Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Cofrestrwch
×

Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 2

Dysgwyr sy'n Oedolion

Llangefni

Disgrifiad o'r Cwrs

Os hoffech chi fod yn fecanic neu dechnegydd sy'n gweithio gyda lorïau neu fysiau a'ch bod eisoes wedi cwblhau'r Cwrs Sylfaen Lefel 1, yna fe allai'r cwrs Lefel 2 mewn Trin a Thrwsio Cerbydau Trwm fod yn addas i chi.

Cynlluniwyd y cwrs Lefel 2 hwn i adeiladu ar y sgiliau technegol a'r wybodaeth academaidd a ddysgoch ar y cwrs Lefel 1. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu'n ymarferol mewn gweithdai. Mae'n codi eich sgiliau i lefel y diwydiant ac yn eich paratoi i fod yn fecanic neu dechnegydd sy'n gweithio gyda lorïau.

Peirianneg Uwch (gyda lleoliad mewn diwydiant:
Yn ogystal â dilyn y cwrs, mae'n ofynnol eich bod yn cael profiad gwaith am o leiaf 150 awr yn ystod y flwyddyn, fel arfer am ddiwrnod yr wythnos. ⁠Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen a mynd ymlaen i brentisiaeth neu gwrs Lefel 3 mewn Trwsio Cerbydau Modur.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen i chi:

  • Fod wedi cwblhau'r cwrs Trin a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1 NEU
  • Fod â chefndir academaidd da a phrofiad perthnasol mewn diwydiant NEU
  • Fod wedi ennill cymhwyster estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg (gyda lleoliad mewn diwydiant)
  • Bod wedi ennill 4 TGAU A*-C, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg – gyda diddordeb mawr mewn peirianneg ac awydd cryf i weithio yn y diwydiant. (Asesir mewn cyfweliad)

Mae'r broses ymgeisio yn cynnwys cyfweliad a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs, eich profiad blaenorol ac unrhyw hyfforddiant neu gymwysterau a all fod gennych.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd a hyfforddiant dan oruchwyliaeth hyfforddwr i feithrin gwybodaeth greiddiol
  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gwaith realistig
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein ac o bell
  • Ymweliadau â Diwydiannau a Ffeiriau Masnach

Mae'r pum gweithdy ar gampws Llangefni'n cynnwys yr offer safonol diweddaraf a ddefnyddir gan y diwydiant i wneud gwaith diagnosteg a chynnal a chadw ar geir, faniau, loriau a thryciau. Mae'r offer yn cynnwys: Dynamometr dwy olwyn ar roleri, ramp MOT ATL 4 postyn llawn, laser alinio 4 olwyn, y sganwyr a'r sgopau diagnosteg diweddaraf ar gyfer cerbydau ysgafn a thrwm, rig hybrid, labordy awtotroneg a chyfleusterau aerdymheru.

Mae'r holl staff wedi'u hyfforddi yn y diwydiant.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol mewnol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth i:

  • fod yn fecanic neu dechnegydd lorïau neu fws
  • gwneud cais am brentisiaeth (Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Trwm))
  • gwneud cais i ddilyn y cwrs Lefel 3 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

n/a

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur

Myfyrwyr yn gweithio ar gar
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date