Cyflwyniad i'r Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Bangor (Campws Newydd), Dolgellau
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr - ffi cwrs £75
Cyflwyniad i'r Cyfryngau Cymdeithasol i FusnesauCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i'r cyfryngau cymdeithasol, gan drafod gwahanol lwyfannu, strategaethau, creu cynnwys, a monitro.
Bydd y myfyrwyr yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddibenion personol a phroffesiynol.
Amcanion y cwrs:
- Deall cyfryngau cymdeithasol amrywiol a'u manteision.
- Datblygu strategaethau cyfryngau cymdeithasol effeithiol ar gyfer nodau penodol.
- Dysgu technegau ar gyfer creu cynnwys diddorol.
- Meithrin sgiliau ar gyfer monitro a dadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Strwythur y Cwrs:
1. Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol:
Trosolwg o bwysigrwydd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
2. Sianeli Cyfryngau Cymdeithasol Gwahanol:
Nodweddion, cynulleidfaoedd targed a chyfyngiadau llwyfannau poblogaidd.
3. Strategaethau Cyfryngau Cymdeithasol:
Gosod targedau, denu cynulleidfa a thechnegau optimeiddio.
4. Creu cynnwys ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol:
Ysgrifennu penawdau bachog, egwyddorion dylunio gweledol ac elfennau amlgyfrwng.
5. Monitro a dadansoddi cynnwys:
Adnoddau ar gyfer tracio perfformiad a gwneud penderfyniadau ar sail data.
6. Moeseg y Cyfryngau Cymdeithasol a Rheoli Delwedd Ar-lein:
Creu cynnwys mewn ffordd gyfrifol a rheoli presenoldeb ar-lein.
Mae'r cwrs Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol yn sylfaen ymarferol ar gyfer rheoli'r cyfryngau cymdeithasol ac yn arfogi myfyrwyr â'r
sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn y byd digidol.
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor.
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol.
Dilyniant
NVQ Lefel 3 mewn Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Abergele
- Bangor (Campws Newydd)
- Dolgellau
Dwyieithog:
Ydi.
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: