Achrediad IMI Lefel 2 mewn Calibro ADAS (Advanced Driver Assistance Systems) - Llwybr Llawn
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Y Rhyl
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Undydd, 8 o oriau dysgu dan arweiniad
Achrediad IMI Lefel 2 mewn Calibro ADAS (Advanced Driver Assistance Systems) - Llwybr LlawnCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r modiwl unigol hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod gan dechnegwyr y gallu i galibro systemau ADAS. Mae'n dangos gallu'r technegydd i nodi a dehongli'n gywir y wybodaeth sy'n gysylltiedig â cherbyd penodol a'i nodweddion ADAS er mwyn penderfynu pa ddull calibro sydd ei angen.
Gofynion mynediad
Dylai technegwyr sydd am wneud y modiwl unigol hwn fod yn gweithio yn y diwydiant cerbydau modur a bod â phrofiad diagnostig perthnasol er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau sydd eu hangen i galibro systemau ADAS.
Cyflwyniad
Wyneb yn wyneb.
Asesiad
Asesiad ymarferol ac arholiad ar-lein.
Dilyniant
Y cymhwyster hwn yw'r dull mynediad swyddogol i gael cydnabyddiaeth TechSafe™. Bydd yn caniatáu i chi gael lle ar ein Cofrestr Broffesiynol ac yn dangos i'r diwydiant cerbydau modur a thu hwnt eich bod yn gymwys yn eich swydd ac yn gyfarwydd â'r dechnoleg a'r wybodaeth ddiweddaraf. Dechreuwch arni heddiw.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Technoleg Cerbydau Modur
Technoleg Cerbydau Modur
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: