Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2, 3 a 4

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • Lefel 2: 14-18 mis
    • Lefel 3: 18 mis
    • Lefel 4: 18 mis
Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2, 3 a 4

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo yn cynnwys gwestai, tai bwyta, caffis tafarndai, a gwasanaethau arlwyo a lletygarwch dan gontract.

Mae Prentisiaid Lefel 2 yn gweithio mewn swyddi amrywiol yn y diwydiant lletygarwch. Golyga hyn y byddant un ai’n gwneud ychydig o bopeth neu’n arbenigo mewn gweithio yn y gegin, gweithio yn y dderbynfa neu flaen y tŷ, neu waith tŷ.

Ar Lefel 3 mae'r llwybr Coginio Proffesiynol wedi'i gynllunio i roi sgiliau i unigolion weithio fel Sous Chef neu Uwch Chef. Mae’r llwybr Goruchwylio ac Arwain ym maes Lletygarwch ar gyfer unrhyw un sydd eisoes yn arwain tîm ac mae’n darparu hyfforddiant i helpu unigolion ifod yn Rheolwr neu Oruchwyliwr Gwesty, Prif Dderbynnydd neu Bennaeth Gwaith Tŷ mewn amgylchedd lletygarwch.

Mae Rheoli yn maes Lletygarwch Lefel 4 ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn swydd rheoli ac sydd am wella eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

Lefel 2

  • Coginio Proffesiynol
  • Cynhyrchu Bwyd a Choginio
  • Gwasanaethau Lletygarwch
  • Gwasanaeth Bwyd a Diod
  • Lletygarwch Trwyddedig
  • Gwaith Tŷ
  • Gwaith blaen y tŷ
  • Pobi

Lefel 3

  • Coginio Proffesiynol
  • Goruchwylio ac Arwain ym maes Lletygarwch

Lefel 4

  • Rheoli ym maes Lletygarwch

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn Lletygarwch yn ddymunol.
  • Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3/4.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2,3+4

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Dwyieithog:

n/a

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Myfyriwr yn gweithio mewn cegin