni ym maes hyfforddi heddiw. Bydd myfyrwyr yn astudio sut y gall arweinyddiaeth hyfforddwr effeithio ar yr amgylchedd dysgu a'r effaith a gaiff deinameg grŵp ar berfformiad tîm. (Arsylwad hyfforddi 60%, Cyflwyniad 40%)

Seicoleg Ymarfer Hyfforddi (20 credyd, gorfodol)
Prif nod y modiwl yw adeiladu ar sgiliau hyfforddi ymarferol ac archwilio cysyniadau allweddol sy'n dylanwadu ar yr amgylchedd hyfforddi a dysgu mewn hyfforddi modern. Bydd myfyrwyr yn archwilio sut y gall arweinyddiaeth hyfforddwyr effeithio ar yr amgylchedd dysgu ac effeithiau deinameg grŵp ar berfformiad tîm. (Arddangosiad Hyfforddi 30%, Adolygiad 30%, Cyflwyniad 40%)

Pecyn Cymorth Hyfforddi 2 (20 credyd, gorfodol)
Prif nod y modiwl hwn yw datblygu ymarfer hyfforddi o gaffael sgiliau a darparu argymhellion arfer gorau i wella dysgu a chadw. Hefyd, bydd y modiwl hwn yn archwilio modelau cynllunio hirdymor ar gyfer datblygiad athletwyr a'r ffordd orau o'u rhoi ar waith. (Cynllun Hyfforddi 30%, Traethawd 40%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Posib cwblhau 33% o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyrwyr yn defnyddio offer chwaraeon

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser