Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor (Campws Newydd), Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn

Cofrestrwch
×

Trin Gwallt Lefel 2

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dolgellau

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau technegol?

Mae'r rhaglen ymarferol hon yn adeiladu ar eich dealltwriaeth bresennol ac yn eich dysgu sut i ddod yn steilydd. Byddwch yn astudio pob agwedd ar steilio gwallt, yn cynnwys torri, permio, lliwio, sychu a setio gwahanol fathau o wallt a gwallt o wahanol hyd.

Hefyd, byddwch yn datblygu sgiliau wrth ymdrin â chleientiaid, gwaith derbynfa, triniaethau gwallt/croen y pen ac iechyd a diogelwch. Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r rhaglen lefel 1 ym maes Trin Gwallt, a bydd yn parhau i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector gwallt a harddwch.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol, a Gradd D/E Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Cyflwyniad Ymarferol
  • Sesiynau Theori
  • Gweithdai
  • Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
  • Amgylchedd dysgu Realistig

Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau yn ymwneud â phynciau penodol yn ogystal â sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Byddwch hefyd yn astudio cymwysterau perthnasol eraill, a allai gynnwys Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arsylwadau ac arholiadau
  • Asesiadau ar-lein

Dilyniant

Mae'r rhaglen yn rhoi cymhwyster a set gwerthfawr o sgiliau i'ch helpu symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg. Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:

  • Gwaith Barbwr Lefel 2
  • Trin Gwallt Lefel 3
  • Therapi Harddwch Lefel 2
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Myfyriwr yn gwneud gwaith harddwch
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date