Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo neu Gynhyrchu (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein )
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyd at 5 awr o astudiaeth + arholiad
Cost: £70
Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo neu Gynhyrchu (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein )Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae hyder y cyhoedd o ran diogelwch bwyd yn bryder mawr ar gyfer unrhyw fusnes yn y sector bwyd. Gydag archwilio cyhoeddus, cyfryngau a deddfwriaethol cynyddol, mae busnesau bwyd angen cael pethau'n iawn y tro cyntaf, pob tro. Gwnewch yn siwr fod eich staff yn deall eu rôl mewn cynnal diogelwch bwyd.
Mae'r cwrs Diogelwch Bwyd e-ddysgu Lefel 2 yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio lle mae bwyd yn cael ei goginio, ei baratoi neu ei drin. Mae'n cyfarfod yr holl ofynion cyfreithiol ac yn cynnig cydymffurfiad llawn ar gyfer pobl sy'n trin bwyd sy'n wynebu risg-uchel.
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Mae rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n gysylltiedig gyda thrin bwyd i gael eu hyfforddi yn briodol mewn diogelwch bwyd. Mae'r cwrs wedi ei anelu at unrhyw un sy'n gweithio lle mae bwyd yn cael ei goginio, ei baratoi neu ei drin.
Gellir hefyd defnyddio'r cwrs fel rhan o elfen ar-rhaglen y safonau prentisiaeth newydd, a gall gefnogi'r wybodaeth, sgiliau a'r ymddygiad mae prentisiaid eu hangen i integreiddio yn llwyddiannus i'r gweithle.
Meysydd a Gwmpesir:
- Cyflwyniad i ddiogelwch bwyd
- Peryglon microbiolegol
- Gwenwyno bwyd a'i reolaeth
- Peryglon halogi a rheolyddion
- HACCP o'r dosbarthu i wasanaeth
- Hylendid personol
- Llefydd bwyd a chyfarpar trin bwyd
- Plâu bwyd a rheoli plâu
- Glanhau a diheintio
- Gorfodi diogelwch bwyd
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Fodd bynnag, mae'r dechnoleg ganlynol yn ofynnol ar gyfer cytunedd:
Gliniadur/ Cyfrifiadur Personol Bwrdd Gwaith - Internet Explorer 11, Microsoft Edge, Google Chrome, Mozilla Firefox
Apple iMacs/Macbooks - Safari, Google Chrome, Mozilla Firefox
iPads - Safari, Google Chrome for Tablets
Tabledi Android/Windows - Google Chrome for Tablets, Mozilla Firefox, Microsoft Edge, Internet
Explorer 11
NODER: Mae galluogi JavaScript a chysylltiad band eang sefydlog yn ofynnol
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell ar-lein.
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiad amlddewis (Oruchwylio).
Dilyniant
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Diogelwch Bwyd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Lletygarwch ac Arlwyo
Dwyieithog:
n/aLletygarwch ac Arlwyo
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: