Helpu eich Plentyn gyda Mathemateg (Ysgol Gynradd)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Helpu eich Plentyn gyda Mathemateg (Ysgol Gynradd)Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd erioed wedi meddwl "Beth ar y ddaear mae fy mhlant yn ei wneud yn eu gwersi mathemateg y dyddiau hyn?!" neu "Sut mae'n bosib i mi helpu fy mhlentyn gyda'i waith cartref mathemateg?" Mae'n debyg bod y ffordd y caiff mathemateg ei ddysgu yn yr ysgol y dyddiau hyn yn wahanol iawn i'r ffordd y cawsoch chi eich dysgu. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth dda o'r holl feysydd mathemateg gwahanol a sut maen nhw'n cael eu defnyddio gan ddisgyblion mewn ysgolion cynradd y dyddiau hyn. Byddwn hefyd yn rhoi llawer o awgrymiadau i chi ar sut i wneud mathemateg yn ymarferol ac yn hwyl.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Cyrsiau mathemateg pellach
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+), Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Lluosi