Trin Gwallt Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Trin Gwallt Lefel 1Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'ngobeithio cychwyn gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi ennyn amrywiaeth o sgiliau proffesiynol yn y sector hwn?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad i'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael rôl draddodiadol fel is-steilydd gwallt fel y gallwch helpu steilydd gyda'r gwaith beunyddiol mewn salon neu weithle tebyg. Gall hefyd fod yn gam ymlaen at eich astudiaethau Lefel 2.
Mae'r cwrs yn cynnwys defnyddio siampŵ, sychu, iechyd a diogelwch, gwaith derbynfa a phynciau hanfodol eraill.
Gofynion mynediad
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
- 2 TGAU gradd D neu uwch
- Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
- Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Cyflwyniad Ymarferol
- Sesiynau Theori
- Gweithdai
- Amgylchedd dysgu Realistig
- Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
- Ystafell Ddosbarth
- Dysgu o bell
- Asesiadau ac arholiadau ymarferol
Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Arsylwi
- Asesiadau ymarferol yn yr salon
- Profion ysgrifenedig ac ar lafar
Dilyniant
Mae'r rhaglen yn rhoi cymhwyster a set gwerthfawr o sgiliau i'ch helpu symud ymlaen i swydd neu addysg.
Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:
- Therapi Harddwch Lefel 1
- Therapi Harddwch Lefel 2
- Trin Gwallt, Lefel 2
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Bangor
- Dolgellau
- Llandrillo-yn-Rhos
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
