Technoleg Diwydiannau'r Tir Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Technoleg Diwydiannau'r Tir Lefel 2Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ym maes peirianneg diwydiannau'r tir? A fyddech chi'n elwa o ddilyn cwrs Lefel 2 ymarferol a galwedigaethol?
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth am beirianneg, ac sydd am ddysgu rhagor. Bydd yn eich paratoi i ddechrau eich gyrfa, gan roi dealltwriaeth werthfawr i chi o beirianneg, gan ganolbwyntio ar gyd-destunau ym maes diwydiannau'r tir. Bydd hefyd yn eich galluogi i fynd ymlaen i ennill cymwysterau uwch.
Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 1 mewn Peirianneg Diwydiannau'r Tir, i rai sydd newydd sefyll eu TGAU, neu i rai sydd â phrofiad blaenorol. Canolbwyntia ar waith ymarferol, a chynhelir sesiynau yn y dosbarth i'ch helpu i ehangu'ch gwybodaeth sylfaenol. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol sydd yng Nglynllifon ac ar arbenigedd ein staff.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith ymarferol, gyda sesiynau yn y dosbarth i wella dealltwriaeth
- Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno gyfleusterau ym maes peirianneg amaethyddol, peirianneg drydanol a weldio er mwyn i chi allu astudio mewn amgylchedd realistig.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Asesiadau ymarferol yn y rhan fwyaf o'r unedau
- Aseiniadau ysgrifenedig i ddangos eich dealltwriaeth
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Peirianneg Diwydiannau'r Tir Lefel 3
- Rhaglenni Peirianneg eraill ar gampysau eraill
Gallech hefyd fynd ymlaen i ddilyn Prentisiaeth neu i waith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Peirianneg Diwydiannau'r Tir
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Glynllifon
Peirianneg Diwydiannau'r Tir
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: