Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn

Cofrestrwch
×

Trin Gwallt Lefel 3

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n ystyried datblygu eich gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi weithio yn un o'r salonau gorau, ar gychod pleser neu gael swydd fel rheolwr neu ddangosydd?

Mae diwydiant trin gwallt y DU yn chwilio am arbenigwyr cymwys ac mae'r rhaglen hon yn eich caniatáu i fodloni'r meini prawf hynny. Mae hefyd yn un o'r ychydig gymwysterau a dderbynnir i weithio dramor, gan roi mwy fyth o opsiynau i lwyddo ichi.

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n symud ymlaen o gymhwyster Lefel 2 perthnasol neu brofiad blaenorol mewn salon. Yn ogystal â hybu eich opsiynau gyrfa mae'n eich galluogi i symud ymlaen i Addysg Uwch a mynd â'ch astudiaethau ymhellach.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio gyfredol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Cyflwyniad Ymarferol
  • Sesiynau Theori
  • Gweithdai
  • Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
  • Amgylchedd dysgu Realistig

Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arsylwi
  • Asesiadau ar-lein

Dilyniant

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cymhwyster a set werthfawr o sgiliau i'ch helpu symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch.

Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio rhaglen lefel gradd gyda Grŵp Llandrillo Menai, megis Gradd Sylfaen (FdA) mewn Rheoli a Busnes, neu gwrs gradd arbenigol gyda sefydliad arall.

Neu, fe fyddai modd i chi gael swydd mewn gwesty, sba neu salon.

Neu ewch ymlaen i brentisiaeth:

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Myfyriwr yn gwneud gwaith harddwch
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date