Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    34 wythnos, rhan amser (1 diwrnod yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i reolwyr canol. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.

Gallwch ddewis astudio yn ein campws yn Llandrillo-yn-rhos, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Gofynion mynediad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond fel rheol dylai'r rhai sy'n dilyn y rhaglen:

  • Fod â chymhwyster Lefel 4 ym maes rheoli, neu brofiad proffesiynol cyfatebol
  • Bod yn gweithio fel rheolwr
  • Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
  • Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
  • Cwblhau modiwlau'r Dyfarniad a'r Dystysgrif Lefel 5 yn rhan o'r Diploma, os yw hynny'n berthnasol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Portffolio
  • Cyflwyniadau llafar
  • Adolygiadau adfyfyriol

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch barhau i wneud cynnydd yn eich gyrfa ym maes rheoli. Byddwch yn datblygu'n rheolwr mwy effeithiol ac effeithlon, gan ragori yn eich gwaith proffesiynol. Mae'n bosib y gallwch anelu at gael eich dyrchafu'n rheolwr canol neu'n uwch reolwr.

Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Dyfarniad Lefel 6 yr ILM mewn Arwain a Rheoli a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Bydd y dyfarniad hwn yn eich paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwr. Wedyn, gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglen Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 7 er mwyn i chi feithrin sgiliau uwch reoli o'r radd flaenaf.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

cysylltwch â ilm@gllm.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell