Dyfarniad Highfield Lefel 3 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Fanwerthu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Dolgellau, Parc Menai - Busnes@LlandrilloMenai, Llwyn Brain
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
Dyfarniad Highfield Lefel 3 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu FanwerthuCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gyfraith yn nodi bod angen i'r rhai sy'n trin bwyd gael eu hyfforddi yn unol â'u gweithgareddau trin bwyd yn y gwaith. Os bydd gweithiwr yn cyflawni cymhwyster diogelwch bwyd Highfield, sy'n addas ar gyfer y gwaith maent yn eu gwneud, bydd yn helpu'r gweithredwyr busnes bwyd i brofi eu bod wedi dangos diwydrwydd ac felly'n ufudd yng ngolwg y gyfraith. Gall amgylcheddau cyffredin gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, mannau adwerthu, ffatrïoedd, arlwyo i gontract, bwytai prydau cyflym , ysbytai, cartrefi preswyl a nyrsio, ysgolion, carchardai a'r lluoedd arfog.
Diogelwch Bwyd Lefel 3- sicrhau bod y goruchwylwyr yn ymwybodol o ddeddfau sy'n berthnasol i ddiogelwch bwyd a sut i gyfathrebu'r safonau angenrheidiol i weithwyr.
Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at
- Oruchwylwyr, arweinyddion tîm, a rheolwyr llinell sy'n gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu, yn cynnwys y rheiny sy'n gweithio ym maes dosbarthu a storio;
- Goruchwylwyr, arweinwyr tîm a rheolwyr syn gweithio yn y diwydiant arlwyo, yn cynnwys y rheiny sy'n gweithio yn y sector gofal;
- Goruchwylwyr, arweinyddion tîm, a rheolwyr llinell sy'n gweithio yn y diwydiant manwerthu a diwydiannau cysylltiedig.
- Rheiny sy'n berchen/rheoli busnes arlwyo bach.
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ennill y Dyfarniadau canlynol ( Dylai ymgeiswyr nodi pa ddyfarniad y dymunant ei gwblhau wrth wneud cais am y cwrs ) :
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Manwerthu
Pynciau
- Sut y gall gweithredwyr busnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda deddfau diogelwch bwyd,
- Gweithrediad a monitro arferion hylendid da,
- Sut i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith
- Rôl goruchwylwyr mewn perthynas â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.
Dyddiadau Cwrs
Busnes@ Dolgellau
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
08/05/2025 | 09:00 | Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 0 / 12 | D0003637 |
Busnes@Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
06/02/2025 | 09:00 | Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 2 / 12 | D0003634 |
Busnes@Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
02/04/2025 | 09:00 | Dydd Mercher, Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 0 / 12 | D0005050 |
Busnes@Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09/07/2025 | 09:00 | Dydd Mercher, Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 0 / 12 | D0003633 |
Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
06/03/2025 | 09:00 | Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 1 / 12 | FTC00071 |
Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
12/06/2025 | 09:00 | Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 0 / 12 | FTC00072 |
Gofynion mynediad
- Dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelwch bwyd
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd neu gymhwyster cyfatebol (yn ddelfrydol)
Cyflwyniad
- Sesiynau addysgu
- Gwaith grŵp
Asesiad
Prawf amlddewis.
Dilyniant
Dyfarniad Lefel 4 mewn Rheoli Diogelwch Bwyd
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni
Lletygarwch ac Arlwyo
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: