Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Peirianneg Diwydiannau'r Tir

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys gweithdai peirianneg pwrpasol a chaiff myfyrwyr y cyfle i weithio ar y peiriannau a ddefnyddir ar fferm fasnachol 160 hectar y coleg.

Mae'r cyfleusterau yma yng Nglynllifon yn cynnwys gweithdy peirianneg pwrpasol a chyfleusterau weldio a ffabrigo modern. Mae'r dysgwyr yn cael profiadau realistig a pherthnasol gan weithio'n agos gyda'r fferm ar safle'r coleg lle defnyddir ystod o beiriannau amaethyddol modern a’u cynnal a’u cadw.

Mae'r adran hefyd yn gweithio'n agos gyda busnesau a chyflogwyr lleol. Mae unedau penodol o'r cyrsiau'n trafod pynciau fel technoleg peiriannau, gweithrediadau peiriannau, hwsmonaeth cnydau a da byw, rheoli busnes, technoleg ffermio manwl, offer diagnostig, arferion gweithdai ac unedau pŵer. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i ennill cymwysterau a sgiliau ychwanegol megis gyrru beiciau cwad, trin tractorau, defnyddio peiriannau codi telesgopig, ac ati.

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 2 hyd at gyrsiau Lefel 3.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Peirianneg Diwydiannau'r Tir


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyriwr yn weldio