Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Nos Lun, 6 - 8pm. 10 wythnos y tymor. 2 awr yr wythnos.

Cofrestrwch
×

Tylino Pen Indiaidd

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi eisiau dysgu sgil newydd ymlaciol sy'n rhoi boddhad?

Rydym yn cynnig cwrs Tylino Pen Indiaidd rhan-amser a fydd yn dangos i chi sut i ddefnyddio technegau tylino mewn amgylchedd glân a diogel.

⁠Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Arferion Iechyd a Diogelwch
  • Manteision cydbwyso egni'r corff
  • Mannau aciwbwyso ar y pen, yr wyneb a'r gwddf
  • Technegau tylino'r pen yn effeithiol

Dilyniant i gwrs sut i dylino'r corff cyfan neu gwrs rhan-amser ym maes harddwch

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Cynhelir y gwersi yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a fydd yn cynnwys dangos, rhannu ac arwain.

Asesiad

Ddim.

Dilyniant

Cewch roi cynnig ar gyrsiau hamdden eraill sy'n mynd â'ch bryd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Sgiliau Bywyd