Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3

Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Dolgellau
Llangefni
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?

Mae'r rhaglen hon yn darparu cymhwyster lefel uwch, a ddarperir gan weithwyr proffesiynol profiadol. Bydd y rhaglen yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau, gan eich paratoi i symud ymlaen i Addysg Uwch neu Addysg Uwch neu'n uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae'n darparu rhaglen astudio ymarferol, gan ganolbwyntio ar anghenion rolau a sefyllfaoedd swyddi go iawn.

Mae'r rhaglen yn addas os ydych chi'n symud ymlaen o gwrs Lefel 2 cysylltiedig neu o gyrhaeddiad TGAU addas.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch chi'n gallu gweithio mewn nifer o rolau, gan gynnwys cefnogaeth a gwaith sesiynol ar draws y sector gofal. Byddwch hefyd yn barod ar gyfer Addysg Uwch, a gyrfaoedd yn y pen draw gan gynnwys nyrsio, gwaith cymdeithasol a gofal preswyl.

Mae cynnwys y rhaglen yn cwmpasu Egwyddorion a Damcaniaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys: twf a datblygiad dynol; salwch, afiechydon ac anhwylderau cyffredin a sut y gellir eu hatal a'u rheoli; darparu gofal iechyd a chymdeithasol ar draws yr ystodau oedran; egwyddorion gofal a chyfathrebu o ansawdd uchel; dealltwriaeth o ymddygiad dynol (damcaniaethau seicolegol); dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles; hyrwyddo hawliau unigolion; a hefyd ymgysylltu â'r sector a lleoliad gwaith.

Mae mynychu Digwyddiad Agored gyda ni yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am weithio yn y sector hwn a'r ystod o yrfaoedd y gall y cwrs hwn eich arwain atynt. Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs, bywyd yn y coleg, neu weithio yn y sectorau iechyd, cymdeithasol neu ddatblygiad plant, gofal ac addysg.

Gofynion mynediad

5 TGAU gradd A* i C, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, a Mathemateg neu TGAU mewn Rhifedd (neu gymhwyster cyfwerth - e.e. Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif (Lefel 2) Fel arall, cymhwyster Diploma Lefel 2 (Teilyngdod) mewn maes galwedigaethol perthnasol a TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ar Lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth, e.e. cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif (Lefel 2) Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i'w gwblhau wrth gofrestru.

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych y proffil gofynion mynediad, neu a oes gennych gymwysterau amgen sy'n gyfwerth yn eich barn chi, cysylltwch â'r Gwasanaethau Dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio byw neu'n uniongyrchol.

⁠Efallai y bydd eich rhaglen yn gofyn i chi ddod i gyfweliad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny.

Fel rhan o’r cwrs hwn bydd angen i chi dalu £49.50 am wiriad DBS, a thua £100 am wisg ysgol a theithiau.

Cyflwyniad

Bydd y rhaglen yn eich arfogi â'r hyn sy'n cyfateb i isafswm o 3 Safon Uwch, ynghyd â chymwysterau sy'n cael eu cydnabod ar gyfer cofrestru i weithio yn y sector, yn amodol ar gwblhau cymwyseddau ymarferol yn y gweithle. Fel rhan o'ch rhaglen byddwch hefyd yn dilyn rhaglen astudio unigol (yn ddibynnol ar broffil gradd) a fydd yn cynnwys cyfuniad o Fagloriaeth Cymru (sy'n eich galluogi i ennill pwyntiau UCAS ychwanegol), Llythrennedd, Rhifedd, Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol.

Yn ogystal â hyn, bydd pob dysgwr yn ymgymryd â Lleoli Gwaith ac Ymgysylltu â'r Sector gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol yn barod ar gyfer Prifysgol neu waith.

Bydd gennych diwtor personol a sesiynau tiwtorial unigol. Bydd eich tiwtor personol yn olrhain ac yn cefnogi eich datblygiad a'ch dilyniant academaidd a phersonol, er enghraifft, byddwn yn eich cefnogi gyda'ch cais UCAS os ydych chi'n bwriadu symud ymlaen i'r Brifysgol.

Cyflwynir yr uchod trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Prosiectau
  • Gweithdai ymarferol
  • Astudio mewn amgylchedd gwaith realistig
  • Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
  • Gwaith grŵp
  • Lleoliad gwaith

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir rhaglen Alwedigaethol L3 trwy asesiad mewnol (50%) ac asesiad allanol (50%).

Bydd y rhaglen lawn hefyd yn cynnwys asesiad trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Mae'r rhaglen yn eich galluogi i fodloni gofynion UCAS ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch amrywiol mewn llawer o brifysgolion ledled y DU.

Bydd y cwrs yn caniatáu i chi symud ymlaen i ystod o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, fe allech chi symud ymlaen i nifer o raglenni, gan gynnwys:

Mae'r rhaglen hefyd yn gwella'ch cyflogadwyedd ac yn rhoi gwybodaeth a sgiliau pwysig i chi. Bydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn unrhyw faes iechyd a gofal cymdeithasol, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl astudiaeth bellach. Mae'r rhain yn cynnwys nyrsio pediatreg, nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl, bydwreigiaeth, therapi galwedigaethol, polisi cymdeithasol, radiograffeg, astudiaethau plentyndod, ffisiotherapi, trin traed, seicoleg, cymdeithaseg, troseddeg, therapïau cyfannol ac ymarfer gweithredu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Llangefni
  • Pwllheli
  • Llandrillo-yn-Rhos

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date