Gwneud Dilledyn: Rhifau tu ôl i Decstilau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Parc Menai (Celf a Dylunio)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 awr
Gwneud Dilledyn: Rhifau tu ôl i DecstilauPotensial (Dysgu Gydol Oes)
Disgrifiad o'r Cwrs
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i greu dilledyn o'r newydd, gan ddefnyddio patrwm. Cewch gyflwyniad i sgiliau gwnïo at ddiben ymarferol, o fesur, torri, i'r dilledyn terfynol. Bydd yr holl ddeunydd yn cael ei ddarparu, a bydd y technegau a ddysgir yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer creu eich dillad eich hun yn y dyfodol. O bosib bydd sioe ffasiwn ar gyfer eich cyd-ddysgwyr ar ddiwedd y cwrs!
Dyddiadau Cwrs
Coleg Menai, Parc Menai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
15/11/2024 | 09:30 | Dydd Gwener | 6.00 | 3 | Am ddim | 9 / 10 | GWY44183 |
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Lluosi