TGAU Saesneg Iaith
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Bangor (Campws Newydd), Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
30 wythnos, 3 awr yr wythnos
TGAU Saesneg IaithDysgwyr sy'n Oedolion
Mae cyrsiau ar gyfer 24/25 bellach yn llawn.
Ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2025, bydd ceisiadau ar agor o fis Gorffennaf 2025 ymlaen.
Cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin ar waelod y dudalen hon a allai ateb rhai cwestiynau i chi.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn disgwyl i chi gael TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith. Os na chawsoch y cymhwyster hwn yn yr ysgol, bydd Grŵp Llandrillo Menai'n rhoi cyfle i chi wella'ch gradd er mwyn i chi allu mynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg bellach neu addysg uwch addas neu i swydd.
Neu mae'n bosibl eich bod am astudio Saesneg am eich bod yn mwynhau dysgu ac wrth eich bodd gyda'r pwnc?
Byddwch yn defnyddio a gwella eich sgiliau Darllen, Ysgrifennu, Siarad a Gwrando.
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.
Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:
Llafaredd: Byddwch yn datblygu eich sgiliau siarad a gwrando trwy gydol y cwrs, mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
Byddwch yn cael eich asesu'n gwneud cyflwyniad neu sgwrs a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Cofnodir y rhain gan eich tiwtor.
Darllen ac Ysgrifennu: Byddwch yn datblygu eich gallu i ysgrifennu ar gyfer amrediad o ddibenion a chynulleidfaoedd.
Cost
Ffi dysgu o £80. Ffi arholiad o £40. Mae consesiynau ar gael. Uwchlwythwch dystiolaeth ar gyfer y consesiwn pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.
Gofynion mynediad
Mae angen dealltwriaeth dda o lythrennedd sylfaenol felly byddwch yn cwblhau asesiad cyn i chi gofrestru. Os yw'n briodol, byddwn yn argymell cwrs gwahanol cyn i chi gofrestru ar gyfer TGAU.
Os ydych chi'n dymuno astudio'r cwrs hwn ar-lein, mae'r dechnoleg ganlynol yn ofynnol:
- Gliniadur / Cyfrifiadur Personol / Dyfais tabled
- Cysylltiad band eang sefydlog
- Bydd disgwyl i chi gael camera a siaradwr gweithredol i gyfrannu'n llawn yn y wers
Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio e-bost, Google Classroon ac o bosibl adnoddau ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad i'r rhain.
Ar gyfer dosbarthiadau ar-lein:
Rhaid i chi fyw o fewn mynediad rhwydd i gampws Grŵp Llandrillo Menai gan y bydd angen i chi fynychu campws i gynnal eich asesiadau a'ch arholiadau.
Cyflwyniad
Cynigir cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein
Trafodaethau
Darllen ac ysgrifennu dadansoddol
Ymchwilio’n annibynnol
Gwaith grŵp
Dadlau
Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd
Asesiad
Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad llafaredd
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- TGAU
TGAU rhan-amser: Cwestiynau Cyffredin
Pa gyrsiau TGAU sydd ar gael a ble mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig?
- Saesneg (Iaith) - Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, ar-lein
- Cymraeg (Ail Iaith) - ar-lein yn unig
- Mathemateg - Abergele, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
- Mathemateg (Numeracy) - Abergele, Bangor, ar-lein
- Bioleg - Llandrillon-yn-Rhos
Am faint o’r gloch mae’r cyrsiau TGAU?
Bydd dyddiad a lleoliad y cyrsiau TGAU rhan-amser ar gael ar y wefan (Mai/Mehefin bob blwyddyn).
Faint fydd cost y cyrsiau?
Cyfanswm y gost ydy £120. Mae’r ffi dysgu’n £80 a’r ffi arholiad yn £40.
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn gostyngiad.
Sut galla i ganfod ydw i’n gymwys i dderbyn gostyngiad?
Ewch i’r dudalen Ffioedd a Gostyngiadau i gael rhagor o wybodaeth.
Beth yw’r broses o wneud cais ar gyfer cwrs TGAU rhan-amser?
Gwneir cais i ddilyn cwrs TGAU rhan-amser ar ein gwefan.
Sut mae talu am fy nghwrs TGAU?
Bydd rhywun o’r coleg yn cysylltu â chi i wneud taliad diogel dros y ffôn.
Rydw i’n iau na 16 oed, alla i gwblhau fy nghyrsiau TGAU yn y coleg?
Os ydych yn derbyn eich addysg gartref yn hytrach na mewn sefydliad addysg statudol gallwch ddod i ddosbarthiadau TGAU yn y coleg. Bydd gofyn i chi ddod â hebryngwr addas gyda chi i bob gwers. Codir tâl ar raddfa arferol y coleg.
Cyn cofrestru rydym yn awgrymu bod eich rhieni yn cysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr am ragor o wybodaeth.
Rydw i wedi cofrestru ar gwrs llawn amser, alla i ailsefyll fy arholiad TGAU hefyd?
Gallwch. Os ydych chi wedi ennill gradd D, byddwn yn eich cofrestru i ailsefyll yr arholiad TGAU priodol. Os yw eich gradd yn is na gradd D, byddwn yn eich cofrestru ar raglen Sgiliau Hanfodol priodol er mwyn eich cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gael mynediad at TGAU yn y dyfodol. Os yw eich gradd yn radd C neu uwch ac os hoffech wella’r radd honno cewch gyfle i wneud hynny.
Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU mewn Rhifedd neu Fathemateg. Sut byddaf yn gwybod bod fy sgiliau mathemateg yn ddigon da i ymdopi â’r cwrs?
Byddwn yn gofyn i chi gwblhau asesiad byr cyn i chi gofrestru. Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i'r cwrs sydd fwyaf addas i chi.
Beth yw lefel TGAU Mathemateg/Rhifedd, alla i ennill gradd C?
Bydd y papur canolradd yn caniatáu i chi ennill graddau rhwng E a B. Os yw eich tiwtor yn teimlo y gallech ennill gradd uwch na gradd B mi fydd yn trafod y posibilrwydd o’ch cofrestru i gwblhau papur haen uwch.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg a TGAU Rhifedd?
Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu’r fathemateg y bydd gofyn i chi ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith. Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i’r agweddau mathemateg sy’n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach. Os oes gennych unrhyw lwybr dilyniant mewn golwg, dylech drafod beth yw eu gofynion penodol.
Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg (Ail Iaith). A yw’r cwrs hwn yn addas i rywun â dealltwriaeth cyfyngedig o’r Gymraeg?
Mae angen dealltwriaeth dda o Gymraeg sylfaenol. Byddwn yn gofyn i chi gwblhau asesiad byr cyn i chi gofrestru. Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i'r cwrs sydd fwyaf addas i chi.
Hoffwn gwblhau fy mhwrs TGAU ar-lein - pa offer fydd ei hangen arnaf?
Byddwch angen mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu chromebook a gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy. Dylai bod gwe gamera, microffon a seinydd ar eich dyfais er mwyn i chi fedru cymryd rhan lawn yn y wers.
Bydd angen i chi fynychu campws o hyd i sefyll asesiadau allweddol ac arholiadau terfynol, felly mae'n rhaid i chi fyw o fewn pellter teithio i gampws GLLM.
Mae gennyf ddiddordeb mewn dilyn cwrs TGAU mewn Bioleg, ydy’r cwrs hwn ar gael ar-lein?
Nac ydy. Mae angen cwblhau elfennau ymarferol yn ystod y cwrs a dim ond ar y campws mae’r rhain ar gael.
Mae cwestiwn gennyf o hyd am y TGAU, alla i siarad â rhywun?
Cysylltwch â’r adran Cyngor ac Arweiniad i drafod eich ymholiad ymhellach.
Rydw i wedi gwneud cais ac wedi talu am gwrs TGAU ar-lein fydd yn dechrau fis Medi. Pryd bydda i’n derbyn rhagor o wybodaeth am ddyddiad dechrau ac oriau’r cwrs a sut bydda i’n cael mynediad ato?
Bydd eich tiwtor yn cysylltu’n uniongyrchol a chi ac mi gewch gyngor am yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn dechrau ar y cwrs. Mae’n bwysig iawn bod eich cyfeiriad e-bost gennym oherwydd dyma sut bydd y tiwtor yn anfon gwybodaeth bwysig atoch chi.
Ydi hi’n bosib i mi sefyll arholiad TGAU fel ymgeisydd allanol, heb ddilyn y dosbarthiadau?
Nac ydy, nid ydym yn derbyn ymgeiswyr allanol i sefyll TGAU yma. Er mwyn sefyll unrhyw arholiad TGAU yn y coleg, rhaid i chi gofrestru ar y cwrs.
Rydw i’n ystyried dilyn cwrs TGAU ar-lein, ble bydda i’n sefyll yr arholiad?
Ar ddechrau’r cwrs, bydd eich tiwtor yn gofyn i chi nodi ar ba gampws hoffech chi sefyll yr arholiad. Gallwch ddewis y campws sy’n lleol i ble rydych chi’n byw. Cewch ddewis o’r canlynol: Bangor, Dolgellau, Glynllifon, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl.
Oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gwrs TGAU ar-lein?
Unwaith bydd y cwrs yn llawn neu’r dyddiad dechrau wedi pasio, bydd y cwrs yn cael ei dynnu oddi ar y wefan.