Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai (Celf a Dylunio)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 awr

Cofrestrwch
×

Gweithdy Creu Modrwy

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Archwiliwch eich ochr greadigol gyda'n Gweithdy Gwneud Modrwyau a gwnewch eich modrwy arian eich hun. Yn ystod y sesiwn, byddwch yn cael eich arwain wrth wneud modrwy band mewn arian sterling a byddwch yn dysgu rhai o hanfodion gwneud gemwaith, gan gynnwys gweadu, sodro a ffurfio. Byddwn yn cychwyn pethau trwy fesur y fodrwy a mesur yr arian sydd ei angen, cyn ffeilio a siapio'r arian. Yna byddwch chi'n defnyddio fflachlamp i'w sodro, gan ychwanegu gweadau unigryw gyda'n casgliad o forthwylion.

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Lluosi