Prentisiaeth - Gweithrediadau Adeiladwaith Cyffredinol Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 mlynedd
Prentisiaeth - Gweithrediadau Adeiladwaith Cyffredinol Lefel 3Prentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae prentisiaeth ym maes adeiladu yn hyfforddiant galwedigaethol ble mae'r prentis yn dilyn fframwaith Sgiliau Adeiladu cydnabyddedig er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth, ac yna yn eu harddangos ac yn casglu tystiolaeth o hynny mewn amgylchedd adeiladu.
Er mwyn cwblhau Prentisiaeth ym maes Adeiladu rhaid bod y prentis yn gweithio yn ystod y brentisiaeth ac ar ddiwedd y cwrs, a bod ganddo dystiolaeth o gymhwysedd mewn ystod o sgiliau galwedigaethol penodol.
Gofynion mynediad
- Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i D mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg
- I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd.
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Cyflwyniad
- Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O ran y diwydiant, bydd y rhaglen yn rhoi i chi'r sgiliau a'r cymhwyster sy'n angenrheidiol i fynd yn hunangyflogedig neu i weithio i gwmni neu gontractwr.
Mae'r rhaglen yn darparu cymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr i'ch helpu fynd ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach.
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
