Trin Gwallt Lefel 2 Tystygrif (VRQ)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Trin Gwallt Lefel 2 Tystygrif (VRQ)Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n gobeithio cychwyn gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau technegol?
Mae'r rhaglen ymarferol hon yn adeiladu ar eich dealltwriaeth bresennol ac yn eich dysgu sut i ddod yn steilydd. Byddwch yn astudio pob agwedd ar steilio gwallt, yn cynnwys torri, permio, lliwio, sychu a setio gwahanol fathau o wallt a gwallt o wahanol hyd.
Hefyd, byddwch yn datblygu sgiliau wrth ymdrin â chleientiaid, gwaith derbynfa, triniaethau gwallt/croen y pen ac iechyd a diogelwch. Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r rhaglen lefel 1 ym maes Trin Gwallt, a bydd yn parhau i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector gwallt a harddwch.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen i fod wedi cwblhau tylino croen y pen.
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Cyflwyniad Ymarferol
- Sesiynau Theori
- Gweithdai
- Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
- Amgylchedd dysgu Realistig
Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Arsylwi
- Asesiadau ar-lein
- Arholiadau
Byddwch yn cael gradd pas, teilyngdod neu ragoriaeth yn dibynnu ar eich canlyniadau asesu.
Dilyniant
Mae'r rhaglen yn rhoi cymhwyster a set gwerthfawr o sgiliau i'ch helpu symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg. Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:
- Trin Gwallt Lefel 2 (NVQ)
- Therapi Harddwch Lefel 2
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Llandrillo-yn-Rhos
Dwyieithog:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch