Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 wythnos, 3 awr yr wythnos
Cyflwyniad i Ffotograffiaeth DdigidolDysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yn gyflwyniad i ffotograffiaeth ddigidol ac i ddefnyddio camera digidol. Mae'r cwrs yn ymdrin â chyfansoddiad, fel y rheol traeanau, technegau ffotograffig, rheolyddion camera a mathau o gamerâu.
Bydd yn cynnwys rhai tasgau golygu lluniau gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol. Byddai bod wedi dilyn cwrs cyfrifiadurol i ddechreuwyr yn eich helpu i wneud cynnydd ar y cwrs hwn.
Dyddiadau Cwrs
Bangor Ty Cyfle
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
30/04/2025 | 09:30 | Dydd Mercher | 2.50 | 8 | Am ddim | 0 / 14 | D0022902 |
Gofynion mynediad
- Addas i ddechreuwyr sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth ac sy'n chwilfrydig.
- Addas i'r rhai efo profiad o ddefnyddio cyfrifiadur.
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cynhelir y gwersi mewn uned gyfrifiadurol lawn cyfarpar a defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau addysgu. Bydd yna ddarlithiau, trafodaethau ac arddangosiadau ymarferol, clipiau fideo a gwaith prosiect.
Asesiad
Mae'r cwrs hwn wedi ei seilio ar bortffolio, felly byddwch yn creu ffolder o'ch gwaith sy'n cwmpasu dwy uned ac a farciwyd gan y tiwtoriaid.
Dilyniant
Ffotograffiaeth Ddigidol, Lefel 1
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
- Cyrsiau Hamdden
Dwyieithog:
n/aCelf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Cyrsiau Hamdden
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: